'Sicrhau dyfodol' un o wneuthurwyr clocsiau olaf Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Gwilym Rhys hefyd yn aelod o'r grŵp Plu
Mae gwneud clocsiau Cymreig yn grefft sydd wedi parhau am ganrifoedd. Ond roedd yna bryder y gallai'r traddodiad farw wrth i un o'r gwneuthurwyr llawn amser olaf yng Nghymru ystyried ymddeol.
Ers iddo droi yn 60, mae Trefor Owen o Griccieth wedi bod yn ystyried ymddeol er mwyn treulio mwy o amser gyda'i wraig, Rhiannon.
Y pryder oedd na fyddai'r gwaith yn parhau, gan nad oedd unrhyw un i gymryd yr awenau.
Ond, yn dilyn galwad annisgwyl o swyddfa frenhinol, mae gobaith i'r dyfodol unwaith eto.
Crefft

Roedd pryder na fyddai unrhyw un yn parhau gyda chrefft Trefor Owen
Daeth yr alwad o Swyddfa'r Tywysog Charles, oedd wedi clywed am sefyllfa Trefor ar y radio, ac oedd am dalu am brentis.
Dywedodd Rhiannon Owen: "Roedd o'n anodd i gredu bod 'na alwad o rywun fel Prince Charles, felly mae'n cymryd dipyn o amser i ddod dros y peth.
"Heb y pres, fydd na ddim dyfodol i'r grefft 'swn i'n deud."
Mae swyddfa'r tywysog wedi cadarnhau ei fod am wneud cyfraniad fydd yn sicrhau dyfodol y traddodiad.
'Cyfraniad i ddiwylliant Cymru'
Ers mis Ebrill, Gwilym Bowen Rhys sydd wedi bod yn mynd i'r gweithdy bob dydd i ddysgu'r grefft.
Mae ei ddiddordeb mewn traddodiadau gwerin yn amlwg fel aelod o grŵp Plu, ond mae'n dweud bod dysgu i wneud clocsiau yn her gwbl wahanol.
"Mae bron iawn pob agwedd o'r gwneuthuriad yn grefft yn ei hun 'swn i'n ddeud," meddai.
"Mae o i gyd i 'neud hefo teimlad, a dy lygaid, 'da ni'm yn mesur a does na'm lot o wyddoniaeth yno fo o gwbl... Mae o'n grefft."
Gobaith Gwilym yw y bydd yn gallu sicrhau dyfodol y grefft yng Nghymru.
"Dwi'n eitha' sicr y bydd 'na alw am glocsian felly cyn belled a bod 'na alw am glocsiau bydd na alw am rywun i'w gwneud nhw.
"Rownd y byd yn sicr 'da ni'n cael ordors o rownd y byd i gyd, ond dwi'n gweld hwn fatha cyfraniad bach fi i ddiwylliant Cymru, dyna di'r pwyslais."