Gareth Llewellyn: 'Hynod falch o be' mae'r bachgen 'di gyflawni'

Gareth Llewellyn a Max LlewellynFfynhonnell y llun, Getty Images
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ar 14 Tachwedd fe gafodd tîm rygbi Cymru fuddugoliaeth hanesyddol gan guro Seland Newydd am y tro cyntaf ers 73 mlynedd.

34 colled yn olynol oedd hanes y Cymry yn erbyn y Crysau Duon, gydag ambell i golled hynod agos - o saith bwynt yn 1967 a 2009, o chwe phwynt yn 1963, o driphwynt yn 1972, ac o bwynt yn unig yn 1978 ac 2004.

Rhywun oedd yn rhan o dîm Cymru yn y golled o bwynt yn 2004 (yn ei gêm olaf dros ei wlad) oedd Gareth Llewellyn, tad canolwr presennol Cymru, Max Llewellyn.

"Yn amlwg, fel unrhyw riant dwi'n hynod falch o be' mae'r bachgen 'di gyflawni", medd Gareth.

"Roedd e'n wych i weld e a'r bois yn cael y canlyniad a'r dathliadau a ddaeth wedyn."

Chwaraeodd Gareth yn erbyn Seland Newydd bum gwaith, gan golli ar bob achlysur.

Negesuon yn llongyfarch

Mae Gareth wedi cael negesuon di-ri ers y penwythnos, yn ei longyfarch ar fuddugoliaeth Max a'r bechgyn.

"Dydy fy ffôn heb stopio canu ers y chwiban olaf", medd Gareth.

"Dwi 'di clywed gan bobl am y tro cyntaf ers blynyddoedd - pobl o'n i'n gweithio efo, bois o fy nyddiau rygbi, ac hefyd bobl o Loegr, Iwerddon a thu hwnt.

"Roedd 'na bobl sydd ddim yn Gymry wedi cysylltu efo fi i ddweud bo' nhw'n hynod emosiynol wedi'r fuddugoliaeth, ac yn dweud eu bod nhw mor hapus i ni fel teulu."

Fe chwareodd brawd Gareth, Glyn Llewellyn, dros Gymru ar ddechrau'r 1990au hefyd, a gyda'r ddau yn 6'6" o daldra, yr ail-reng oedd y safle naturiol iddyn nhw.

Aeth Gareth i'r ysgol ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, ond aeth Max i Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd ac mae'n siarad Cymraeg yn rhugl.

'Nid lwc oedd e'

Mae Gareth yn teimlo'r rhyddhad o guro'r Crysau Duon o'r diwedd, ond mae hefyd yn dweud bod y garfan bresennol yn llwyr haeddu'r fuddugoliaeth.

"Mae'n dda bo' ni 'di curo'r gêm yma o'r diwedd, a'r ffaith y gall bobl stopio siarad am y peth [bod Cymru heb guro'r Crysau Duon ers 1953].

"Mae'n sicr yn rhyddhad i gael y fuddugoliaeth, ond dwi hefyd mor falch dros y grŵp yma o chwaraewyr, sydd wedi cael colledion trwm dros y blynyddoedd diweddar.

"Roedden nhw'n haeddu ennill hefyd, nid lwc oedd e. 'Nathon nhw sgorio pum cais a ma' nhw'n llwyr haeddu'r ganmoliaeth am y ffordd 'nathon nhw chwarae."

Max LlewellynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Max yn cario'r bêl tra'n ymosod yn y fuddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd

Mae Gareth yn llawn edmygedd o'r ffordd y mae'r garfan cenedlaethol wedi gallu mynd drwy blynyddoedd anodd a churo Seland Newydd.

Yn ogystal â chefnogwyr rygbi, mae bobl sydd efallai ddim yn gefnogwyr brwd wedi datgan eu hapusrwydd wedi'r fuddugoliaeth.

"Dwi'n dilyn Cymru ym mhob camp bosib, ac mae'n bwysig bo' ni'n gefn i'n gilydd - boed hynny'n bêl-droed, rygbi, bocsio neu beth bynnag, mi fydda i o hyd yn cefnogi'r Cymry ym mhopeth."

Max LlewellynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Max â Chaerloyw yn 2023 ac mae wedi dod yn dipyn o ffefryn gyda'r cefnogwyr yn Stadiwm Kingsholm dros y dair mlynedd diwethaf

Deigryn wedi'r fuddugoliaeth?

"Dwi heb weld llawer o Max ers y gêm i ddweud y gwir", medd Gareth, "mae e 'di bod lawr yng Nghwesty'r Vale.

"O be' dwi'n ddeall a'th y tîm fewn i'r stafell newid wedi'r gêm ac eistedd yna - doedden nhw ddim yn siŵr iawn sut i ymateb... 'dyn ni newydd guro Seland Newydd, beth ni fod i neud nawr?' 'Nath o gymryd 'chydig bach i'r dathliadau ddechrau go iawn."

A ddaeth 'na ddeigryn i lygaid Gareth yn y stadiwm wrth weld ei fab yn curo'r Crysau Duon?

"I ddweud y gwir 'nes i lwyddo i'w dal hi at ei gilydd, er gwaetha'r ffaith bod gymaint o ddynion o fy nghwmpas i yn eu dagrau! Ond mi o'n i'n emosiynol, ac o'dd hi'n sbesial iawn i gael bod yno ar y dydd."

botham a beardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

James Botham, seren y gêm, yn ei ddagrau gyda Adam Beard yn dilyn y chwiban olaf

Y Crysau Duon yn 2004

Enillodd Gareth 92 o gapiau dros Gymru rhwng 1989 a 2004, gyda'i ymddangosiad ola'n dod yn erbyn y Crysau Duon yn y golled o bwynt, 25-24.

"Roedden ni'n adeiladu at y perfformiad 'na yn erbyn Seland Newydd, ychydig fel mae'r tîm presenol yn gwneud.

"Roedd 'na berfformiadau da wedi dod o dan hyfforddiant Steve Hansen yn flaenorol, ac fe wnaeth hynny gario 'mlaen wedyn pan gymerodd Mike [Ruddock] yr awenau.

"Oeddan ni'n tyfu fel tîm ac yn dod yn fwy hyderus, ac fel o'dd y gêm yn mynd yn ei flaen 'nath o'n taro ni bo' ni dal yn y gêm a gyda siawns o ennill. Roedden ni'n agos iawn."

Cymru Seland Newydd 2004Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Crysau Duon yn perfformio'r Haka cyn y gêm yn erbyn Cymru yn 2004

Roedd y tîm a wynebodd Gareth yn 2004 yn cynnwys nifer o fawrion rygbi, gyda Dan Carter, Richie McCaw, Doug Howlett a Joe Rokocoko yn eu plith.

"'O'dd ganddyn nhw'r rockstars i gyd yn chwarae, ma' hynna'n sicr!", medda Gareth.

Ond roedd gan Cymru eu sêr yn y gêm yna hefyd, fel Gareth Thomas, Gavin Henson, Shane Williams, Stephen Jones, Dwayne Peel a Gethin Jenkins.

"Roedd y ffitrwydd a'r sgiliau'n gwella yn y flwyddyn neu ddwy cyn y gêm 'na yn 2004, ac roedd 'na gred yn y garfan y bysan ni'n gallu cystadlu yn erbyn nhw."

gareth a maxFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth yn chwarae yn erbyn Yr Alban yn 1995, a Max yn erbyn Seland Newydd ar 14 Tachwedd eleni

Mae llawer o'r farn ei bod hi'n hanfodol i'r garfan barhau gyda'r momentwm wedi'r fuddugoliaeth yma i garfan Steve Tandy.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr bod ni'n gwneud", medd Gareth.

"'Dyn ni'n dal i ddatblygu a nawn ni ddim ennill pob gêm, ond beth rydyn ni eisiau yw bod yn gystadleuol a chael canlyniadau positif."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.