Bob Mortimer: Cael cynnig swydd gan dditectif preifat o Gymru cyn ei lofruddiaeth

Roedd Bob Mortimer yn gyfreithiwr yn Llundain yn yr 1980au cyn iddo fynd i fyd comedi
- Cyhoeddwyd
Mae'r comedïwr Bob Mortimer wedi dweud iddo gyfarfod ditectif preifat o Gymru ddyddiau yn unig cyn iddo gael ei ddarganfod yn farw gyda bwyell yn ei ben.
Fe gafodd gynnig swydd gan Daniel Morgan, o Lanfrechfa ger Cwmbrân, a gafodd ei lofruddio mewn maes parcio tafarn yn ne-ddwyrain Llundain yn 1987.
Does neb wedi eu cyhuddo o'i lofruddio ac mae'r achos wedi dod yn un adnabyddus.

Mae teulu Daniel Morgan, a oedd yn dad i ddau, wedi bod yn brwydro am gyfiawnder ers bron i bedwar degawd
Fe gafodd Heddlu'r Met eu cyhuddo o "lygredd sefydliadol" gan banel annibynnol yn 2021 am guddio a gwadu eu methiannau yn yr ymchwiliad.
Yn 2023 fe wnaeth y llu ymddiheuro am beidio datgelu dogfennau mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth gan ddweud eu bod wedi cael eu darganfod mewn cwpwrdd yn eu pencadlys.
Daniel Morgan: Dod o hyd i ddogfennau mewn cwpwrdd
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
Mewn cyfweliad ar bodlediad The Romesh Ranganathan Show, dywedodd Bob Mortimer ei fod wedi cyfarfod Mr Morgan cyn iddo ddechrau yn y byd comedi.
Ar y pryd roedd yn gweithio fel twrnai yn ardal Peckham, Llundain, yn gwneud gwaith cymorth cyfreithiol ac ar gyflog isel. Daeth i adnabod Mr Morgan gan fod ei gyflogwr weithiau'n defnyddio'r ditectif preifat mewn achosion.
Fe gafodd Mr Mortimer wahoddiad i'w gyfarfod mewn tafarn i drafod y posibilrwydd o ddechrau gweithio iddo.
"Wnaeth o gynnig gwaith i mi – oedd yn lot fwy o bres," meddai. "Tua phedwar diwrnod yn ddiweddarach cafodd ei ddarganfod yn farw, gyda bwyell yn ei ben, mewn maes parcio tu ôl i dafarn yn Sydenham.
"Mae'n achos eithaf enwog - Daniel Morgan."
Ysbrydoli nofel
Dywedodd bod y digwyddiad wedi ysbrydoli ei nofel gyntaf The Satsuma Complex, a gafodd ei chyhoeddi yn 2022.
Eglurodd nad ydi o'n cynllunio ei nofelau o flaen llaw ond yn tueddu i feddwl am un olygfa neu sefyllfa ac yna'n dechrau ysgrifennu.
Meddai: "Tydi'r llyfr ddim ynglŷn â (llofruddiaeth Daniel Morgan) – ond 'nes i feddwl 'wna i fynd i'r lle yna (i ddechrau), fydd tua 2,000 o eiriau' ac wedyn meddwl 'lle wna i fynd rŵan?' Rhywsut ti'n gorffen gyda llyfr."
Yn The Satsuma Complex mae'r prif gymeriad Gary Thorn, sy'n gweithio fel cymhorthydd cyfraith, yn cyfarfod ei gyd-weithiwr Brendan mewn bar.
Drannoeth mae Brendan yn cael ei ganfod yn farw ac mae'r prif gymeriad, sef y person olaf i'w weld yn fyw, yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd iddo.

Bob Mortimer, dde, gyda'i bartner comedi Vic Reeves, neu Jim Moir
Fe ysgrifennodd Bob Mortimer nofel arall am y cymeriad Gary Thorn - Hotel Avocado.
Daeth y comedïwr yn enwog yn yr 1990au gyda chyfresi Vic and Bob's Big Night Out a Shooting Stars.
Yn ddiweddar mae wedi serennu ar Would I Lie to You?, Last One Laughing a Mortimer & Whitehouse: Gone Fishing,
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021

- Cyhoeddwyd1 Awst 2019
