Drama Y Streic Fawr i ddweud stori Friction Dynamics

Yr actor Gruffudd Glyn yn ffilmio golgfa ar gyfer y ddrama Y Streic FawrFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Gruffudd Glyn yn ffilmio golygfa ar gyfer y ddrama Y Streic Fawr

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n 25 mlynedd ers diwrnod cyntaf un o streiciau diwydiannol hiraf hanes Cymru a gwledydd Prydain.

Ar 30 Ebrill 2001 aeth 86 o weithwyr ffatri rhannau ceir Friction Dynamics allan ar streic dros amodau gwaith ac aros allan am bron i dair blynedd.

Dros y cyfnod hynny roedd gweld picedwyr yn sefyll ar ochr y ffordd yn Griffiths Crossing ger Caernarfon yn olygfa cyfarwydd.

Byddai gyrrwyr yn gwibio heibio gan godi llaw a chanu chorn mewn brawdoliaeth.

Ac ar hyn o bryd, mae'r golygfeydd yma'n cael eu hail-greu ar gyfer drama dair rhan fydd ar S4C cyn diwedd y flwyddyn o'r enw Y Streic Fawr.

Dywedodd Gruffudd Glyn sy'n chwarae rhan Gerald Parry, un o arweinwyr y streic:

"Mae'n fraint cael chwarae rhan Gerald. 'Dan ni wedi bod yn ffilmio yn yr ardal ers pythefnos bellach a 'dan ni gyd isio 'neud job dda o ddweud stori mor bwysig ac i gynrychioli cymuned yn y ffordd ora' bosib.

"Mae'n stori bwysig am bobl yn sefyll i fyny'n erbyn pobl farus, dangos fod yna bŵer mewn cymuned, a dwi'n teimlo bod hynny'n rhywbeth andros o bwysig yn ein byd ni heddiw."

'Porfiad swreal sefyll lle roedd y picedwyr yn sefyll'

Bu'r gweithwyr yn picedu'r gwaith am bron i 1,000 o ddyddiau ar ôl i'r perchennog Americanaidd, Craig Smith, geisio newid eu tâl a'u hamodau gwaith a'u cloi allan.

Enillodd y gweithwyr eu hachos mewn tribiwnlys diwydiannol yn y diwedd, ond chawson nhw ddim iawndal gan Mr Smith.

Ar y pryd roedd yr anghydfod yn cael ei alw yn un hanesyddol oedd yn herio un o bwyntiau'r gyfraith am streicio.

Roedd Gerald Parry fydd yn cael ei bortreadu gan Gruffudd yn areithiwr blaenllaw yn y ralïau a oedd gysylltiedig â'r streic.

Hefyd yn rhan o gast Y Streic Fawr mae Rhodri Trefor a Rhys ap Trefor.

Bydd Rhodri'n portreadu Tomi Jones, a ddechreuodd fel siop steward cyn dod yn swyddog llawn amser i Undeb y Transport and General yng Ngogledd Cymru a Rhys yn portreadu John Davis, a ddewiswyd i gynrychioli'r 86 o weithwyr yn y llys.

Gerald Parry
Disgrifiad o’r llun,

Gerald Parry

Dros y misoedd diwethaf mae Gruffudd wedi bod yn ymchwilio'n fanwl i hanes y streic ac mae'r hanes wedi bod yn agoriad llygaid.

"Ro'n i'n fy arddegau cynnar yn 2001 ac yn byw yng Nghaerdydd felly dwi'n cofio peth sôn amdano yn enwedig gan fod fy nheulu i'n dod o'r gogledd ond ddim mwy na hynny.

"Dwi wedi bod yn gwylio archif newyddion o'r cyfnod; gweld fel roedd pobl yn gyrru heibio ac yn beepio cyrn eu ceir i ddangos eu cefnogaeth, a phan aeth miloedd i'r maes yng Nghaernarfon i gefnogi'r streicwyr.

"Roeddan ni'n ffilmio y tu allan i safle ffatri Ferodo y diwrnod o'r blaen ac yn sefyll lle roedd y streicwyr yn sefyll.

"Mi oedd yna geir dal yn canu eu cyrn wrth fynd heibio; o bosib yn cofio fel oedd y bobl yn sefyll tu allan neu o bosib isio dangos eu cefnogaeth at y cynhyrchiad.

"Roedd o'n brofiad reit swreal cael sefyll yn lle roedd Gerald a'i gyd-streicwyr yn sefyll a bod pobl yn dal i ganu cyrn i ddangos cefnogaeth."

Cast Y Streic Fawr gan gynnwys Gruffudd Glun (chwith) yn ffilmio golygfa ar set y ffatriFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cast Y Streic Fawr gan gynnwys Gruffudd Glun (chwith) yn ffilmio golygfa ar set y ffatri

Gruffudd Glyn yn cyfarfod Gerald Parry

Fe weithiod Gerald Parry yn ffatri Friction Dynamics am 30 mlynedd cyn i'r anghydfod gychwyn.

Gerald oedd cadeirydd cangen yr undeb ac fe greodd ei egwyddorion cadarn gryn argraff ar Gruffudd.

"Wnaethon ni gyfarfod am baned wythnos dwytha' a gaethon ni sgwrs dda," meddai.

"Mae'n amlwg fod Gerald yn undebwr mawr, wedi ei fagu i deulu Llafur mawr.

"Mae'n credu'n gryf mewn hawliau gweithwyr felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dangos yr angerdd sganddo fo at betha sy'n bwysig iddo fo, a pha mar bwysig oedd sefyll i fyny dros ei gyd-weithwyr iddo."

"Dwi hefyd wedi bod yn 'stydio stumiau Gerald a gwrando ar ei lais a'r ffordd mae o'n siarad.

"Dwi'n bod yn ofalus wrth actio Gerald mai deud y stori yn hytrach na chreu dynwarediad ydw i. Dyna fy job i fel actor."

Disgrifiad,

Gwyliwch gyfweliad gyda Gerald Parry yn 2023, ugain mlynedd ers i streic Friction Dynamics ddod i ben

Er y sylw fydd y ddrama'n ei roi i'w safiad ei hun a'i gyd-streicwyr, cofio am gefnogaeth ei gymuned mae Gerald o hyd.

Dywedodd wrth Aled Hughes ar Radio Cymru, mewn sgwrs i nodi 25 mlynedd ers cychwyn y streic:

"Yr unig beth alla i ddeud am y streic ydi y support gafon ni gan bobl leol a thrwy hynny gan y wlad a'r byd i gyd. Ddaeth pobl o bobman i'r picket line i'n supportio ni.

"Dwi'n cofio lori mawr o Covent Garden yn dod yno dau ddiwrnod cyn 'Dolig gyda chig a ffrwytha'.

"Oedd yna gymaint o fwyd fe wnaethon ni rannu nhw allan i gartrefi'r henoed."

Bwyd yn cyrraedd gan weithwyr marchnad o Lundain, Nadolig 2002Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Bwyd yn cyrraedd gan weithwyr marchnad o Lundain, Nadolig 2002

Gobaith Gruffudd yw y bydd y ddrama'n cynrychioli'r gweithwyr a'u teuluoedd ond hefyd yn cyflwyno'r hanes.

Meddai: "Dwi'n gobeithio fydd y ddrama'n addysgu pobl fel fi oedd ddim yn gwybod llawer am y stori tu ôl i'r streic, ond hefyd bod y ddrama'n rhoi arwyddocad ehangach am bobl yn sefyll i fyny dros eu hawliau ac am werth cymuned yn dod at ei gilydd."

Rhai o'r cyn-streicwyr ar set Y Streic FawrFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r cyn-streicwyr ar set Y Streic Fawr

Gwrandewch ar Gerald yn sgwrsio gydag Aled Hughes

BBC Radio Cymru

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig