'Pobl wedi dewis gobaith' yn ôl arweinydd Plaid Cymru

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn y cyfri' yn Venue Cymru, LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn dathlu yn Venue Cymru, Llandudno

  • Cyhoeddwyd

Plaid Cymru ydi'r blaid fwyaf yn Senedd Cymru yn dilyn etholiad hanesyddol.

Gyda'r holl ganlyniadau wedi eu cyhoeddi, fe gipiodd Plaid Cymru 43 sedd, gyda Reform yn yr ail safle a Llafur yn drydydd.

Fe gipiodd Reform 34 sedd. Mae gan Lafur naw sedd, y Ceidwadwyr saith ac mae gan y Blaid Werdd ddwy sedd - y rhai cyntaf erioed i'r blaid.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, wedi cadw ei sedd hi.

Fe gollodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ei sedd yng Ngheredigion Penfro cyn iddi hi gyhoeddi ei bod yn ymddiswyddo fel arweinydd Llafur yng Nghymru.

Roedd y ganran a bleidleisiodd, sef 51.6%, yr uchaf yn hanes etholiadau'r Senedd.

Mae'r holl wybodaeth ddiweddaraf ar ein llif byw.

'Dechrau nid diwedd y daith ydi hyn'

Wedi iddo ennill sedd ym Mangor Conwy Môn, dywedodd yr arweinydd, Rhun ap Iorwerth bod "pobl Cymru wedi dewis gobaith".

"Maen nhw wedi dewis, ac maen nhw wedi dewis arweinyddiaeth newydd am y tro cyntaf yn hanes ein democratiaeth ifanc.

"Ond wrth i'r stori newydd yma gael ei sgwennu, nid heddiw sy'n bwysig mewn difri' ond fory a'r diwrnod ar ôl hynny. Dechrau, nid diwedd y daith ydi hyn."

Ychwanegodd fod pobl "wedi rhoi ffydd ynddon ni a byddwn ni'n dangos ein ffydd yng Nghymru".

Mewn cynhadledd i'r wasg yn ddiweddarach, dywedodd fod Plaid Cymru "yn barod i gymryd y camau angenrheidiol i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru" ac y byddai'n "estyn allan at eraill" er mwyn ceisio ffurfio llywodraeth.

Dywedodd yr arbenigwr gwleidyddol, Dr Richard Wyn Jones, ar raglen etholiad Newyddion S4C bod y canlyniad yn "fuddugoliaeth gyfforddus" i Blaid Cymru.

"Does 'na ddim amheuaeth pwy sydd efo'r mandad i drio llywodraethu Cymru - does dim cwestiwn amdano fo.

"Ond o ran ffurfio llywodraeth, mae'n bendant yn mynd i fod yn her. Mae Llafur yn glwyfedig, mae'r Gwyrddion wedi methu gwneud y cam mawr ymlaen felly mae ffurfio llywodraeth yn mynd i fod yn anodd."

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan yw arweinydd cyntaf unrhyw lywodraeth yn y DU i golli ei sedd tra yn y swydd

Bydd Llafur Cymru yn chwilio am arweinydd newydd, wedi i Eluned Morgan gadarnhau ei bod hi'n ymddiswyddo.

Hi yw arweinydd cyntaf unrhyw weinyddiaeth drwy'r DU i golli ei sedd tra yn y swydd a hynny yn sgil cwymp sylweddol ym mhleidlais Llafur Cymru.

Yn ei haraith o'r llwyfan yn dilyn y canlyniad, fy ddywedodd ei bod yn cymryd cyfrifoldeb am berfformiad "trychinebus" y blaid yn yr etholiad.

Bydd yn parhau yn brif weinidog hyd nes y bydd pleidlais yn siambr y Senedd i benodi ei holynydd.

Dywedodd bod "rhaid i'r blaid edrych yn galed iawn ar ei hun a deall dyfnder yr her rydym yn ei wynebu" ac mae'r "oes ble mae dwy blaid yn dra-arglwyddiaethu ar ben".

Dywedodd hefyd fod canlyniadau ledled y DU yn dangos "rhwystredigaeth ddofn" gyda'r Blaid Lafur ac y dylai llywodraeth Syr Keir Starmer "newid cwrs".

"Mae angen i ni fynd yn ôl i fod yn blaid y dosbarth gweithiol," meddai, gan ychwanegu fod angen rhannu cyfoeth y DU yn decach "i ffwrdd o'r De-ddwyrain".

'Dyddiau heriol i ddod'

Awgrymodd bod y system etholaethol newydd "wedi creu rhywfaint o ddryswch" ond bod "pobl Cymru wedi gwrthod Llafur Cymru".

"Ro'n i wastad yn glir mai etholiad am Gymru oedd hwn a bod Keir Starmer ddim yn ymgeisydd. Rwy'n cymryd cyfrifoldeb ac rwy'n ymddiswyddo."

Dywedodd hefyd nad oedd "atebion syml" i heriau Cymru a bod "cyllidebau'n gyfyngedig", mewn sylwadau oedd yn ymddangos fel beirniadaeth o addewidion ei gwrthwynebwyr.

Gorffenodd trwy ddweud bod "dyddiau heriol i ddod" i Lafur Cymru "ond rydym yn hyderus y bydd yr haul yn tywynnu eto. Dymunaf y gorau bosib i'r bobl fydd yn arwain y genedl ryfeddol hon."

Dywedodd mai bod yn Brif Weinidog Cymru oedd "braint fy mywyd", yn enwedig fel y fenyw gyntaf i arwain y wlad.

Dan Thomas yn dathlu'r canlyniad yn etholaeth Casnewydd Islwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dan Thomas yn dathlu'r canlyniad yn etholaeth Casnewydd Islwyn

Etholaeth Casnewydd Islwyn oedd y cyntaf i gyhoeddi canlyniad - dwy sedd yr un i Reform, oedd ar y brig, a Phlaid Cymru ac un yr un i Lafur Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig.

Arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas oedd yr aelod cyntaf felly i gael ei ethol i'r Senedd newydd.

"Mewn cwta bum mlynedd, mae Reform wedi mynd o ennill 1% o'r bleidlais yn etholiadau'r Senedd i fod yn brif ymgeisydd ar gyfer llywodraethu, gan chwalu Llafur yn y broses," dywedodd yn ei araith.

Alun Davies yng nghanol y dorf yn gwylio canlyniad etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-weinidog Llafur, Alun Davies, yn galw ar Syr Keir Starmer i ymddiswyddo yn dilyn perfformiad siomedig y blaid yn yr etholiad

Un arall sydd wedi colli ei sedd ydi cyn-weinidog Llafur yw Alun Davies, a fethodd â sicrhau sedd yn etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni.

Roedd yn cydnabod wrth i'r cyfri ddechrau "bod e'n glir iawn bod ni wedi cyrraedd trobwynt yn ein hanes gwleidyddol ni", a bod canrif Llafur fel y brif blaid yng Nghymru "yn siŵr o fod yn dod i ben heddiw".

Yn ei araith wedi'r canlyniad, fe ddywedodd bod perfformiad Llafur yng Nghymru "yn golled wedi ei chreu yn Downing Street" ac y dylai Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer ymddiswyddo.

Mae'r Blaid Lafur, meddai, wedi "colli ei ffordd a'i gallu i siarad" gydag etholwyr, gan ychwanegu: "Rhaid i Lafur Cymru sefyll dros bobl Cymru neu rydym yn cyfri am ddim."

Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Darren Millar, a gafodd ei ethol yn wreiddiol yn 2007, yn dychwelyd i Fae Caerdydd fel rhan o grŵp llai o aelodau Ceidwadol

Ymhlith y saith Ceidwadwr yn y Senedd fydd arweinydd mwyaf diweddar y grŵp, Darren Millar, a gipiodd un o seddi etholaeth Clwyd.

Dywedodd bod y blaid "yn mynd trwy gyfnod o adnewyddu dan arweinyddiaeth Kemi Badenoch" ac "yn dal yn dod dros y golled drychinebus yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 2024".

Ond fe fynnodd bod yna "arwyddion o adferiad - rydym wedi perfformio'n well yng Nghymru nad oedd llawer o'r polau piniwn wedi rhagweld".

Ychwanegodd y bydd y blaid yn "ymladd dros ostwng trethi, diwedd ar wastraff o fewn y llywodraeth a gwell gwasanaethau cyhoeddus" ar gyfer pobl Cymru.

Elin JonesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin Jones fod "pobl Cymru wedi datgan yn glir iawn eu bod eisiau newid"

Disgrifiodd Llywydd y Senedd, Elin Jones, ganlyniad yr etholiad fel "daeargryn gwleidyddol" gan ddweud bod Plaid Cymru wedi cael "mandad clir i geisio ffurfio llywodraeth".

Wrth siarad ar ôl cael ei hail-ethol, dywedodd fod Plaid Cymru wedi elwa ar alwad genedlaethol am newid yn y ffordd mae Cymru'n cael ei llywodraethu.

Talodd hi hefyd deyrnged i Eluned Morgan, gan ddweud na fyddai neb "byth yn cymryd oddi wrthi" y ffaith mai hi oedd Prif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru.

Wrth drafod y camau nesaf, dywedodd aelod Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin, Cefin Campbell eu bod "am ffurfio llywodraeth leiafrifol a gwneud bargen gyda rhai pleidiau sydd yn rhannu'n gwerthoedd ni - wrth gwrs er mwyn pasio cyllideb fel mae pob llywodraeth wedi gorfod neud ers dechre datganoli."

Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley ei fod "bron iawn methu â chredu" canlyniadau'r etholiad.

Dywedodd ar raglen Newyddion S4C: "Dwi'n arbennig o falch o weld Adam Price yn ôl yn Sir Gaerfyrddin.

"'Oedd 'na dipyn bach o amheuaeth sut 'sa'r pleidlais yn mynd, ond mae'n ddiogel."

Er y dathlu, dywedodd ei fod yn "teimlo i'r byw" dros Alun Davies, yr aelod Llafur a gollodd ei sedd.

"Mae'n gwneud joban o waith yn y Cynulliad. Ond dyna ni, mae 'na newid mawr rwan."

Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru yn cael ei holi ar gamera o'r cyfrif yn etholaeth Caerdydd Penarth
Disgrifiad o’r llun,

Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, yw'r aelod cyntaf o'r blaid i gael ei ethol i Fae Caerdydd

Am y tro cyntaf yn hanes datganoli yng Nghymru fe fydd yna ddau aelod o'r Blaid Werdd yn Senedd Cymru.

Y cyntaf o'r ddau i sicrhau ei le oedd arweinydd y blaid yng Nghymru, Anthony Slaughter ar ôl cipio pumed sedd etholaeth Caerdydd Penarth.

"Mae'n anhygoel, mae'n gyffrous, mae'n ddatblygiad hanesyddol," dywedodd wrth raglen etholiadol Newyddion S4C.

"Fe fydd cael llais i'r Gwyrddion yn y Senedd yn gwneud gwahaniaeth."

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds yn dychwelyd i'r Senedd, ond fel yn 2021 hi fydd unig gynrychiolydd y blaid yn y siambr.

Dywedodd ei fod yn "anrhydedd fawr" i gael ei hail-ethol i'r Senedd.

'Diwrnod anodd iawn i Lafur'

Cynrychiolydd o'r blaid Lafur mewn cyfrif ddydd GwenerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llafur yn dweud eu bod "yn siomedig iawn am beidio â gallu arwain llywodraeth"

Mae'n debygol y bydd canlyniad Cymru hefyd yn cael effaith ar ddyfodol prif weinidog y DU wrth i Lafur ystyried cyfres heriol o etholiadau lleol yn Lloegr ac etholiad Senedd yr Alban.

Dywedodd y blaid "nad oes dwywaith bod yr etholiad wedi bod yn un anodd iawn i Lafur Cymru".

"Rydyn ni'n colli nifer o Aelodau Senedd sy'n cael eu parchu a sydd wedi gweithio'n galed iawn.

"Rydyn ni am ddiolch iddyn nhw am eu gwaith yn eu cymunedau."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.