Plaid Cymru'n atal aelodaeth cynghorydd dros sylwadau mewnfudo

Gareth Anthony RobertsFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
GanGareth Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi atal aelodaeth cynghorydd sir o Wynedd dros dro ar ôl iddo honni bod mewnfudo yn effeithio ar allu ysgolion i addysgu'r Gymraeg ym Mangor.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Anthony Roberts, sy'n cynrychioli ward Dewi ym Mangor, fod ysgol leol yn ei "chael hi'n anodd gweithredu'r Gymraeg fel opsiwn iaith", gyda "42 o ieithoedd gwahanol" yn cael eu siarad yn yr ysgol gynradd.

Yn ôl Plaid Cymru, mae'r penderfyniad i atal ei aelodaeth yn un "dros dro" a bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mewn datganiad dywedodd Mr Roberts ei fod yn "caru mewnfudo" ond yn poeni nad yw pobl sy'n dod i'r wlad "yn cael y cyfle i ddysgu a siarad Cymraeg yn iawn a'u helpu i gael swyddi da".

Y Gymraeg yn 'dirywio'n ddyddiol'

Yn siarad mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd, dywedodd Mr Roberts fod y ddinas "yn arfer bod yn ardal Gymraeg" ond ei bod yn "dirywio'n ddyddiol".

"Dros y bum mlynedd ddiwetha' dwi wedi gweld cannoedd, os nad 1,000, yn dod yma i fyw - hynny yw, mewnfudwyr," meddai.

"Maen nhw [yr ysgol] wir yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda'r nifer yna o ieithoedd newydd ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd gweithredu'r Gymraeg fel opsiwn iaith yno.

"Yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yw bod y bobl sydd wedi'u lletya ym Mangor rŵan mewn tai amlfeddiannaeth a fflatiau un ystafell... maen nhw wedi'u lletya yma rwan ac maen nhw'n cael plant.

"A bydd y bobl yma eisiau cael tŷ i fyw ynddo, fel rydyn ni i gyd eisiau ei wneud.

"Mae 'na nifer cyfyngedig o dai ym Mangor, felly maen nhw'n mynd i symud allan i'r ardaloedd cyfagos, a phan fyddan nhw'n gwneud hynny, bydd hynny'n gwanhau'r iaith Gymraeg yn sylweddol."

Erbyn hyn, mae'r cynghorydd yn ymddangos ar wefan Cyngor Gwynedd fel aelod sydd ddim yn perthyn i unrhyw grŵp gwleidyddol ar y cyngor.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Yn dilyn cwyn ffurfiol a dderbyniwyd gan Blaid Cymru am y Cynghorydd Gareth Anthony Roberts, ward Dewi, Bangor, mae ei aelodaeth wedi'i hatal dros dro ac mae'r cynghorydd wedi ymddiswyddo o grŵp Plaid Cymru Gwynedd.

"Gweithred niwtral yw hon hyd nes bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal."

'Rhaid i ni gael y trafodaethau hyn'

Mewn datganiad, dywedodd Mr Roberts: "Dwi'n caru mewnfudo, dwi'n meddwl ei fod yn wych ac mae'n helpu ein heconomi.

"Cefais fy magu ym Mangor, ac mae hi wastad wedi bod yn ddinas amlddiwylliannol.

"Ond dwi'n poeni dros y bobl sy'n dod i'r wlad hon sydd wir eisiau integreiddio, ond rydym yn eu siomi os nad ydynt yn cael y cyfle i ddysgu a siarad Cymraeg yn iawn a'u helpu i gael swyddi da.

"Mae hi mor anodd i'r ysgolion, ond mae'n rhaid i ni gael y trafodaethau hyn."

Ychwanegodd: "Roedd y drafodaeth yn ymwneud â datblygiad tai yn Chwilog, ond roeddwn yn rhybuddio beth allai ddigwydd mewn mannau eraill oherwydd y diffyg tai ym Mangor.

"Os bydd yn rhaid i bobl symud i'r ardaloedd cyfagos, bydd hynny'n effeithio ar yr iaith mewn ardaloedd lle mae mwy o bobl yn siarad Cymraeg."