Patagonia: Cofio croeso cynnes Aldwyn Brunt i gapel lleiaf Y Wladfa

Y diweddar Aldwyn Brunt tu allan i Gapel Glan Alaw
- Cyhoeddwyd
Fis Ebrill bu farw Aldwyn Brunt, gofalwr Capel Glan Alaw ger y Gaiman ym Mhatagonia yn 89 mlwydd oed.
Am dros 30 mlynedd fe agorodd Aldwyn ddrws y capel Cymreig ar lannau'r Afon Camwy i ymwelwyr o Gymru.
Roedd Aldwyn yn or-ŵyr i Benjamin Brunt, amaethwr blaenllaw yno a ymfudodd o Gymru i Batagonia yn 1881.
Nid oedd Aldwyn wedi bod yng Nghymru, ond y Gymraeg oedd ei iaith gyntaf.
Un sy'n cofio cyfraniad Aldwyn i ddiwylliant Cymreig Y Wladfa yw Billy Hughes o'r Gaiman.
Meddai: "Tasa unrhyw Gymro'n cnocio'r drws isio gweld Aldwyn neu isio gweld Capel Glan Alaw, byddai Aldwyn yn fwy na bodlon ac wrth ei fodd yn cael sgwrs yn Gymraeg.
"Mae un arall o'r bobl sydd wedi cael Cymraeg fel iaith gyntaf ar yr aelwyd yn Y Wladfa wedi mynd."
Byw bywyd syml ger Capel Glan Alaw
Yn sefyll mewn ardal wledig rhwng tref y Gaiman a thref Dolavon, codwyd Capel Glan Alaw yn 1887.
Agorwyd drws y capel am y tro cyntaf gan yr ymfuwdwyr Cymreig ar 15 Mai 1887, chwe blynedd ar ôl i hen-daid Aldwyn, Benjamin Brunt symud o Gymru i Batagonia gydag addewid am fywyd gwell.

Aldwyn Brunt yn croesawu criw o Gaernarfon a'r Felinheli i weld Capel Glan Alaw yn 2019
Ac yn ôl Billy Hughes, roedd Benjamin yn ddyn amryddawn a'i ddulliau ffermio'n arloesol.
"Roedd Benjamin Brunt yn un o fawrion Y Wladfa, yn un eitha talentog a roedd o'n andros o dda'n cynhyrchu bwyd yn ffrwythlon ac effeithlon."

Grwp o ddyrnwyr, yn gweithio i Benjamin Brunt, hen-daid Aldwyn tua 1893. Benjamin y'w trydydd o'r dde (rhes gwaelod)
Ffermio oedd bywoliaeth Aldwyn hefyd, ac fe fu'n byw yn yr un ardal yn Nyffryn Camwy ar hyd ei oes, a Chapel Glan Alaw gerllaw.
Dywed Billy Hughes: "Roedd o'n byw ar fferm wrth ochr y capel, ac roedd mynd yno fel mynd yn ôl mewn amser, fel amgueddfa byw.
"Roedd popeth yn hen, dim tractors newydd. Mae pobl ifanc yn trio cario 'mlaen efo'r modelau newydd o bopeth ond dim fel'na oedd pethe ar fferm Aldwyn a'i frawd.
"Roeddan nhw'n byw'n dawel a syml, roedd o mor braf mynd i weld Aldwyn ar ei fferm."
Cymraeg oedd iaith ei aelwyd
Mae siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf Y Wladfa'n brin erbyn hyn.
Billy sy'n rhannu atgof melys o ymweld â chartref Aldwyn dros ddegawd yn ôl.
"Rhyw 10 neu 15 mlynedd yn ôl dwi'n cofio mynd i fferm Aldwyn a roedd ei fam yn fyw.
"Oedd hi tua 95 ar y pryd ac Aldwyn yn dweud wrtha i, 'Tyrd i mewn 'dan i'n cael te efo Mam,' ac Aldwyn yn dweud yn Gymraeg wrth ei fam, 'Dach chi'n cofio Billy, Mam?'"
"Roedd o'n siarad Cymraeg bob gair ei fam, dyna iaith yr aelwyd."

Sgwrsio gydag ymwelwyr o Gaernarfon a'r Felinheli yng Nghapel Glan Alaw yn 2019
Ac yn ôl Billy roedd tafodiaith Gymraeg Aldwyn yn unigryw ac yn adlais o siaradwyr Cymraeg Y Wladfa hanner canrif yn ôl.
"Erbyn hyn 'dan ni gyd wedi ymwneud lot efo pobl sy'n dod o Gymru ac felly mae yna wahanol ffynhonnau o'r Gymraeg a gwahanol acenion.
"Yn fan'ma rhyw 50 mlynedd yn ôl roedd yna ffordd o siarad unigryw a dyna'r ffordd roedd Aldwyn yn siarad.
"Er enghraifft, yn lle deud diolch oedd Aldwyn yn dweud 'thanciw mowr'.
"Mae'n swnio'n rhyfadd i ni ond dyna hefyd sut roedd fy nhad hefyd yn diolch am rwbath."
Croesawu Cymry i Gapel Glan Alaw
Rhwng 1865 ac 1925 fe gododd y Cymry ym Mhatagonia 18 o gapeli yn nhalaith Chubut. A'r lleiaf o'r rhain oedd Capel Glan Alaw.
Mae'r capel bychan anghysbell yn swyno ymwelwyr o Gymru heddiw. Ond yn rhan o swyn ymweld â chapel Glan Alaw, oedd croeso cynnes gan Aldwyn.
"Byddai Aldwyn wrth ei fodd yn dangos y capel i Gymry, rhannu'r hanes a chael sgwrs yn Gymraeg efo'r bobl 'ma, holi o lle oeddan nhw'n dod a phwy oedden nhw."

Agor drws y capel i ymwelwyr o Gaernarfon a'r Felinheli yn 2019
Roedd sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynnal yng Nghapel Glan Alaw ar y Sul yr un mor bwysig i Aldwyn â chroesawu ymwelwyr o Gymru.
"Oeddan ni yn cael rhyw wasanaeth bob mis," meddai Billy.
"Os oeddwn i yn cwrdd ag Aldwyn yn y dref yn ystod yr wythnos bydda Aldwyn yn dweud 'Cofiwch dydd sul, tua pump o'r gloch fydd yna wasanaeth'.
"'Wrach byddai pobl wedi bod mewn gwasanaeth yn y bore yn eu capel nhw, ond roedd rhyw ddwsin ohonon ni'n mynd i gefnogi Aldwyn unwaith bob mis i Gapel Glan Alaw.
"Oedd Aldwyn yn 'neud yn siŵr fod popeth yn ei le ac yn drefnus, yn derbyn pawb a chael sgwrs efo pob un.
"Roedd o'n eistedd yn y set ôl, ddim yn y sedd flaen. Yna byddai rhywun yn cymryd y gair a chodi canu, ac Aldwyn yn mwynhau bod yn y gynulleidfa."

Ffyddloniaid gwasanaethau misol Capel Glan Alaw gan gynnwys Billy Hughes (ail o'r chwith)
Yn un oedd yn arddel ei Gymreictod bendraw'r byd i Gymru, un cwestiwn na wnaeth Billy erioed ofyn wrth Aldwyn yw a fyddai'n hoffi mynd i Gymru.
"'Chydig o symud o fan'ma oedd Aldwyn wedi ei wneud. Roedd o wedi bod i'r Andes un neu ddwywaith, a phan oedd o'n 20 oed roedd rhaid iddo fynd 1000km i'r de i Río Gallegos pan gafodd ei orfodi i fynd i'r fyddin.
"'Wrach fasa wedi licio mynd i Gymru ond heb y daith yn y canol.
"Ond bydda' wedi bod wrth ei fodd yn cyfarch pobl o'r un dras ag o."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd13 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd31 Mai 2025
