Dim ond Plaid Cymru all guro Reform - Rhun ap Iorwerth

Mae arolygon barn wedi awgrymu bod Plaid Cymru mewn brwydr gyda Reform i fod y blaid fwyaf yn Senedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn honni mai dim ond ei blaid ef all guro Reform UK yn etholiad y Senedd yr wythnos nesaf.
Dywedodd bod yr etholiad yn ras rhwng y ddwy blaid, a bod yn "rhaid i un blaid fod yn fwy na Reform".
Mae arolygon barn wedi awgrymu'n gyson bod Plaid Cymru a Reform yn cystadlu i fod y blaid fwyaf yn Senedd Cymru ar ôl y bleidlais ar 7 Mai.
Bydd pob gwleidydd yn cael ei ethol drwy system bleidleisio gyfrannol sydd wedi'i chynllunio i geisio sicrhau bod nifer yr aelodau o'r Senedd o bob plaid yn adlewyrchu'n fras eu cefnogaeth etholiadol.
Wrth siarad â BBC Cymru fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda ffigyrau blaenllaw y pleidiau cyn yr etholiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Yr hyn sy'n rhaid i mi ei sicrhau yw mai Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf ar ôl yr etholiad.
"Rwy'n gwneud popeth o fewn fy ngallu yn y dyddiau olaf yma i'w gwneud yn glir i bobl pa mor bwysig yw hi bod Plaid Cymru yn curo Reform.
"Rhaid i un blaid fod yn fwy na Reform - dim ond Plaid Cymru all hynny fod."
Mae rhan o neges Rhun ap Iorwerth wedi'i hanelu at osgoi sefyllfa ddadleuol lle byddai Reform yn dod i'r amlwg fel y blaid fwyaf ar ôl yr etholiad, ond yna'n cael ei hatal rhag ffurfio llywodraeth nesaf Cymru gan bleidiau asgell chwith y Senedd.
Dywedodd y cyn-brif weinidog Llafur, Mark Drakeford, yn ddiweddar y byddai pleidiau'r chwith yn uno i rwystro Reform pe bai'n ennill y nifer fwyaf o seddi.
Mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, eisoes wedi rhybuddio am "drefniant cefn llwyfan" posibl ar ôl yr etholiad i atal ei blaid rhag llywodraethu.
Pan ofynnwyd iddo am hynny, ailadroddodd Rhun ap Iorwerth: "Mae'n rhaid i ni sicrhau bod un blaid yn fwy na Reform, a dim ond Plaid Cymru all hynny fod.
"Mae honno'n neges dactegol gref, ond dwi hefyd eisiau i bobl wneud penderfyniad cadarnhaol i bleidleisio dros Blaid Cymru."
Etholiad Senedd Cymru: Cymharwch bolisïau'r pleidiau
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
Etholiad y Senedd: Dewch i 'nabod yr arweinwyr
- Cyhoeddwyd12 Ebrill
Etholiad yn ddewis rhwng Plaid Cymru a Reform - Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
Yn ystod y cyfweliad, fe warantodd Rhun ap Iorwerth hefyd y byddai gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog blynyddol pe bai ei blaid mewn grym ar ôl yr etholiad.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, wedi honni y byddai'n rhaid i Blaid Cymru rewi cyflogau er mwyn ariannu ei pholisïau, gan gynnwys addewid i gyflwyno gofal plant am ddim i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.
Pan ofynnwyd a fyddai gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael codiad cyflog bob blwyddyn o dan lywodraeth Plaid Cymru, atebodd Rhun ap Iorwerth drwy ddweud y bydden nhw.
"Rydym yn gwybod beth yw'r ffigyrau, ac rydym, fel y byddech yn disgwyl, wedi ystyried yr angen i sicrhau ein bod yn gofalu am ein gweithlu."