Cymru yn gobeithio dysgu o 'egni anhygoel' ras iaith Catalwnia

Ffion (ail o'r dde) aeth gyda Hawys i gynrychioli'r Gymraeg yn ras Correllengua Agermanat eleni - gyda rhai o redwyr eraill y ras
- Cyhoeddwyd
"Profiad gwych!"
Dyna ymateb Hawys Roberts o Aberystwyth i gymryd rhan mewn ras ddiwylliannol anferth yng Nghatalwnia.
Mae ras Correllengua Agermanat yn ddigwyddiad sy'n hyrwyddo'r iaith Gatalaneg, drwy gario fflam ledled cadarnleoedd yr iaith.
Roedd Hawys a Ffion Gruffudd wedi mynd draw i Barcelona i redeg rhan o'r ras, fel aelodau o Fwrdd Cyfarwyddwyr Mentrau Iaith Cymru, sy'n ystyried ailgychwyn y digwyddiad yma yng Nghymru.
"Oedd yr egni yn anhygoel," meddai Hawys. "Beth oedd yn taro ti oedd faint o bobl ifanc oedd yn ymhyfrydu yn yr iaith ac yn frwdfrydig iawn i hyrwyddo a defnyddio'r iaith a chodi ymwybyddiaeth ohoni yn eu cymunedau.
"Oedd y fflam yn cael ei phasio o un gymuned i'r llall, ac ym mhob cymuned wedyn roedd digwyddiadau fel gigs a gweithgareddau i gydfynd â'r ras."

Hawys yn ei baner yn barod i gymryd rhan yn Correllengua Agermanat yn Barcelona
Bwriad y ras yw hyrwyddo'r iaith Gatalaneg, uno'r cymunedau sy'n ei siarad ac i ddangos ymrwymiad i gadw'r iaith yn fyw fel iaith bob dydd.
Wedi ei hysbrydoli gan ras yr iaith yng Ngwlad y Basg – Korrika – a gweithgareddau sydd wedi cael eu cynnal ar ynys Mallorca ers 1995, dyma oedd y flwyddyn gyntaf i'r Correllengua Agermanat gael ei chynnal ledled yr holl gymunedau Catalaneg.
Eleni, cafodd ei chynnal 17 Ebrill-5 Mai, gan deithio 1,500km dros 17 cymal ledled y cymunedau Catalaneg-eu-hiaith, sy'n cynnwys gogledd ddwyrain Sbaen, de Ffrainc, yr Ynysoedd Balearaidd ac hyd yn oed dinas Alghero yn Sardinia.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Ieithoedd bach yn cydweithio
Cafodd cynrychiolwyr ieithoedd bach eraill eu gwahodd i gymryd rhan yn y ras y flwyddyn yma, eglurodd Hawys.
"O'n ni yn rhan o'r ras oedd yng nghanol dinas Barcelona, lle 'naethon nhw wahodd cymunedau o ieithoedd lleiafrifol eraill atyn nhw, yn symbol o gydweithio a chyd-gefnogi ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop.
"'Naeth y fflam gael ei phasio o gynrychiolwyr iaith Gwlad y Basg i ni, ac o'n ni'n pasio'r fflam 'mlaen i'r iaith Amazigh o Ogledd Affrica. Roedd cynrychiolwyr o Iwerddon, yr Alban, Llydaw, Aragon, a Ffrisiaid o'r Almaen yno hefyd."

Hawys a Ffion gyda Tomaí o Iwerddon
A hithau yng nghanol bwrlwm a sŵn y Gatalaneg, sut oedd Hawys yn teimlo oedd hyn yn ei gymharu â sefyllfa'r Gymraeg?
"Fi'n meddwl o'n i'n gallu teimlo'n falch mewn ffordd achos mae 'na gymaint o bethau'n digwydd yng Nghymru hefyd, fel gwyliau mae Mentrau Iaith Cymru yn eu trefnu ar draws Cymru, a digwyddiadau eraill diwylliannol a chymdeithasol o bob math sydd yn hyrwyddo'r Gymraeg i bobl o bob oed.
"Mae'n dangos bod yr un syniad yna, a taw y peth pwysig yw defnyddio iaith o fewn cymunedau lle mae pobl yn gallu ei gweld hi mewn sefyllfaoedd bob dydd – yn y gwaith, ar gae chwarae, mewn digwyddiadau diwylliannol, mewn ysgolion, ac ym mhob sefyllfa.
"Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni gyd yn defnyddio'n hiaith ar bob cyfle posib.
Gorymdaith swnllyd yna gig fywiog er mwyn hyrwyddo'r iaith Gatalaneg
"Wrth gwrs, mae yna lawer mwy o siaradwyr Catalaneg na Chymraeg, ond yr un yw'r egni a'r brwdfrydedd fi'n credu.
"Roedd y bobl ifanc 'naethon ni siarad gyda nhw yno yn awyddus iawn i addysgu pobl am eu hiaith a sut maen nhw'n gallu ei defnyddio hi yn eu cymunedau nhw bob dydd."
Gweledigaeth i'r Gymraeg
Mae Ras yr Iaith yng Nghymru wedi cael ei chynnal ambell i dro yn y gorffennol – yn 2014, 2016, 2018 a 2023, ac yn rhithiol yn 2020 - ac roedd Mentrau Iaith Cymru yn ganolog i'r trefnu o'r dechrau.
Gobaith y sefydliad nawr yw i ail-ddechrau cynnal ras gyfnewid ledled Cymru yn rheolaidd, sy'n hyrwyddo'r Gymraeg.
"Mae Mentrau Iaith Cymru nawr yn awyddus iawn i gymryd rhai o'r syniadau ac i gymryd y brydfrydedd a'r egni 'na sy 'di dod o Correllengua Agermanat i nawr fynd ati i feddwl," meddai Hawys.

Hawys a'i Draig Goch i'w gweld ar flaen yr orymdaith drwy strydoedd Barcelona
"Drwy waith Mentrau Iaith Cymru a phrosiect Cymraeg i Bawb sy'n hyrwyddo addysg Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru, sut allwn ni gymryd y negeseuon sydd ganddon ni ac ailgreu rhywbeth tebyg a'i 'neud yn berthnasol i Gymru, gyda ffocws newydd ar ddathlu addysg cyfrwng Cymraeg?
"Dyna'r weledigaeth; i gael cymunedau yng Nghymru yn frwdfrydig dros y Gymraeg, dros addysg Gymraeg, ac i gael digon o gyfleoedd i bobl Cymru siarad a mwynhau'r Gymraeg bob dydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd19 Mawrth
