'Dylanwad anferth': Cofio'r gwneuthurwr clocsiau Trefor Owen

Trefor OwenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwneuthwrwr clocsiau, Trefor Owen, yn caru Cymru - "ei gartref mabwysiedig" - a'i mynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r gwneuthurwr clocsiau Trefor Owen a'i "ddylanwad anferth" ar y traddodiad dawnsio.

Wedi blynyddoedd o weithio yng Nghricieth bu farw yn ddiweddar wedi cyfnod byr o salwch. Roedd yn 74 oed.

Roedd yn ffigwr amlwg yn y byd dawnsio gwerin a chlocsiau ac roedd wedi dysgu ei grefft i eraill sydd bellach yn parhau'r traddodiad.

Dywedodd Simon Brock, sy'n gwneud bywoliaeth o werthu clocisau, ei fod wedi cael llety a gwersi ganddo yng Nghricieth am wythnos gyfan yn gynnar yn ei yrfa - am daliad o botel wisgi.

Dywedodd merch Trefor Owen, Siobhan Owen, bod ei thad yn caru byw yng Nghricieth gyda'i golygfeydd o fynyddoedd Eryri a'i fod "wedi dod o hyd i'w gynefin, ble'r oedd o'n teimlo ei fod yn perthyn a lle'r oedd yn dod o hyd i heddwch".

Trefor OwenFfynhonnell y llun, NTFW
Disgrifiad o’r llun,

Trefor Owen gyda'r cerddor Gwilym Bowen Rhys, a ddysgodd sut i wneud clocsiau ganddo

Daeth un o'r teyrngedau gan y cerddor Gwilym Bowen Rhys wnaeth ddechrau cyfnod o ddwy flynedd o brentisiaeth gyda Trefor Owen yn 2013.

Meddai: "Dyma ddechrau dwy flynedd hyfryd yn ei gwmni yn dysgu ei grefft, ond hefyd yn mwynhau ei ffraethineb a'i sgwrs ddifyr yn y gweithdy bach yng Nghricieth. Roedd o'n ŵr cydwybodol a chadarn ei ddaliadau sosialaidd, ac yn Gymro gwlatgar i'r carn.

"Roedd cyfraniad Trefor yn un anferth i draddodiad dawns Cymru. Dechreuodd Trefor wneud clocsiau ar gyfer glowyr yng ngogledd Lloegr, ond pan gaewyd y pyllau yno, dechreuodd greu clocsiau ar gyfer dawnswyr.

"Roedd o'n rhan annatod o faes Eisteddfod yr Urdd am flynyddoedd maith, yn gwerthu a thrwsio clocsiau'r dawnswyr ifanc."

Trefor Owen gyda dawnsiwr arallFfynhonnell y llun, Wakefield Morris Dancers
Disgrifiad o’r llun,

Trefor Owen (chwith) yn ystod ei gyfnod gyda'r Wakefield Morris Dancers

Fe gafodd Trefor Owen ei eni yn Lerpwl a bu'n byw a gweithio yn Horbury, ger Wakefield. Yno fe sefydlodd gymdeithas ddawnsio'r Wakefield Morris Dancers.

Bu'n Llywydd The Morris Federation rhwng 2004 a 2009 ac mewn teyrnged dywedodd pwyllgor y ffederasiwn: "Bydd y cof amdano yn parhau yn nawnsfeydd y Wakefield Morris".

Ar y cyfryngau cymdeithasol fe ddywedodd y Wakefield Morris Dancers: "Fel dawnsiwr, athro, meistr ar wneud clocsiau, fe wnaeth ei ddylanwad, ymroddiad a safonau uchel iawn ein siapio ni i fod yr hyn ydyn ni heddiw."

Trefor Owen Ffynhonnell y llun, Mike Everett
Disgrifiad o’r llun,

Trefor Owen yng Nghyfarfod Blynyddol Cyffredinol The Morris Federation yn Hastings, pan oedd o'n Llywydd

Dywedodd Gwilym Bowen Rhys bod dylanwad Trefor Owen yn parhau yng Nghymru hefyd.

"Dydi'r traddodiad cynhyrchu clocsiau yng Nghymru ddim yn marw gyda Trefor," meddai.

"Mae'r crefftwr Geraint Parfitt yn dal i gynhyrchu clocsiau yn y dull traddodiadol yn amgueddfa Sain Ffagan, ac mae ambell un fan hyn a fan draw yn eu cynhyrchu ar sgêl bach yn eu amser rhydd.

"O ran cyflenwi'r farchnad ddawns, mae Simon Brock, disgybl arall i Trefor, yn wneuthurwr clocsiau dawns llawn amser. Er ei fod yn byw a gweithio yn Sir Efrog, mae'n ymwelydd cyson gydag Eisteddfod yr Urdd ac felly'n llenwi'r bwlch a adawyd gan Trefor

"Bydd colled Trefor yn enfawr, i'r cannoedd o bobl a gafwyd y pleser o'i adnabod yn bersonol ac yn broffesiynol."

Siop glocsiauFfynhonnell y llun, Simon Brock
Disgrifiad o’r llun,

Yr hen siop glocsiau yng Nghricieth

Fe wnaeth Simon Brock ddod i adnabod Trefor Owen ar ôl gofyn iddo am gyngor ar sut i wneud clocsiau yn ystod Wythnos Werin Whitby yn 2010.

Mae'n dweud iddo gael wythnos o lety a gwersi ganddo yn y gweithdy yng Nghricieth - cyfnod wnaeth newid ei fywyd.

Dywedodd Mr Brock: "Ro'n i'n ddiolchgar ar y pryd ond fwy byth wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.

"Dwi'n dal i ryfeddu at ei haelioni, yn fy ngwahodd i aros yn ei dŷ a finnau'n cymryd dwsinau o oriau o'i amser yn malu gwadnau a lledr a fyddai, heb fy ngwaith gwael i, wedi troi'n glocsiau gorffenedig.

"Yr unig daliad fyddai o'n derbyn oedd potel o wisgi Gwyddelig pan nes i 'raddio' o'r diwedd o Brifysgol Gwneud Clocsiau Cricieth yn 2017, fel roedd ei gyfnod o yno yn dod i ben.

"Ac yn garedig iawn fe wnaeth o basio'r holl ymholiadau newydd ac archebion i fi, fel 'mod i'n gallu cael dechrau da."

Gwaddol yn y miloedd o glocsiau

Mewn teyrnged i'w thad, dywedodd Siobhan Owen wrth Cymru Fyw: "Roedd Dad yn gymaint o gymeriad – yn gryf a charedig, yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn addfwyn, yn angerddol ac yn ofalgar, yn falch o'i orffennol ei hun, ei gysylltiadau Cymreig a hanes a thraddodiadau Cymru - ei gartref mabwysiedig."

Ychwanegodd bod ei waddol yn parhau yn y miloedd o barau o glocsiau a wnaeth i bobl ar draws y byd a'i "gefnogaeth diwyro i genedlaethau iau yn chwifio'r faner dros ddiwylliant a thraddodiadau Cymru ac yn ei bedair wyres, a oedd yn ei adnabod fel Taidi (ein fersiwn personol ni o'r Gymraeg!)".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.