Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 14:55 GMT+1
Mae ein llif byw yn dod i ben am y tro, ond fe gewch chi'r datblygiadau diweddaraf gydol y prynhawn ar wefan ac ap Cymru Fyw.

Dim mwyafrif i’r un blaid
Rhun ap Iorwerth yn addo sefyll dros Gymru "bob un dydd", wrth annerch torf yn y Senedd
Arweinydd Plaid Cymru hefyd yn cadarnhau y bydd ei blaid yn ceisio ffurfio llywodraeth leiafrifol
Ken Skates wedi ei ddewis fel arweinydd dros dro Llafur Cymru
AS Llanelli, Nia Griffith, yn gwrthod dweud yn glir ei bod yn dal i gefnogi Syr Keir Starmer fel Prif Weinidog y DU
Mae cwestiynau mawr i'w gofyn am berfformiad Llafur, yn ôl Syr John Curtice
Mae angen "egni newydd" ar ôl bron i dri degawd o lywodraeth Lafur, meddai Llyr Gruffydd o Blaid Cymru
Plaid Cymru enillodd y nifer fwyaf o seddi yn etholiad y Senedd gyda Reform yn ail, wrth i Lafur weld colledion mawr ar draws Cymru
Mae ein llif byw yn dod i ben am y tro, ond fe gewch chi'r datblygiadau diweddaraf gydol y prynhawn ar wefan ac ap Cymru Fyw.
Un o aelodau newydd Plaid Cymru yw Elyn Stephens, yma gyda Geraint Davies, sy'n gyn-Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru yn y Rhondda.
Ffynhonnell y llun, bbcMae rhagor o luniau o'r Senedd yn gynharach wedi ein cyrraedd.
Roedd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn ateb cwestiynau gan aelodau o'r wasg ar risiau'r Senedd, cyn i'r dorf ddechrau canu'r anthem genedlaethol.


Mae aelodau pwyllgor gweithredol Llafur Cymru wedi bod yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw
Derbyniodd Skates gefnogaeth unfrydol gan y grŵp, yn ôl Llafur Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd Skates mai heddiw yw "dechrau proses fydd yn ein helpu i ddeall beth aeth o'i le".
Dywedodd bod hynny'n dasg fydd angen "pob un ohonom ni i fod yn rhan ohono", ond nad yw'n dasg sydd y tu hwnt i allu'r blaid.
Mae Ken Skates wedi ei ddewis fel arweinydd dros dro Llafur Cymru.
Cafodd Skates ei ethol yn etholaeth Fflint Wrecsam, ac yn y gorffennol mae wedi bod yn gyfrifol am yr economi, trafnidiaeth a gogledd Cymru yn y llywodraeth yn y gorffennol.
Mae rhai aelodau eisoes wedi tyngu llw yn y Senedd, gyda'r disgwyl i fwy wneud yn ystod y prynhawn.
Gall yr aelodau ddewis tyngu'r llw yn y Siambr neu ar-lein. Gallent hefyd ddewis tyngu llw yn gyhoeddus neu yn breifat, a olygai ni fyddai'n cael ei ffilmio.
Mae'n rhaid i'r aelodau roi gwybod i'r Senedd cyn cyrraedd eu bod am dyngu llw. Mae llawer yn dewis gwneud hyn gyda'u teuluoedd, a gwneud dathliad o'r broses.
Aflwyddiannus oedd y ddau wleidydd a gafodd eu gwahardd o'u pleidiau yn ystod y Senedd ddiwethaf wrth geisio cael eu hail-ethol i Fae Caerdydd fel aelodau annibynnol.
Cafodd Rhys ab Owen ei ethol i'r Senedd fel aelod Plaid Cymru yn 2021, ac roedd yn sefyll yn annibynnol y tro hwn yn etholaeth newydd Caerdydd Penarth.
Roedd y cyn-aelod Ceidwadol o'r Senedd, Russell George, a etholwyd gyntaf i Fae Caerdydd yn 2011, yn sefyll yng Ngwynedd Maldwyn.
Cafodd Rhys ab Owen ei wahardd o'r blaid ym mis Tachwedd 2022 yn sgil honiadau o ymddygiad amhriodol, ac roedd wedi bod yn aelod annibynnol ym Mae Caerdydd ers hynny.
Roedd Russell George yn cynrychioli etholaeth Sir Drefaldwyn yn y Senedd ddiwethaf, ond cafodd ei wahardd o grŵp Ceidwadol y Senedd ym mis Ebrill 2025 ar ôl cael ei gyhuddo, ynghyd â 14 o rai eraill, o droseddau betio.
Fe ddaeth y cyhuddiadau yn sgil ymchwiliad i fetiau ar amseru etholiad cyffredinol 2024.
Mae George wedi gwadu'r cyhuddiadau ac mae'n aros am ei achos llys ar hyn o bryd.

Roedd Rhys ab Owen a Russell George yn aflwyddiannus wrth geisio cael eu hail-ethol fel aelodau annibynnol
Roedd Luke Fletcher yn llefarydd y blaid ar yr economi, ond roedd yn drydydd ar restr Plaid Cymru yn etholaeth Pen-y-Bont Bro Morgannwg. Enillodd y blaid ddwy sedd yno.
Gall cyn-Aelodau’r Senedd a geisiodd gael eu hail-ethol yn aflwyddiannus hawlio dau fath o daliad. Yn gyntaf, taliad dirwyn i ben, sef tri mis o gyflog.
Yn ail, taliad ailsefydlu, sef cyflog un mis am bob blwyddyn (ddi-dor) yr oeddent yn AS, hyd at uchafswm o chwe mis o gyflog – gall hyn fod yn uwch os oedd gan yr AS swydd ychwanegol o fewn y Senedd.
Gall person a beidiodd â bod yn aelod oherwydd nad oedd yn ymgeisydd i'w ethol i'r Senedd newydd hawlio taliad dirwyn i ben sy'n cyfateb i ddau fis o gyflog.

Gareth Davies – AS Dyffryn Clwyd rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.
Tom Giffard – AS Gorllewin De Cymru rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.
Altaf Hussain – AS Gorllewin De Cymru rhwng mis Mai 2015 a Ebrill 2016, Mai 2021 a Ebrill 2026.
Joel James – AS Canol De Cymru rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.
Samuel Kurtz – AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.
Hannah Blythyn – AS Delyn rhwng mis Mai 2016 a Ebrill 2026. Fe wnaeth y Prif Weinidog Vaughan Gething ei diswyddo o fod yn weinidog dros bartneriaeth gymdeithasol yn 2024 gan honni ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau, rhywbeth y gwnaeth hi wadu.
Alun Davies – AS Blaenau Gwent rhwng mis Mai 2007 a Ebrill 2026. Bu’n Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Eluned Morgan - y prif weinidog cyntaf i golli ei sedd yn hanes Prydain fodern.
Rhianon Passmore - AS Islwyn rhwng mis Mai 2016 a Ebrill 2026.
David Rees, AS Aberafan rhwng mis Mai 2011 a Ebrill 2026, a Dirprwy Lywydd y Senedd ers 2021.
Jack Sargeant, AS Alun a Glannau Dyfrdwy rhwng mis Chwefror 2018 a Ebrill 2026. Bu’n weinidog diwylliant, sgiliau a phartneriaeth gymdeithasol.
Carolyn Thomas, AS Gogledd Cymru rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.
Buffy Williams, AS Y Rhondda rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty ImagesDylai Eluned Morgan fod yn "falch o'r ffaith mai hi yw'r fenyw gyntaf i fod yn Brif Weinidog Cymru", yn ôl y cyn-AS Llafur, Julie Morgan.
"Does neb yn gallu cymryd hynny i ffwrdd ohoni," meddai ar raglen BBC Radio Wales Breakfast.
"Daeth hi mewn yn ystod amser anodd i Lafur. Mae hi wedi rhoi ei chalon ynddo'n llwyr, felly hoffwn roi teyrnged i Eluned fel yr arweinydd benywaidd cyntaf yng Nghymru."
Dywedodd fod y sefyllfa yn "ofnadwy" a bod y canlyniad yn "waeth na beth allwn i ddychmygu".
"Rydyn ni wedi bod yma ers 27 mlynedd, rydyn ni wedi bod yn arwain ers 27 mlynedd, ac roedd pobl yn chwilio am newid."
Wrth i un blaid ddathlu yn y Bae, mae pwyllgor gwaith Llafur Cymru hefyd yn cwrdd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd i drafod eu camau nesaf yn dilyn canlyniad siomedig yn yr etholiad.
Naw sedd sydd gan y blaid yn y Senedd, gyda nifer o aelodau blaenllaw wedi colli eu seddi gan gynnwys y prif weinidog Eluned Morgan.
Wrth gyrraedd y cyfarfod y bore 'ma fe wrthododd Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens wneud unrhyw sylw.
Un o'r aelodau oedd Kerry Ferguson, aelod newydd Ceredigion Penfro.
Ar un adeg fe roedd yn gynghorydd yn ward Aberystwyth Rheidol ar Cyngor Tref Aberystwyth, ac roedd hi'n faer ar y dref yn 2023-24.


Yn sefyll ar risiau'r Senedd, dywedodd Beca o Gaerdydd a Begw o Ynys Môn: “O'n ni eisiau bod yn rhan o’r hanes.
"'Da ni mor angerddol dros be' sy' wedi digwydd yn ddiweddar.
"Dim byd fel hyn wedi digwydd o'r blaen.
"Pan o'n i'n pleidleisio ddoe o'n i'n teimlo fel bod 'na bŵer yn be' o'n i'n gwneud ac yn gwneud gwahaniaeth i’n dyfodol ni.”

Dywedodd Kiera Marshall, aelod Caerdydd Penarth, ei bod “eisiau brwydro dros ei theulu ifanc" a'i bod "mor ddiolchgar i bobl Cymru” am ei hethol.
Fe allwn ni ddod â mwy i chi o araith Rhun ap Iorwerth i'r dorf ym Mae Caerdydd:
"Alla i ddim dweud pa mor braf ydi gweld yr olygfa yma heddiw. "Ym mhob rhan o Gymru, dwi'n gwybod gymaint mae pobl yn dathlu'r foment yma.
"Mae hwn yn hanes sydd wedi ei greu gan Gymru ac mae wedi bod yn fraint cael gweithio ar yr ymgyrch hwn, ond bu'r ymgyrch yma yn adeiladu ar waith sydd wedi ei wneud ers canrif o gredu yn ein cenedl.
"Ma' rhai o'r cewri yna, sy'n rhan o hanes Cymru a Phlaid Cymru yma heddiw a braf iawn bod yn eich cwmni chi. Mae eraill yn methu bod yma bellach.
"Mae Plaid Cymru yn barod i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru, ac rydym yma fel cynrychiolwyr o Gymru gyfan, heb amheuaeth, pob cymuned.
"Byddwn yn gwneud popeth i ad-dalu'r ffydd y mae pobl wedi rhoi ynom ni, oherwydd mae gennym yr awch amlwg i wneud gwahaniaeth i'r hyn sy'n bwysig i fywydau pobl."
Ychwanegodd: "Rydym yn cofio am y rheiny a wnaeth yr holl waith caled i Gymru ac sydd ddim yma i weld hyn.
"'Da ni'n gwneud hyn dros Gymru gyfan, a fy mraint i yw bod yma rŵan fel darpar brif weinidog fel rhan o grŵp o 43 o aelodau."

Elliw Gwawr
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Wrth ateb cwestiynau’r wasg mae Rhun ap Iorwerth yn cadarnhau mai'r nod yw bwrw ymlaen fel llywodraeth leiafrifol, gan gydweithio gyda phleidiau eraill ar ddeddfwriaeth a chyllidebau unigol.
Yn y diwedd mae ein cwestiynau yn cael eu boddi allan gan y gynulleidfa yn canu’r anthem genedlaethol.

Ymhlith y dorf y tu allan i'r Senedd mae Megan Tomos o Gaerdydd.
“Dwi 'di dod yma i ddathlu Plaid Cymru," meddai.
"Mae’n ddiwrnod hanesyddol ac o'n i eisiau bod yn rhan or hanes.
"Dyma yw fy nyfodol i a ma' mor bwysig bod pobl ifanc yn rhan o’n hanes a’n gwleidyddiaeth ni."
Wrth i Rhun ap Iorwerth ateb cwestiynau gan y wasg, fe ymunodd yr aelodau â'r dorf i ganu Hen Wlad fy Nhadau ar risiau'r Senedd, gan orffen gyda chymeradwyaeth fawr gan y cannoedd oedd y tu allan i'r Senedd.


Mae Rhun ap Iorwerth yn awyddus i gydweithio â phleidiau eraill wrth iddo arwain llywodraeth leiafrifol.
"Dwi wedi gwneud mor eglur â phosib a dwi'n eiddgar i weithio mewn ysbryd o gydweithrediad, fy nymuniad i oedd creu llywodraeth leiafrifol Plaid Cymru ac ma’n eglur nawr bod hynny'n bosib.
"Ond mae'r gwahoddiad hwnnw i geisio dod o hyd i dir cyffredin efo eraill ar ddedfwriaeth a chyllidebau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru yr un mor ddiffuant heddiw ag y mae erioed wedi bod.
"Ac fe edrychwn ni mlaen i weithio yn unol gyda'r egwyddorion hynny."