Rhun ap Iorwerth i fod yn Brif Weinidog Cymru o fewn dyddiau

Fe allai Rhun ap Iorwerth gael ei ethol yn Brif Weinidog mor fuan â dydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Fe all Cymru cael ei Phrif Weinidog Plaid Cymru cyntaf yr wythnos hon ar ôl i dair o bleidiau'r Senedd awgrymu y gwnawn nhw naill ai gefnogi Rhun ap Iorwerth neu atal eu pleidlais.
Mae arweinydd dros dro Llafur, Ken Skates, wedi awgrymu y byddai ei grŵp yn atal eu pleidlais.
Mae unig aelod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn y Senedd, Jane Dodds, hefyd wedi dweud ei bod yn bwriadu atal ei phleidlais hithau.
Ond fe fydd y Blaid Werdd yn cefnogi Rhun ap Iorwerth, sy'n golygu nad oes gan y pleidiau eraill y rhifau i rwystro'i enwebiad.
Fe allai'r bleidlais fod mor gynnar â dydd Mawrth, a'r oll sydd angen ar Rhun ap Iorwerth yw cael mwy o bleidleisiau nag unrhyw ymgeisydd arall, yn hytrach na mwyafrif, i ennill.

Fydd ASau Reform yn enwebu eu harweinydd nhw, Dan Thomas, i fod yn Brif Weinidog ond dyw'r rhifau yn y siambr ddim o'u plaid
Mae Reform wedi dweud y bydden nhw'n enwebu eu harweinydd nhw, Dan Thomas.
Fe fydd y Ceidwadwyr yn penderfynu beth yw eu cynlluniau nhw mewn cyfarfod yn ystod y dydd - beth bynnag wnawn nhw does ganddyn nhw ddim y rhifau i rwystro Plaid Cymru.
Ond cyn y bleidlais dyngedfennol, mae'n rhaid i'r Senedd ethol Llywydd.
Hyd yma, dim ond Paul Davies o'r Ceidwadwyr sydd wedi cynnig ei hun am y swydd.
'Pobl wedi dewis gobaith' yn ôl arweinydd Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Dim sedd yn 2021 - 34 yn 2026: Pa newid ddaw yn sgil llwyddiant Reform?
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Eluned Morgan: Y prif weinidog na allai atal y llanw
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Fe rybuddiodd Rhun ap Iowerth ddydd Sul ei fod yn barod i 'fynd â'r frwydr' at Lywodraeth y DU a'u dwyn i gyfrif os nad ydyn nhw'n "gwneud y peth cywir dros Gymru"
Beth bynnag y trefniadau a'r cyffro ym Mae Caerdydd wrth i Blaid Cymru baratoi i ffurfio llywodraeth leiafrifol, gwella'r gwasanaeth iechyd yw'r prif flaenoriaeth i lawer o etholwyr.
Daeth hynny'n amlwg wrth holi pobl ym Mhwllheli, waeth pa blaid gafodd eu cefnogaeth yn yr etholiad ddydd Iau diwethaf.

Fel un a bleidleisiodd dros Blaid Cymru, roedd canlyniad yr etholiad "yn dda iawn", medd Valerie Griffiths, ond mae hi eisiau mwy o gefnogaeth i'r GIG ac i fusnesau er mwyn "helpu i gadw siopa' i fynd" achos "mae'n reit ddistaw 'di mynd" yn rhannau o Bwllheli

Reform gafodd pleidlais Merfyn Roberts, sy'n teimlo bod angen i'r llywodraeth newydd ganolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd a "sortio pobl sydd ar benefits"

Ar ôl cefnogi Plaid Cymru yn yr etholiad, mae Gerallt Wyn Griffiths hefyd eisiau blaenoriaethu gwasanaethau ysbyty a "rhoi mwy o arian iddyn nhw - stopio'r waiting lists 'ma"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.