Gai Toms: Albwm yn 'deyrnged i Mam' fu farw yn ystod y cyfnod clo

Gwenda Thomas gyda'i hwyres Esi
- Cyhoeddwyd
Pan gollodd Gai Toms ei fam i Covid-19 doedd dim posib iddo ffarwelio yn iawn am y tro olaf na chael angladd arferol oherwydd rheolau'r pandemig.
Ond bron i saith mlynedd yn ddiweddarach mae'r cerddor ar fin rhyddhau albwm goll wnaeth o'i chreu yn ystod y cyfnod fel teyrnged i'w rieni ac fel ffordd iddo ddelio gyda'i alar.
Mae'r holl ganeuon, sydd efo sain wahanol i'w waith arferol, yn llawn colled a chariad – tuag at ei rieni, ei blentyndod a'i blant ei hun.

Llun i gydfynd efo'r sengl newydd Radar: Gai Toms gyda radar o degan Millennium Falcon gafodd o pan yn blentyn
Fe gollodd Gai Toms ei dad – sef Meirion Thomas, oedd yn cael ei adnabod fel Mim Twm – yn 2003 ac fe wnaeth ei fam fyw fel dynes weddw am bron i ddau ddegawd.
Roedd Gwenda Thomas wedi dioddef ers blynyddoedd â chrud y cymalau drwg, ac wedi mynd i'r ysbyty fis Rhagfyr 2019. Ond wrth iddi wella yn y flwyddyn newydd ac yn barod i ddychwelyd adref fe ddisgynnodd a thorri asgwrn ei chlun, a hynny tra bod pandemig byd-eang yn lledu.
Fe gafodd driniaeth a'i chludo rhwng ysbytai – a dal Covid.
Meddai Gai Toms, fu'n recordio am gyfnod o dan yr enw Mim Twm Llai, wrth Cymru Fyw: "Erbyn hynny roedd hi'n lockdown, full lockdown. Gatho ni ddeud ffarwél, fi a'n chwaer - aethon ni fewn fesul un i'r stafell efo full PPE, diwrnod cyn iddi farw.
"Wnaeth hi glywed ni neu ddim, dwi ddim yn gwybod, a'r diwrnod wedyn farwodd hi. Roedd o'n gyfnod rhyfedd dros ben."
Roedd y cerddor yn galaru a phrosesu'r cyfan wrth geisio byw drwy gyfnod digynsail y pandemig efo plant ei hun.
Ei ffordd o ddelio efo'r cyfan oedd drwy gerddoriaeth.
Fe dreuliodd gyfnod yn ysgrifennu a recordio caneuon ar ei ben ei hun yn ei stiwdio – Stiwdio Sbensh – yn Nhanygrisiau. Doedd dim bwriad ganddo i wneud albwm, dim ond creu a recordio "demos estynedig".

Gai Toms gyda rhai o'r offerynnau ar yr albwm Y Filltir Gron - yr ukelele a'r melodion
Roedd elfen arbrofol i'r caneuon, gyda defnydd o synth, melodion a'r ukelele – offeryn oedd yn adlewyrchu cymeriad "ysgafn a chariadus" ei fam, oedd yn hoff o gerddoriaeth o Hawaii.
"Dwi wedi trosi'r teimladau yn uniongyrchol, yn enwedig mewn caneuon fel Seren Wib a Radar a Siarad Mewn Drysau, lle dwi wedi'n uniongyrchol gyfansoddi'r gerddoriaeth fel o'n i'n teimlo, mwy na faswn i'n 'neud fel arfer," meddai'r cerddor, sydd hefyd yn aelod o'r grŵp Anweledig.
"Roedd y profiadau a'r teimladau mor intense roedd y caneuon yn dod allan yn sydyn ac yn rhwydd iawn, fel taswn i'n gorfod cael o allan."
Ac yna, wrth i'r pandemig arafu a chymdeithas agor unwaith eto, fe ddaeth y prosiect i stop.
Roedd bywyd bob dydd yn mynd yn ei flaen a doedd Gai Toms ddim yn teimlo ei fod o – na'r cyhoedd – wir eisiau gwrando ar gerddoriaeth oedd yn ymwneud â chyfnod a phrofiadau mor anodd.
Felly gadawodd y caneuon yng nghrombil y cyfrifiadur ac aeth yn ei flaen i weithio ar gerddoriaeth arall gan ryddhau'r albwm Baiaia! yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2023.
'Galar yn dod mewn tonnau'
Ond yn ddiweddar fe benderfynodd ail-ymweld â chaneuon y cyfnod clo. Ar ôl gwrando eto roedd yn falch o'r hyn roedd o wedi ei greu.
"Mae galar yna chdi am byth ac mae o'n dod mewn tonnau," meddai. "Yn ddiweddar gesh i ryw don drosta i a meddwl 'mae Mam yn haeddu hyn dwi'n meddwl', achos gafodd hi ddim cynhebrwng iawn oherwydd rheolau'r clo.
"Mond naw person oedd yn y cynebrwng, ac o'n i'n meddwl, 'c'mon, rhaid i fi orffan yr albwm yma fel teyrnged i fy mam, a fy nhad - i fy rhieni'.
"A hefyd ei orffan o er fy lles fy hun, dwi eisiau gael o allan o ffordd i allu symud ymlaen.
"I fi maen nhw'n rhai o'r caneuon gorau dwi wedi'u sgwennu, dwi'n meddwl – ac wrth ail-ymweld dwi'n hapus iawn efo nhw ac maen nhw'n wahanol."
A bellach, mae Y Filltir Gron wedi ei chwblhau ac yn cael ei rhyddhau yn ddigidol fis Tachwedd.
Ynghyd â'r galar a'r cariad, mae atgofion am blentyndod hapus yn amlwg mewn rhai caneuon, a nostalgia o weld ffilmiau mawr yr 80au yn y gân Radar, sydd newydd ei ryddhau fel sengl.

ET ac Elliott (Henry Thomas) mewn poster o un o hoff ffilmiau Gai Toms
Mae'r ffilmiau yma – fel ET, Superman a Star Wars – yn rai mae Gai nawr yn eu gwylio gyda'i blant ei hun, sy'n rhan o'r cylch bywyd sy'n cael ei adlewyrchu yn y gân.
"Be' ddaeth i mi wrth golli Mam ac wrth golli fy rhieni, es i syth yn ôl i fy mhlentyndod, ac un o'r pethau dwi'n gofio mwya' ydi mynd i sinema y Coliseum, Porthmadog, a gweld ffilmiau mawr yr 80au.
"Pan ti'n colli dy ddau riant ti sort of ar ben dy hun, er bod gen i chwaer, ond mae galar yn wahanol pan ti'n golli'r ddau riant.
"Mae'r gân Radar yn rhyw fath archwiliad o'r teimlad yna - y radar yma o eisiau cysylltu; cysylltu efo atgof, efo person, efo enaid, efo'r ochr arall, dw'n im.
"A dwi wedi trosi hynny efo'r ffaith rhyw ddydd fydda i'n colli fy mhlant - hynny ydi mae plant yn mynd i ffwrdd, ond hefyd fydda i'n mynd, fydd pobl yn colli fi."
Gallwch wrando ar rai o ganeuon yr albwm a sgwrs efo Gai Toms ar raglen Georgia Ruth, ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd11 Hydref
