Cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig eisiau bod yn Llywydd nesaf y Senedd

"Mae gen i'r profiad i hyrwyddo Senedd Cymru ac mae gen i ddealltwriaeth glir o'i Rheolau Sefydlog a'i gweithdrefnau," meddai Paul Davies mewn datganiad
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi cadarnhau y byddai'n hoffi bod yn Llywydd nesaf y Senedd.
Elin Jones o Blaid Cymru sydd wedi bod yn y rôl ers 2016 ond mae eisoes wedi cyhoeddi y byddai'n camu i lawr.
Felly, mae disgwyl i rywun newydd gamu i'r rôl. Mr Davies fyddai'r Ceidwadwr cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer y rôl yn y Senedd.
Er mwyn i hynny ddigwydd mi fydd angen iddo gael cefnogaeth gan grwpiau Plaid Cymru neu Reform UK yn gyntaf.
Dywedodd yr AS i Geredigion Penfro fod ganddo'r "profiad i hyrwyddo Senedd Cymru".
Gallai pleidlais am Lywydd y Senedd ddigwydd mor gynnar â dydd Mawrth. Nid oes unrhyw ymgeiswyr eraill wedi rhoi eu henwau ymlaen eto.

Mae Elin Jones, sydd wedi bod yn y rôl ers 2016, eisoes wedi cyhoeddi y byddai'n camu i lawr
Mewn Datganiad fe ddywedodd Mr Davies bod "llawer o ddyfalu wedi bod ers yr etholiad ynghylch pwy fydd yn cymryd rôl y Llywydd nesaf yn y Senedd".
"Hoffwn ei gwneud hi'n glir, ar ôl ymgynghori â chydweithwyr ac ar ôl cael fy annog i wneud hynny gan eraill, y byddaf yn cynnig fy enw i fod y Llywydd nesaf.
"Mae gen i'r profiad i hyrwyddo Senedd Cymru ac mae gen i ddealltwriaeth glir o'i Rheolau Sefydlog a'i gweithdrefnau.
"Fel y Llywydd Dros Dro yn y Senedd flaenorol, ac fel cyn-Gadeirydd Pwyllgor a Rheolwr Busnes yn Senedd Cymru, mae gen i'r sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'r rôl bwysig hon."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

