Rhun ap Iorwerth yn barod i 'fynd â'r frwydr' at Lywodraeth y DU

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Rhun ap Iorwerth yn annerch torf tu allan i'r Senedd ddydd Sadwrn wedi llwyddiant ei blaid yn yr etholiad

  • Cyhoeddwyd

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud y bydd yn dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif os nad ydyn nhw'n "gwneud y peth cywir dros Gymru".

Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf ym Mae Caerdydd yn Senedd nesaf Cymru ar ôl ennill 43 o seddi yn etholiad ddydd Iau.

Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Mr ap Iorwerth fod gan Lywodraeth y DU ddau ddewis: "Fe allan nhw gosbi Cymru am y ffordd rydym wedi pleidleisio yn yr etholiad yma neu fe allan nhw fyfyrio a chydnabod bod ein difaterwch wedi dod i'r amlwg".

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Llywodraeth y DU, Jo Stevens mai eu "safbwynt bob amser ydy os y bydd er budd Cymru ac yn gwneud bywydau pobl yng Nghymru'n well yna wrth gwrs byddwn ni yn gwneud pethau".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ei fod yn gobeithio y bydd y drafodaeth rhyngddo ef, Llywodraeth y DU a Jo Stevens yn "gallu digwydd cyn gynted â phosibl".

Gall ei ofynion i gael mwy o bwerau datganoledig "gael eu cyflwyno mewn bil Cymru newydd ar gyfer San Steffan," meddai.

Byddai'r ddeddfwriaeth, gall gael ei chyflwyno gan AS PLaid Cymru, yn "delio â chyllid teg, yr annhegwch o ran HS2, gan edrych ar feysydd yr heddlu a throsedd a chyfiawnder, a'r elfennau hynny o ran rheolaeth dros adnoddau naturiol sydd eu hangen arnom er mwyn symud ymlaen".

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth: "Aelodau Llafur a pholisi Llafur mewn rhai meysydd oedd yn gyfrifol, ond doedden nhw ddim yn fodlon mynd â'r frwydr at lywodraeth y DU.

"Wel, mae'r prif weinidog hwn yn fodlon mynd â'r frwydr honno at lywodraeth y DU."

Ond fe awgrymodd Jo Stevens mai gwasanaethau cyhoeddus oedd y flaenoriaeth ar gyfer pobl Cymru, nid datganoli.

Dywedodd: "Does neb wedi siarad â fi am y peth - gallaf ddweud yn onest nad oes unrhyw un wedi codi'r mater gyda fi".

Yn y gorffennol mae Ms Stevens wedi cael ei beirniadu gan rai o fewn ei phlaid Lafur ei hun am fod yn "wrth-ddatganoli".

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen ennill pleidlais aelodau'r Senedd yr wythnos hon i benodi Rhun ap Iorwerth yn brif weinidog.

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod yn gobeithio cael ei wneud yn Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth, ar ôl i Blaid Cymru gael y nifer fwyaf o bleidleisiau yn etholiad y Senedd.

Mi fydd yn arwain y grŵp mwyaf ym Mae Caerdydd, gyda 43 o seddi, ond bydd dal angen ennill pleidlais aelodau'r Senedd i gael ei benodi'n brif weinidog.

Mae arweinydd dros dro Llafur Cymru, Ken Skates wedi dweud ei fod yn annhebygol y bydd yn gwrthwynebu Mr ap Iorwerth.

Dywedodd y Gwyrddion bod gan Mr ap Iorwerth eu cefnogaeth a bod hynny'n "'no-brainer'" gan eu bod yn credu y bydd yn "brif weinidog da" tra bod arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds yn dweud mai ymatal ei phleidlais y byddai hi'n ei gwneud pe bai enw ap Iorwerth yn cael ei gynnig.

Ar ôl i'r canlyniad gael ei gadarnhau dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod wedi siarad ag arweinwyr y pleidiau eraill i gyd heb law am Reform UK.

Roedd wedi cynnig cael sgwrs gyda Dan Thomas ond "ond doedden nhw ddim am siarad," meddai.

Ond yn ôl llefarydd ar ran Reform roedden nhw wedi sicrhau bod "sianel gyfathrebu glir" ar gael pe bai ap Iorwerth am gysylltu â Dan Thomas "ond dydy e ddim wedi gwneud hynny".

"Dywedodd Rhun nad oedd Dan eisiau siarad ag ef - dydy hynny ddim yn wir".

Mae Plaid Cymru'n mynnu eu bod yn gweithredu "mewn ffordd aeddfed" a'u bod wedi "cysylltu ag aelod uwch o dîm Dan Thomas i drefnu galwad fel sy'n arferol rhwng arweinwyr pleidiau ar ôl etholiad".

"Fe ddywedon nhw wrthym yn benodol na fyddai Dan Thomas ar gael ac y dylai unrhyw ohebiaeth fynd drwy aelod o'i staff."

Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth yn cael ei holi ar raglen newyddion arbennig ar BBC Radio Cymru fore Sul

Bellach gyda 43 o'r 96 sedd yn y Senedd, mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud mai'r nod yw ffurfio llywodraeth leiafrifol, gan gydweithio â phleidiau eraill ar ddeddfwriaeth a chyllidebau unigol.

Yn siarad ar raglen Etholiad arbennig ar BBC Radio Cymru fore Sul, dywedodd: "Mi oeddwn i'n sicr yn gallu siarad ag arweinyddion Llafur, Gwyrddion, Democratiaid Rhyddfrydol, Ceidwadwyr...er mwyn gosod y tôn gobeithio ar gyfer y math o Brif Weinidog dwi am fod a'r math o gydweithio sydd angen bod yn digwydd rŵan.

"Mi gynigais (i siarad â Reform UK) ond doedden nhw ddim am siarad.

"Mae ganddyn nhw waith dwi'n siŵr o drio cael trefn ar eu tŷ eu hunain wedi'r etholiad.

"Mi fydda i yn canolbwyntio ar y rheiny sydd am gydweithio 'efo ni – y rhai sydd yn gweld beth mae ein system etholiadol ddemocrataidd o'r math yma yn gofyn amdano."

Fe ymddangosodd Rhun ap Iorwerth hefyd ar Radio Wales fore Sul gydag arweinydd dros dro Llafur Cymru, Ken Skates.

Dywedodd Ken Skates ei fod yn annhebygol y bydd yn gwrthwynebu Mr ap Iorwerth.

Dywedodd Mr ap Iowerth ei fod "yn sicr mai dydd Mawrth yw'r hyn y byddem yn ei ffafrio" ond na fyddai unrhyw oedi yn oedi hir a bod Plaid yn awyddus i "ddechrau ar unwaith".

Dywedodd Mr Skates fod y syniad o "ymuno ag aelodau Reform" i rwystro Mr ap Iorwerth yn syniad "annymunol iawn" i aelodau Senedd Llafur ond y byddan nhw'n gwneud eu "penderfyniad terfynol" ddydd Llun.

Anthony Slaughter
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd y gwyrddion yn cefnogi Rhun ap Iorwerth i fod yn brif weinidog meddai arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru

Ddydd Sul fe ddywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, fod gan Rhun ap Iorwerth eu cefnogaeth.

Mr Slaughter a'i gydweithiwr Paul Rock ddaeth yr aelodau cyntaf o'r Blaid Werdd i ennill seddi yn etholiad y Senedd a'u bod wedi bod yn dathlu "canlyniad hanesyddol" er eu bod wedi disgwyl ennill mwy.

Dyw'r trafodaethau â Plaid Cymru heb ddechrau eto meddai ond mae Mr Slaughter yn credu y bydd Mr ap Iorwerth yn brif weiniodg da.

"Rwy'n croesawu'r ffaith bod Rhun [ap Iorwerth] wedi sôn am gydweithio â phleidiau blaengar ble mae meysydd o dir cyffredin, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r Gwyrddion yn barod iawn i'w wneud," meddai.

Jane Dodds
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd unig Ddemocrat Rhyddfrydol y Senedd, Jane Dodds yn cymryd rhan yn y bleidlais i ethol y Prif Weinidog newydd

Mae'r unig aelod o'r blaid Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, wedi dweud mai ymatal ei phleidlais y bydd hi'n ei gwneud pe bai enw Rhun ap Iorwerth yn cael ei gynnig fel prif weinidog.

"Dydyn ni ddim yn cefnogi annibyniaeth ac nid oes gan y blaid fwyafrif felly bydda i'n ymatal."

"Rwy'n gwbl glir iawn nad ydw i yn mynd i gefnogi unrhyw brif weinidog o'r blaid Reform," ychwanegodd.

Esboniodd Ms Dodds hefyd mai dim ond "galwad ffôn fer iawn" y cafodd hi gydag arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ond bod ganddi feddwl agored ynglŷn â'r hyn sydd i ddod.

"Gadewch i ni weld a oes mwy o drafodaethau," meddai, cyn pwysleisio ei bod am ganolbwyntio ar gael mwy o arian i wasanaethau cyhoeddus ac ar gyfer teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.

Gwrthododd Rhun ap Iorwerth fanylu fore Sul ar bwy fydd yn ei gabinet yn y llywodraeth ac fe gydnabyddodd y bydd rhaid i'r blaid gydweithio ag eraill i basio deddfwriaethau.

"Mi fyddan ni'n bwrw ymlaen yn rhoi rhaglen mewn lle ond sydd yn effro iawn i'r angen i ddod ag eraill efo ni ar faterion o ddeddfwriaeth a chyllid," meddai.

"Pobl Cymru sydd wrth galon popeth dwi eisiau ei wneud mewn llywodraeth ac mae'n rhaid i wleidyddion fod digon aeddfed i ddod at ei gilydd i gofio am y bobl yna 'da ni'n eu gwasanaethu trwy gydweithio."

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Eluned Morgan y byddai'n sefyll i lawr fel arweinydd Llafur Cymru ar ôl iddi golli ei sedd yng Ngheredigion Penfro ddydd Gwener

Dywedodd Mr ap Iorwerth mai sgwrs â'r cyn-brif weinidog, Eluned Morgan oedd un o'r sgyrsiau cyntaf gafodd e wedi'r etholiad.

"Dwi'n dymuno'n dda iawn i Eluned Morgan. Mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn anodd iawn iddi hi yn bersonol.

"Mae fy niolch i wastad i unrhyw un sy'n rhoi eu henwau ymlaen i fywyd cyhoeddus ac mi fydd Eluned Morgan wedi profi mewn ffordd galed iawn pa mor galed mae arweinyddiaeth yn gallu bod."

'Gyda'n gilydd mae cryfder hefyd'

Yn ddiweddarach, ddydd Sul wrth siarad ar raglen Laura Kuenssberg, cadarnhaodd Rhun ap Iorwerth ei fod wedi siarad â phrif weinidogion yr SNP a Sinn Fein, yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a'i fod yn credu y gallen nhw i gyd "weithio a sefyll gyda'i gilydd" er mwyn cael bargen well i'w poblogaethau.

"Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd," meddai.

"Y ffordd rydym yn defnyddio'r adnoddau naturiol oddi ar ein harfordiroedd, er enghraifft.

"Ond mae yna ymdeimlad dyfnach na hynny hefyd, o allu sefyll gyda'n gilydd i alw am lai o anghydraddoldeb o fewn yr ynysoedd hyn.

"Rydym yn Undeb sydd ddim yn undeb cyfartal, a pho gryfaf y gallwn sefyll gyda'n gilydd i gyflwyno'r achos i lywodraeth y DU dros ddull newydd o ddelio â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon [y gorau].

"Byddwn yn gwneud hynny ar wahân hefyd, byddwn yn ei wneud fel prif weinidog Cymru.

"Bydd fy nheyrngarwch bob amser i bobl Cymru, ond gyda'n gilydd mae cryfder hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.