Lluniau: Gŵyl Cerdd Dant 2026

Daeth cannoedd o gystadleuwyr i Galeri Caernarfon ar gyfer Gŵyl Cerdd Dant 2026
- Cyhoeddwyd
Ar 14 Tachwedd daeth yr Ŵyl Cerdd Dant i Galeri Caernarfon, gyda chystadleuwyr ledled Cymru arddangos eu doniau canu. Roedd 'na hefyd perfformiadau offerynnol a dawnsio i'w gweld ar y llwyfan.
Dyma ychydig o'r hyn oedd i'w weld.

Roedd y llwyfan yn brysur drwy'r dydd, gyda gwledd o berfformiadau o bob math

Côr y Doc oedd enillwyr cystadleuaeth y côr cerdd dant agored

Gwennan Gibbard yn dathlu llwyddiant Côr yr Heli yn y gystadleuaeth côr alaw werin agored

Roedd dathlu mawr i Grŵp Madryn wedi iddynt ennill y gystadleuaeth stepio

Roedd Parti'r Cwm yn fuddugol ar y parti alaw agored a parti cerdd dant

Academi Delyn Cymru oedd enillwyr yr ensemble telyn agored.

Gwennan Pyrs yn dathlu llwyddiant Côr y Doc

Roedd y llwyfan yn fwrlwm o weithgarwch wrth i gystadleuwyr arddangos eu doniau

Daeth ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o'r wlad i Galeri Caernarfon ar gyfer yr ŵyl

Roedd croeso arbennig i'r ŵyl eleni wrth iddi ddychwelyd i Gaernarfon am y tro cyntaf ers 30 mlynedd

Bu cyfeilwyr medrus yn rhan allweddol o nifer o'r perfformiadau ar y llwyfan

Yr Ŵyl Cerdd Dant yw'r ŵyl gystadleuol undydd fwyaf o'i bath yng Nghymru

Parti Pen Barras oedd enillwyr y gystadleuaeth parti cerdd dant cynradd

Lois, Fflur a Leisa gipiodd y brif wobr yn y gystadleuaeth deuawd/triawd cerdd dant

Bu perfformwyr o bob oed yn diddanu'r gynulleidfa drwy gydol y dydd

Ysgol y Gelli oedd enillwyr y gystadleuaeth parti alaw werin cynradd
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd22 Mehefin
