Ateb y Galw: Megan Lloyd

- Cyhoeddwyd
Perfformiwr, 'sgwennwr a hwylusydd ydi Megan Lloyd.
Mae hi'n caru natur ac yn byw yng nghanol mynyddoedd Eryri, wrth droed yr Wyddfa ym mhentref Nant Peris.
Fe enillodd hi gystadleuaeth farddoniaeth lafar yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025 a bydd ei chasgliad cyntaf o gerddi yn cael ei gyhoeddi gan Cyhoeddiadau'r Stamp eleni.
Trwy gydol mis Ebrill, hi ydi Bardd y Mis BBC Radio Cymru.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Dwi ddim yn siŵr a dweud y gwir, ond mae gen i lawer o atgofion cynnar o chwarae allan yn ein hen dŷ yng Nghaeathro fel plentyn, yn coginio potions yn yr ardd, yn adeiladu dens a chwarae cuddio.
Roeddem ni'n byw yn yr hen dŷ capel ar ôl symud o Twthill, Caernarfon. Roedd Caeathro yn bentref clên i fyw ynddo fel plentyn, a'n tŷ ni oedd y tŷ partis. Bob noson tân gwyllt a bob pen-blwydd, roedd pawb yn hel yn Bodawel, ac roedd Mam a Dad yn gwybod sut i gynnal parti, bysa'r tŷ yn llawn o'r pentref.
I ddweud y gwir, os dwi'n rili meddwl am y peth, dwi'n meddwl gwnaeth fy chwaer gyntaf, Katie, cael ei geni a wnes i ennill ymwybyddiaeth ar yr un pryd. Dwi ddim yn cofio llawer o gwbl cyn iddi hi gyrraedd, ac felly, er mai fi yw'r hynaf, dwi byth wedi teimlo fel unig blentyn.
Wnaethom ni adael y tŷ yna ddim yn hir ar ôl i fy chwaer ieuengaf, Ceris, cael ei geni, felly does dim llawer o atgofion gennai yna fel tair. Y bennod nesaf oedd honno.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Paradwys Megan Lloyd - Parc Padarn, Llanberis
Mae yna fwy nag un o'r rhain, hefyd. Mae natur yn rhan anferth yn fy mywyd i, y peth pwysicaf un i mi, efallai.
Un o fy ffefrynnau yw Parc Padarn. Mae'n baradwys i mi, a, gan fy mod i bellach yn byw yn Nyffryn Peris, mae o reit ar fy stepen drws. Pob tymor efo'i gynigion a minnau'n adnabod ei gorneli. Lle mae'r golygfeydd gorau o'r llyn yn yr haf, lle mae'r ffrwythau'n cuddio yn yr hydref, lle mae'r clychau gog ar eu gorau ar hyn o bryd, lle i gysgodi yn y coed yn y gaeaf.
Dwi'n adnabod y lle ac mae'r lle'n adnabod fi, y darn yma o natur wedi fy magu. Ei llwybrau wedi sortio allan beth sydd yn fy mhen sawl gwaith, a dal i wneud yn aml iawn. Llyn Padarn ar ei waelod, yn gwybod fy nghyfrinachau i gyd. Bydd Parc Padarn yn rhan ohonof am byth.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Wel, mae'r cwestiynau 'ma'n gwneud hi'n anodd dewis un. Neu fi sydd yn lwcus efallai, o gael cymaint o nosweithiau gwerth chweil. Miwsig yw fy mhethau i, ac mae yna wledd o gigs i ddewis ohonyn nhw ar draws y blynyddoedd, a mwy nag un yn sefyll allan. Hefyd, sawl noson wych yn Ngŵyl y Dyn Gwyrdd hefo fy nghariad, Ben, a llwyth o ffrindiau.
Ond, dwi'n meddwl bod rhaid dewis noson sydd yn sefyll allan ar ei phen ei hun. Un noson fythgofiadwy. Ac felly, dwi'n meddwl am noson fy mhen blwydd yn 23.
Roeddwn i yn Da Nang, Fietnam efo fy ffrind gorau, Sam, sydd ddim efo ni bellach. Dyna un o'r rhesymau mae hi'n noson mor arbennig i mi, mae'n siŵr, oherwydd na chaf fyth fyw hi eto.
Cawsom ddiwrnod i'w gofio cyn y noson, a gwledd o fwyd lleol oedd wedi cwcio'n araf am oriau.
Roedd y noson ei hun yn un o ganu, dathlu, gwneud ffrindiau, a'r lle cyfan yn canu 'Penblwydd Hapus' yn sypreis i mi, yn y Gymraeg.
Roedd Sam yn casáu penblwydd ei hun, ond yn rili gwybod sut i ddathlu ei ffrindiau. Yr extrovert i fy introvert, y chwerthin i fy hiwmor sych, yn wên pob amser, a dwi'n colli fo bob dydd.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Anturus, teimladwy, penderfynol
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Y ferch ieuenga o Gymru i gyrraedd base camp Everest ar y pryd - Megan Lloyd
Pan oeddwn i'n 13 oed wnes i gerdded i base camp Everest efo fy nhad a fy nhaid - ar y pryd roeddwn i'r ferch ieuengaf o Gymru i wneud hyn erioed.
Roedd o'n brofiad wnâi byth anghofio a dwi'n credu bod o wedi siapio'r person dwi wedi tyfu i fod ers hynny mewn sawl ffordd. Braint hefyd oedd cael y profiad yma fel un o dair cenhedlaeth o fy nheulu.
Diolch, Dad a Taid, am roi'r atgofion yma i mi.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Yr holl anturiaethau dwi wedi cael y pleser o fynd arnynt ar draws y blynyddoedd. Yr holl wledydd dwi wedi cael treulio amser yn byw ynddynt. Pob gwlad dwi wedi crwydro efo fy nghariad. Ac, fel un o dair chwaer, yn enwedig unrhyw anturiaethau dwi wedi cael rhannu efo'r ddwy.
Llynedd cefais drip i Copenhagen gan fy chwiorydd fel anrheg penblwydd yn 30, a dwi'n meddwl yn ôl am y trip yna lot. Roedd o'n braf cael crwydro drwy'r ddinas foodie gorau yn y byd (efallai) efo fy hoff foodies yn y byd. Yn rhyfeddu ar liwiau'r lle, ar yr arogleuon a'r blasau, roedd fy synhwyrau yn fyw yno.
Cawsom fwyta mewn llefydd dwi wedi bod eisiau trio ers amser maith, blasu'r cinnamon bun o'r becws hynaf yn y ddinas, a chwerthin lot efo'r ddwy agosaf ataf. Be' gei di well na hynny? Diolch genod, 'da chi werth y byd i mi.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Rhyw noson yn fy arddegau hwyr, roeddwn i'n aros yng Nghapel Curig ar ôl gweithio mewn digwyddiad yno. Roeddwn i wedi clywed fod yna gig yn digwydd yn y pentref y noson honno, ac wedi penderfynu mynd allan ar ôl swper i chwilio amdano.
Es i mewn i'r Tyn-y-Coed yn gyntaf am fy mod i'n adnabod y perchnogion ar y pryd, a holi.
Doedd dim gig yn fanno a wnaethon nhw awgrymu bod o'n debygol o fod yn hotel Cobdens fyny'r ffordd. Felly fanno es i nesaf.
Wrth gyrraedd roedd hi'n edrych reit brysur, lot o bobl yn smocio tu allan a roeddwn i'n siŵr fy mod i wedi ffeindio'r lle iawn. Wnes i ordro peint wrth y bar a chymryd sêt.
Wrth edrych o gwmpas am wynebau cyfarwydd a meddwl lle oedd pawb o'n i'n disgwyl i fod yno, wnes i sylwi fod pobl wedi gwisgo yn smart, lot o'r dynion mewn siwt. Welais i wedyn fwrdd o luniau yn y gornel, a'r negeseuon 'Er cof am...'
Roeddwn i mewn te angladd rhywun doeddwn i ddim yn adnabod, mewn camgymeriad, yn meddwl fy mod i mewn gig. Erchyll!
Wnes i godi yn syth a cherdded allan heb wybod beth oedd y peth priodol na pharchus i wneud.
Wrth ddreifio yn ôl am le o'n i'n aros, welais i Gaffi Siabod llawn pobl a goleuadau, a welais rywun oeddwn i'n nabod tu allan yn y maes parcio. Roeddwn i wedi ffeindio'r gig o'r diwedd, a wnaeth y stori achosi dipyn o dynnu coes drwy'r nos wedyn.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Yn y dyddiau diwethaf siŵr o fod, dwi'n crio eithaf tipyn.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Megan efo'i ffrind Sam yn 2014 pan oedden nhw'n byw yn Awstralia
Fy ffrind gorau, Sam. Am fy mod i'n ei golli o bob dydd, ac mae 'na gymaint i ddal fyny.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Brathu fy ewinedd!!
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Mae yna ormod o ddewis o lawer i mi fan hyn. Mae'n dibynnu ar y diwrnod, ar fy mŵd, ar lot o bethau. Ond ar y funud, wrth sgwennu hyn, dwi am ddewis EP.
Dyma EP sydd wedi bod yn ffrind ac yn gefn i mi yn y blynyddoedd diwethaf, Look at it in the Light gan Kate Bollinger. Mae o wedi bod yn soundtrack i fy mywyd ers rhyw bedair blynedd, drwy anturiaethau ar ochr arall y byd yn Seland Newydd, drwy golled a galar, drwy ddod i adnabod fy hun yn well.
Cefais y pleser o weld hi yn fyw llynedd efo Ben a'i chwaer, Mali, a wnes i grio bwcedi. Roedd hi'n anhygoel!
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Dwi wedi meddwl a meddwl am hyn, a'r cwbl allai feddwl am yw ffrindiau a natur - y pethau agosaf ataf.
Dwi'n meddwl byswn i'n treulio'r diwrnod cyfan tu allan, dim ots am y tywydd, efo fy nghariad, a byswn i'n gwahodd ein hoff bobl i ddod efo ni ar antur. Bydden ni'n nofio mewn môr neu lyn, yn dringo rhyw fynydd, ac yn gorwedd mewn golygfeydd, tan iddynt ddiflannu.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Dyma fi, fy chwiorydd a Nain. Mae'n bwysig i mi oherwydd maen nhw'n ferched sydd yn fy ysbrydoli bob dydd a byswn i ddim y person ydw i heb rain yn fy mywyd.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Byswn i'n hoffi bod yn gath am ddiwrnod. Byswn i'n un o'r rhai sy'n mynd o dŷ i dŷ yn cael fy mwydo, yn gwybod pwy sydd gan trîts da ac yn rhoi'r mwythau gorau.
Byswn i'n crwydro'r darnau o'r dyffryn 'di pobl methu cyrraedd, a bysa'n eithaf hwyl cael naw bywyd hefyd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021
