Etholiad

Canlyniadau Senedd Cymru

49 sedd i fwyafrif
12 o 96 sedd
  • Plaid Cymru 4 seddi 2 o seddi wedi’u cipio
  • Reform UK 4 seddi 4 o seddi wedi’u cipio
  • Ceidwadwyr 2 seddi 2 o seddi wedi’u colli
  • Llafur 2 seddi 4 o seddi wedi’u colli
  • Y Blaid Werdd 0 sedd Dim newid
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol 0 sedd Dim newid
Newid o'i gymharu â 2021

Crynodeb

  1. Dan Thomas: 'O hyn ymlaen, rydych chi am gael eich cynrychioli gan Reform'wedi ei gyhoeddi 15:22 GMT+1

    Yn siarad am y tro cyntaf wedi iddo gael ei ethol, mae Dan Thomas yn dweud y bydd Reform yn "rhoi pobl Cymru yn gyntaf".

    Dywedodd: "Am ddegawdau, mae dinasoedd a chymoedd Cymru, fel Islwyn a Casnewydd, wedi cael eu hanwybyddu, eu gadael lawr a'u hanghofio gan hen bleidiau Cymru.

    "Byddwch chi ddim yn cael eich anwybyddu, byddwch ddim yn cael eich gwthio i'r ochr a byddwch ddim yn cael eich galw'n enwau.

    "O hyn ymlaen, rydych chi am gael eich cynrychioli gan Reform."

  2. Pen-y-bont Bro Morgannwg: Yr aelodau newyddwedi ei gyhoeddi 15:20 GMT+1

    Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:

    Mark Jonathan Hooper (Plaid Cymru)

    Sarah Rees (Plaid Cymru)

    Sarah Cooper-Lesadd (Reform)

    Gareth Thomas (Reform)

    Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr)

    Sarah Murphy (Llafur)

    Nifer y pleidleisiau oedd:

    Plaid Cymru - 27,407

    Reform - 24,602

    Ceidwadwyr - 12,464

    Llafur - 9,518

    Gwyrddion - 4,220

    Dem Rhydd - 2,175

  3. Pen-y-bont Bro Morgannwg: Y manylion yn llawnwedi ei gyhoeddi 15:19 GMT+1

    Mwy
    mwy
  4. Canlyniad Pen-y-bont Bro Morgannwgwedi ei gyhoeddi 15:18 GMT+1
    Newydd dorri

    Cerdyn sy'n dangos canlyniad ar gyfer etholiad etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg. Enillwyd y chwe sedd fel a ganlyn Plaid Cymru 2, Reform UK 2, Ceidwadwyr 1, Llafur 1
  5. 'Dagrau, cofleidio a chymeradwyo gyda chanlyniad cyntaf y dydd'wedi ei gyhoeddi 15:14 GMT+1

    Sara Rowlands
    Gohebydd BBC Cymru

    Disgrifiad,

    Natasha Ashgar

    Mae yna ddagrau, cofleidio a chymeradwyo gyda chanlyniad cyntaf y dydd yng Nghasnewydd Islwyn.

    Roedd Natasha Asghar yn ddagreuol gyda’i theulu cyn cyhoeddi’r canlyniad, o bosib dagrau o ryddhad gan ei bod wedi llwyddo i gadw ei sedd.

    Roedd Jayne Bryant, yr unig un o’r Blaid Lafur i lwyddo i ddal gafael ar ei sedd, yn cofleidio pobl o’i chwmpas.

    Wrth wneud ei araith fe wnaeth arweinydd Reform Dan Thomas fynnu bod “llais pobl Cymru wedi ei glywed”.

    Roedd dathliadau mawr yng nghornel Plaid Cymru gyda Peredur Owen Griffiths a Lyn Ackerman yn ennill 2 sedd.

  6. Y map etholiadol a'r Senedd ar ei newydd wedd yn dechrau poblogi!wedi ei gyhoeddi 15:14 GMT+1

    map

    Gyda'r canlyniad cyntaf wedi cyrraedd, mae'r map etholiadol a threfn y Senedd newydd yn dechrau ffurfio.

    Un wedi cyhoeddi, 15 i ddod!

    Senedd
  7. 'Canlyniad ysgytwol i'r Blaid Lafur'wedi ei gyhoeddi 15:13 GMT+1

    Huw Lewis
    Sylwebydd gwleidyddol

    Mae hwn yn ganlyniad ysgytwol i’r Blaid Lafur – enillodd y blaid rhwng 40% a 50% o’r bleidlais yn yr ardaloedd hyn yn ôl yn 2021. Heddiw roedd wedi syrthio'n ôl i 14%.

    Ar y llaw arall mae gweld Plaid Cymru yn sicrhau dros 30% o’r bleidlais yn syfrdanol.

  8. Dan Thomas yn dathlu yng Nghasnewyddwedi ei gyhoeddi 15:12 GMT+1

    Etholiad 2026

    Dyma'r foment pan glywodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas ei fod wedi'i ethol i'r Senedd dros Gasnewydd Islwyn.

    Dan Thomas
  9. Cymeradwyaeth wrth i Dan Thomas ennill seddwedi ei gyhoeddi 15:07 GMT+1

    Dan Thomas, Arweinydd Reform yng Nghymru, sydd yn ennill y sedd gyntaf yn etholiad Senedd Cymru 2026 yn etholaeth Casnewydd Islwyn.

  10. Canlyniad llawn Casnewydd Islwynwedi ei gyhoeddi 15:02 GMT+1

    Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:

    Dan Thomas (Reform)

    Art Wright (Reform)

    Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru)

    Lyn Ackerman (Plaid Cymru)

    Jane Bryant (Llafur)

    Natasha Asghar (Ceidwadwyr)

    Nifer y pleidleisiau oedd:

    Reform - 25,571

    Plaid Cymru - 23,069

    Llafur - 10,622

    Ceidwadwyr - 8,847

    Gwyrddion - 5,898

    Dem Rhydd - 2,683

  11. Casnewydd Islwyn: Y manylion yn llawnwedi ei gyhoeddi 15:00 GMT+1

    Mwy
    Mwy
  12. Canlyniad Casnewydd Islwynwedi ei gyhoeddi 14:58 GMT+1
    Newydd dorri

    Casnewydd Islwyn
  13. Canlyniad cyntaf ar y fforddwedi ei gyhoeddi 14:55 GMT+1

    Mae'r canlyniad cyntaf yn cael ei gyhoeddi yng Nghasnewydd Islwyn.

  14. ‘Dwi wastad ar gael am sgwrs’wedi ei gyhoeddi 14:52 GMT+1

    Os mai Plaid Cymru fydd yn ffurfio llywodraeth a Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymru, mae Ieuan Wyn Jones ar gael i roi cyngor.

    Y cyn-aelod dros Fôn oedd y Dirprwy Brif Weinidog rhwng 2007-2011 pan wnaeth ei blaid lywodraethu gyda Llafur.

    Dywedodd ei fod eisoes wedi siarad gyda Rhun ap Iorwerth ac aelodau o’i dîm yn ystod yr ymgyrch, ond nad oedd eisiau “gwthio fy hun mewn unrhyw ffordd”.

    Meddai: “Mae o’n beth mawr i fynd i mewn i’r swydd yna. Es i mewn fel Dirprwy Brif Weinidog - ac mae o’n gam arall wedyn i fynd i fyny yn Brif Weinidog ond mae’r profiad sydd gen innau ac Elin Jones - gobeithio fydd hefyd yn ôl - yn rhywbeth fydd [Rhun ap Iorwerth] yn dibynnu arno dwi’n credu ac yn gofyn am gyngor.

    “Ac mae hynny wedi digwydd a dwi’n gobeithio os oes pobl yn teimlo bod nhw eisiau sgwrs fyddai wastad ar gael i wneud hynny yn naturiol.”

    Disgrifiad,

    Cyn-arweinydd Plaid Cymru yn sôn am ymgyrch lwyddiannus Rhun ap Iorwerth

  15. Disgwyl i dros 50% fod wedi pleidleisiowedi ei gyhoeddi 14:47 GMT+1

    Yn ôl yr arbenigwr ar etholiadau, Syr John Curtice, mae disgwyl y bydd dros 50% o'r etholwyr cymwys wedi bwrw pleidlais eleni.

    Dyma fyddai'r tro cyntaf i unrhyw etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd groesi'r trothwy hwnnw.

    Mae Syr John yn rhagweld y bydd y ffigwr tua 53%.

  16. O’r sgrin i’r Senedd?wedi ei gyhoeddi 14:44 GMT+1

    Mari Grug
    Gohebydd BBC Cymru

    Un wyneb allai fod yn gyfarwydd i wylwyr Gogglebocs Cymru yw ymgeisydd Llafur ym Mrycheiniog Tawe Nedd, Elliot Wigfall.

    Mae'n bedwerydd ar restr ymgeiswyr y Blaid Lafur, yn sefyll am y tro cyntaf.

    Elliot Wigfall
  17. Wynebau llwm gan gefnogwyr Llafur yn Aberdârwedi ei gyhoeddi 14:39 GMT+1

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae 'na dipyn o wynebau llwm sy’n gwisgo rosets Llafur yn y neuadd fan hyn yn Aberdâr.

    Yn sicr does dim gobaith, ymhlith y ffynonellau ‘dan ni wedi siarad â nhw, bod mwy nag un sedd yn bosib.

    Mae gormod o bleidleiswyr Llafur traddodiadol wedi dadrithio ac aros adref, meddan nhw.

    Ac nid polisïau Llywodraeth Cymru oedd yn cael y bai mwyaf ar y stepen ddrws chwaith – ond Keir Starmer.

    Mae ffynonellau o Reform a Plaid wedi dweud wrthon ni ei bod hi’n agos, ond ei bod hi'n edrych fel mai'r cenedlaetholwyr sydd am orffen ar y brig fel mae’n sefyll.

    Byddai hynny’n ychydig o syndod, oherwydd hyd yn oed yn yr arolygon barn mwyaf hael i Plaid Cymru yn y dyddiau diwethaf, roedd y darogan o ran seddi dal yn rhoi Reform ar y blaen yn yr etholaeth hon.

  18. Blaenau Gwent Caerffili Rhymni yn 'brawf o ba mor drychinebus yw hi' i Lafurwedi ei gyhoeddi 14:35 GMT+1

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Mae'r ail gyfrif yn etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni oherwydd bod Alun Davies, ymgeisydd y blaid Lafur wedi methu ag ennill un o'r chwe sedd yn y cyfrif cyntaf.

    Mae Vaughan Roderick yn dweud bod "cewri Llafur oedd mwy neu lai yn cynrychioli'r byd Llafur" wedi sefyll yn yr ardal, gan gynnwys Neil Kinnock ac Aneurin Bevan.

    Yn siarad ar raglen Etholiad S4C, dywedodd Golygydd Materion Cymreig y BBC yn credu bod y sefyllfa yn "brawf o ba mor drychinebus" yw'r canlyniad i Lafur.

  19. O ble y daw seddi Llafur?wedi ei gyhoeddi 14:30 GMT+1

    Huw Lewis
    Sylwebydd gwleidyddol

    Mae ail gyfrif ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni erbyn hyn.

    Yn ôl y sôn roedd y cyfrif cyntaf wedi rhoi tair sedd yr un i Blaid Cymru a Reform a dim un i Lafur.

    Os yw Llafur yn ei chael yn anodd i gasglu digon o bleidleisiau i ennill sedd yn yr etholaeth hon, mae angen gofyn o ddifrif o ble y daw seddi’r blaid?

    Mae 10 sedd yn edrych yn obeithiol ar hyn o bryd. Amser a ddengys...

  20. Arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, wedi cyrraedd y cyfrifwedi ei gyhoeddi 14:26 GMT+1

    Sara Dafydd
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, wedi cyrraedd y cyfrif yn y Felodrom Cenedlaethol yng Nghasnewydd - gwell hwyr na hwyrach!

    Wrth ei holi ai fe fyddai Prif Weinidog nesaf Cymru dywedodd ei fod yn rhy gynnar i ddweud, ond mai prif stori’r dydd yw bod “Llafur ar ben” yng Nghymru.

    Mae’r ymgeiswyr wedi ymgasglu i glywed y canlyniad a phenderfynu a ydyn nhw am ail-gyfrif ai peidio. Os nad ydyn nhw mae’n bosib mai Casnewydd Islwyn fydd canlyniad cynta’r dydd.

    Dan ThomasFfynhonnell y llun, PA Media