Y myfyriwr sy'n ras-gerdded a chanu dros Gymru

Enillodd Fraser y fedal efydd yn y ras cerdded cyflym 3000m ym Mhencampwriaethau Dan Do UKA ym mis Chwefror 2026
- Cyhoeddwyd
Ym mis Awst eleni, roedd Fraser Higginson yn un o'r criw ifanc a oedd yn perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yn y sioe Calon gan Gwmni Theatr yr Urdd.
Ond mae'r myfyriwr 19 oed o Ben-y-bont ar Ogwr hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn ras-gerdded, sef race walking.
Dwy ddisgyblaeth hollol wahanol, ond fel mae Fraser yn ei egluro, mae'r naill yn ei helpu gyda'r llall.
Camu ar y llwyfan a'r trac rasio
Cafodd Fraser ei flas cyntaf ar berfformio mewn sioe yn Eisteddfod yr Urdd 2017 pan oedd ym Mlwyddyn 4, ac ers hynny, mae wedi cymryd rhan mewn sioeau ysgol a sioeau cerdd gyda'i grŵp theatr lleol, fel Sweeney Todd, Rent a Grease.
Eleni, cafodd y profiad "hollol anhygoel" o berfformio ar lwyfan theatr mwyaf Cymru yn y sioe gerdd Calon.
Mae'r cariad yma tuag at y theatr wedi ei arwain i astudio gradd mewn Theatr Gerddorol yn y brifysgol yn Lerpwl.

Fraser wrth ei fodd yn perfformio mewn perfformiad arbennig yn ei ysgol ddrama dros yr haf
Ond mae hefyd wedi bod yn ras-gerdded ers ei fod yn naw oed, ac yn cystadlu mewn rasys yn y gamp ers ei fod yn 11, meddai.
"Roedd gan Mam grŵp athletau, ac unwaith y mis, roedd hi'n gwahodd hyfforddwr cerdded cyflym i mewn i ddysgu sgiliau i ni. A fi oedd yr unig un oedd wir yn ei fwynhau e.
"Roedd e'n hawdd i ennill yn y grŵp a 'nes i feddwl fydde fe'n hawdd i ennill rasys achos bydd neb eisiau ei 'neud e!
"Wedyn 'nes i ddechrau rili mwynhau a sylweddoli fod 'na dechneg iddo, ac o'n i'n mwynhau hynny ac yn gwella.
"Fy mhrif nod i oedd cael fy newis i gynrychioli Cymru dair gwaith – sef unwaith yn fwy na fy chwiorydd! – a dwi wedi cynrychioli Cymru yn 14, 15 ac 16 oed."
Y myfyriwr sy'n ras-gerdded a chanu dros Gymru
Beth yn union yw ras-gerdded?
Mae'n gamp anghyfarwydd i nifer, er ei bod yn y Gemau Olympaidd. Felly beth yw ras-gerdded?
Yn ôl Fraser, mae'r techneg yn hollbwysig.
"Mae dwy reol: mae angen cadw'r goes flaen yn syth, drwy'r amser – ti methu plygu'r ben-glin o gwbl; mae angen cadw o leiaf un droed ar y llawr o hyd – sy'n golygu fod yna lai o bŵer yn mynd i mewn i'r llawr o'r coesau.
"Mae'n anoddach na rhedeg; maen nhw'n sgiliau gwahanol iawn. Mae llawer o gerddwyr cyflym yn cael shin splints; dyna lle mae'r boen. Mae rhedwyr, fel arfer yn cael poen yn y glutes neu'r traed."
Sut fath o bellter mae ras-gerddwyr yn eu rasio?
"Ar hyn o bryd dwi'n gweithio ar 5km neu 10km. Rwy'n gwneud 5km mewn tua 25 munud.
"Mae pobl broffesiynol yn gwneud hyd at 50km – dyna yw'r Olympic standard. 'Naeth fy hyfforddwr i Parkrun yn ddiweddar, yn cerdded yn gyflym, a 'naeth e fe mewn dan 20 munud."
Hyfforddwr Fraser yw Tom Bosworth a gynrychiolodd Team GB yn y gamp yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2021. Mae Tom a Fraser yn teithio o Lerpwl i Lannau Dyfrdwy bob wythnos i gyd-gerdded â grŵp sydd â'u hoedrannau'n amrywio o 10 i 70 oed.
Er fod hon yn gamp y gall bobl o bob oed ei gwneud, mae Fraser yn teimlo nad oes yna lawer o gyfleoedd iddo, fel athletwr ifanc.
"Y prif gyfle ar gyfer cerddwyr cyflym ifanc yng Nghymru ydy SIAB – Schools International Athletics Board – sy'n digwydd unwaith y flwyddyn, lle mae athletwyr o ysgolion ledled y DU yn cynrychioli eu gwlad. Dyna pryd dwi wedi cynrychioli Cymru a dwi eisiau 'neud e eto.
"Rwy'n cystadlu yn yr English Championships yn Sheffield yn Ionawr, yn cynrychioli'r clwb, Bridgend Athletics. Yna gweld beth fydd yn digwydd o fan'na, a gobeithio cael fy newis i'r British Championships yn Birmingham. Does yna ddim lot o gyfleoedd i gynrychioli Cymru."

'Sa i'n gwybod am neb arall sy'n gwneud y ddau'
Felly, ag yntau'n gweithio tuag at lwyddiant mewn dau faes hollol wahanol, sut mae'n delio â dwy ddisgyblaeth mor amrywiol?
Yn y brifysgol, mae wedi dod i sylweddoli fod mantais dros wneud y ddau.
"Os dwi'n gwneud ballet, mae hynny'n helpu fy nghydbwysedd wrth gerdded. Ac mae fy mhŵer a'n hyblygrwydd sy'n dod o gerdded cyflym yn dda ar gyfer tap neu jazz.
"Dwi 'di sylwi, fi ydy'r unig un yn y dosbarth sydd wedi gwneud unrhyw fath o gamp yn lled-broffesiynol, a dwi'n meddwl fod fy stamina i wrth ganu a dawnsio ar yr un pryd yn un o'r gorau. Wrth gynhesu fyny mewn sesiynau cerdded neu redeg, dwi'n ffeindio fy hun yn canu wrtha fi fy hun i geisio ehangu'r ysgyfaint hefyd."
Ac ynghyd â bod o help i'w hyfforddiant perfformio, mae'r cerdded yn rhoi cyfnod o saib i Fraser yn feddyliol, ar ôl wythnos brysur yn y coleg, meddai.
Felly beth yw ymateb ei gyd-fyfyrwyr i'r ffaith ei fod wedi cynrychioli ei wlad mewn camp nad oes llawer o bobl yn ei gwneud?
"Dwi'n cofio gorfod rhannu ffaith amdana fi fy hun yn un o fy nosbarthiadau yn yr wythnos gyntaf – 'I racewalk' – a neb wedi clywed amdano! 'Sa i'n gwybod am neb arall sy'n gwneud y ddau.
"Rwy'n cael lot yn holi 'pam ddim rhedeg yn lle?' neu 'be' 'di'r pwynt?'. Ond dwi'n gofyn, 'be' 'di'r pwynt o bêl-droed neu rygbi?'
"Dwi'n mwynhau'r drafodaeth – mae'n codi ymwybyddiaeth amdano, a gwneud i bobl sylweddoli fod e'n hwyl, a ddim jest yn rhywbeth sy'n edrych yn wirion yn yr Olympics bob pedair blynedd!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Ebrill

- Cyhoeddwyd5 Hydref

- Cyhoeddwyd13 Hydref
