Ken Skates wedi'i benodi yn arweinydd dros dro i Lafur Cymru

Ken Skates ydy arweinydd dros dro y Blaid Lafur yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Ken Skates wedi cael ei benodi yn arweinydd dros dro i'r Blaid Lafur yng Nghymru.
Daw hyn yn dilyn cyfarfod pwyllgor gweithredol Llafur Cymru i drafod eu camau nesaf yn dilyn eu canlyniadau etholiadol siomedig.
Cafodd Mr Skates ei ethol gyntaf yn 2011 ac mae wedi cael sawl swyddogaeth o fewn Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, gan gynnwys bod yn gyfrifol am yr economi, trafnidiaeth a gogledd Cymru.
Cafodd ei ail-ethol i'r Senedd ar gyfer etholaeth Fflint Wrecsam ddydd Gwener.
'Fe aeth pethau o'i le'
Yn dilyn ei benodiad, dywedodd mai "dim ond y cychwyn yw heddiw, ar gyfer proses a fydd yn ein helpu i ddeall beth aeth o'i le".
"Oherwydd fe aeth pethau o'i le."
Ychwanegodd mai eu "tasg nawr yw cymryd yr amser sydd ei angen a gweithio allan beth sydd wedi digwydd".
"Mae'n dasg y bydd angen i bob un ohonom ni gymryd rhan ynddi - pob aelod, pob cynghorydd, pob AS, Arglwydd a phob rôl rhyngddynt.
"Ond nid yw'n dasg sydd y tu hwnt i ni."

Collodd Eluned Morgan ei sedd yn y Senedd ddydd Gwener
Roedd o'r farn fod y Blaid Lafur yng Nghymru "ar ei orau pan fyddwn yn hyrwyddwyr dros bobl Cymru, ein rôl yw gwasanaethu, ymladd dros y materion sydd bwysicaf".
"Ni yw'r Blaid a anfonodd Keir Hardie i'r Senedd gyntaf, a greodd y GIG.
"Ni yw plaid datganoli, plaid presgripsiynau am ddim, prydau ysgol am ddim i bawb, partneriaeth gymdeithasol a deddf cenedlaethau'r dyfodol.
"Rydym yn blaid sydd â stori anhygoel o wasanaethu Cymru a'i phobl ac mae gennym gymaint mwy i'w roi."
'30 mlynedd i Gymru'
Wrth roi teyrnged i Eluned Morgan, diolchodd i'r cyn-arweinydd.
"Hoffwn ddiolch i Eluned am bopeth y mae wedi gwneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf fel prif weinidog ac yn ystod ei 30 mlynedd i Gymru ac i'r Blaid Lafur.
Ychwanegodd iddi greu hanes "wrth fod y fenyw gyntaf i arwain ein plaid a'n gwlad".
Bydd Mr Skates yn gwasanaethu fel arweinydd nes bod amserlen wedi'i gosod ar gyfer etholiad arweinyddiaeth lawn yn unol â rheolau Llafur Cymru.