Crynodeb

  • Mae arweinwyr chwe phrif blaid wleidyddol Cymru yn wynebu'i gilydd mewn dadl arbennig gan y BBC cyn etholiad Senedd Cymru.

  • Yn cymryd rhan mae Darren Millar, y Ceidwadwyr Cymreig; Anthony Slaughter, Plaid Werdd Cymru; Eluned Morgan, Llafur Cymru; Jane Dodds, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig; Rhun ap Iorwerth, Plaid Cymru; a Dan Thomas, Reform UK Cymru.

  • Bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn mynd i'r gorsafoedd pleidleisio ar 7 Mai.

  1. 'Angen consensws i sefydlogi prifysgolion'wedi ei gyhoeddi 21:29 GMT+1

    Yn ôl Rhun ap Iorwerth mae prifysgolion yn wynebu "twll du" gwerth £100m y mae angen mynd i'r afael ag ef.

    Dywedodd ei fod eisiau cymell myfyrwyr i aros yng Nghymru.

    "Mae angen consensws arnom ynghylch sut rydym yn sicrhau bod ein prifysgolion ein hunain yn sefydlog," meddai.

    Mae Darren Millar yn dweud nad yw'r system addysg "yn gweithio'n iawn" - mae'n dweud bod angen "economi lewyrchus" i ysgogi myfyrwyr i aros.

    "Mae llywodraeth Lafur wedi methu'n llwyr yn hyn o beth", meddai - rhywbeth y mae Eluned Morgan yn ei wrthod wedyn.

  2. BBC Verify

    Oes 1,400 o bobl yn ysbytai Cymru heb fod angen?wedi ei gyhoeddi 21:27 GMT+1

    Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds yn gynharach fod ei phlaid eisiau cael “1,400 o bobl allan o’r ysbyty sydd yno ar hyn o bryd ac na ddylent fod yno”.

    Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, roedd 1,351 o bobl mewn ysbytai Cymru na allen nhw adael oherwydd nad oedd gofal, cefnogaeth na llety addas ar gael iddyn nhw eto.

    Ond, cip ar ddiwrnod ym mis Mawrth yw'r ffigwr, felly nid yw'n dangos cyfanswm nifer yr oediadau dros y mis cyfan.

    Roedd ffigwr mis Mawrth yn is na ffigwr mis Chwefror, ond cynyddodd nifer y dyddiau y bu pobl yn sownd yn yr ysbyty ychydig.

    Ym mis Chwefror, cyfanswm y dyddiau oedd 60,601 - 42 y pen, o'i gymharu â 57,512 - neu 42.6 y pen - ym mis Mawrth.

  3. Denu pobl ifanc yn ôl i Gymruwedi ei gyhoeddi 21:24 GMT+1

    Dywed Jane Dodds fod angen "strategaeth ddiwydiannol Gymreig sydd wir yn edrych ar sut y gallwn ni fuddsoddi yng Nghymru".

    Mae ffioedd dysgu wedi bod yn bwnc anodd i'w phlaid yn y gorffennol. Dywed Dodds fod angen iddyn nhw sicrhau bod lefel y taliadau'n codi "llawer, llawer ymhellach".

    Mae Eluned Morgan yn gwadu methu pobl ifanc ac yn honni bod 100,000 o brentisiaethau wedi'u creu gan Lywodraeth Cymru.

    Sut fyddai hi'n dod â myfyrwyr yn ôl?

    "Swyddi," meddai hi. Mae hi'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal uwchgynhadledd fuddsoddi, a rhybuddiodd na fydden nhw'n dod i'r wlad pe bai gan Plaid Cymru "un droed yn anelu at yr allanfa", sef annibyniaeth.

  4. Yw'r pleidiau'n uno'n erbyn Reform?wedi ei gyhoeddi 21:22 GMT+1

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Maen nhw'n uno yn erbyn Reform UK ac - i raddau llai, y Ceidwadwyr - ynghylch mewnfudo.

    Ond nid dim ond ceisio cipio pleidleisiau oddi ar Reform UK y mae pleidiau'r chwith - maen nhw'n ceisio cipio pleidleisiau oddi ar ei gilydd hefyd.

    Thema fawr yr ymgyrch hon yw pa un ohonyn nhw sydd yn y sefyllfa orau i wrthwynebu Reform UK.

    Mae arweinwyr Plaid Cymru, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion i gyd yn ceisio hawlio'r lle hwnnw.

  5. Beth yw bwriad y pleidiau i wella cyflogaeth pobl ifanc?wedi ei gyhoeddi 21:19 GMT+1

    Huw Thomas
    Gohebydd Busnes BBC Cymru

    Yn ôl CBI Cymru, mae cyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru tua 54%, gan eithrio myfyrwyr.

    Dylai’r ystadegyn hwnnw, meddai'r grŵp yn eu maniffesto busnes, danio'r clychau larwm i wleidyddion wrth i brinder sgiliau gynyddu ac i rai pobl ifanc barhau’n ansicr am eu dyfodol.

    Mae’r holl brif bleidiau’n cytuno bod prentisiaethau’n ganolog i wella cyfleoedd, ond maen nhw'n anghytuno ynghylch sut i wneud hynny.

    Bydd pleidleiswyr iau’n gweld bod y prif wahaniaethau rhwng y pleidiau gwleidyddol yn canolbwyntio ar ragor o leoedd prentisiaeth, mwy o addasu yn ôl gofynion yr economi, a newid y mathau o swyddi y mae Cymru’n hyfforddi ar eu cyfer.

  6. Pobl ifanc – eu cadw a'u denu'n ôl i Gymruwedi ei gyhoeddi 21:16 GMT+1

    Mae Eva Julien yn fyfyrwraig chweched dosbarth o Gaerdydd ac mae ei chwestiwn hi ynglŷn â gwneud Cymru'n lle mwy deniadol i ieuenctid y wlad.

    Gyda phobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yn gymwys i bleidleisio y tro hwn, a fydd atebion y pleidiau i bedwerydd cwestiwn y noson yn llwyddo i ennill eu pleidlais?

    Cwestiwn 4: Sut fydd eich plaid yn gwneud Cymru yn lle gwell i bobl ifanc a’u denu’n ôl os ydynt yn gadael i fynd i brifysgol?
  7. Thomas heb gondemnio sylw 'Welsh lad?'wedi ei gyhoeddi 21:15 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Arron Banks, aelod blaenllaw o Reform UK o hiliaeth ac o gwestiynu Cymreictod un o ymgyrchwyr du y blaid, mewn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Fe ysgrifennodd Arron Banks: "Welsh lad?" ar wefan X, mewn ymateb i fideo gan Blaid Cymru oedd wedi ei gyflwyno gan drefnydd cymunedol du o ardal Tre-biwt yng Nghaerdydd.

    Mynnodd wrth BBC Cymru mai jôc oedd y sylw. Heno fe gafodd Dan Thomas arweinydd Reform yng Nghymru sawl cyfle i gondemnio’r sylw, ond wnaeth o ddim.

  8. Pwyso a mesur mewnfudowedi ei gyhoeddi 21:13 GMT+1

    Mae Darren Millar yn dweud y byddai'n "anghyfrifol" i unrhyw wleidydd anwybyddu mewnfudo.

    "Mae'r cynllun Cenedl Noddfa yn gwario arian ar fewnfudwyr waeth sut maen nhw'n cyrraedd yma yng Nghymru," meddai.

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod "goddefgarwch yn rhywbeth y dylai pob un ohonom fod eisiau ei gofleidio bob dydd".

    "Byddwn yn sefyll dros yr etifeddieth falch sydd gan Gymru fel cenedl sy'n croesawu'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth," meddai.

    Dywed Morgan fod angen mynd i'r afael â'r "realiti" nid y "myth". "Mae nifer y ceiswyr lloches yng Nghymru yn anhygoel o isel," meddai hi.

    Dywedodd Slaughter iddo dyfu i fyny yn Ne Affrica yn ystod cyfnod apartheid, ac mae'n fframio'r ddadl mewnfudo fel un "hiliol".

    "Rwy'n gwybod ble mae'r rhethreg hiliol hon yn dod i ben," meddai. "Mae angen i ni gofio bod gan eiriau effaith."

  9. 'Onid allwn ni i gyd fyw gyda'n gilydd?'wedi ei gyhoeddi 21:11 GMT+1

    Mae aelod o'r gynulleidfa wedi erfyn yn angerddol wrth siarad am yr amrywiaeth sy'n bodoli o fewn ei theulu.

    Dywedodd ei bod hi'n chwarter Gwyddeles, ei gŵr yn hanner Sais a bod ganddi ddwy ferch-yng-nghyfraith o Sbaen ac Albania.

    "Rydym ni i gyd yn fewnfudwyr," meddai hi i gymeradwyaeth y gynulleidfa.

    "Onid allwn ni i gyd fyw gyda'n gilydd?"

    Menyw â gwallt llwyd
  10. BBC Verify

    A yw Cymru'n gwario arian ar blannu coed yn Uganda?wedi ei gyhoeddi 21:10 GMT+1

    Cafodd arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar, ei herio gan arweinydd y Blaid Werdd, Anthony Slaughter, i esbonio sut y byddai'n torri trethi ac nid gwasanaethau.

    Yn ei ateb, dywedodd: “Byddwn yn cau’r llysgenadaethau bach hynny dramor na ddylai Llywodraeth Cymru hyd yn oed fod yn eu hagor… byddwn yn sicrhau nad ydym yn gwario arian yn plannu coed yn Uganda na chanŵod solar yn yr Amazon.”

    Mae gan Lywodraeth Cymru 20 o swyddfeydd tramor mewn 11 gwlad (Gwlad Belg, Canada, Tsieina, Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, India, Japan, Qatar, yr Emiraethau Arabaidd Unedig a'r Unol Daleithiau) lle'r oedd yn cyflogi 43 o staff ym mis Ionawr 2025, ar gost o tua £4.7 miliwn y flwyddyn, yn ôl adroddiad diweddar gan bwyllgor yn y Senedd.

    Mae Millar wedi galw o'r blaen ar Lywodraeth Cymru i gau'r "llysgenadaethau bach" hynny oherwydd bod gweinidogion y DU yn gyfrifol am bolisi tramor a chysylltiadau rhyngwladol. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y swyddfeydd yn "cysylltu Cymru â'r byd", yn denu masnach a buddsoddiad ac yn cefnogi busnesau Cymru.

    Mae ail ran yr honiad yn cyfeirio at ddau brosiect a dderbyniodd gyllid gan Lywodraeth Cymru.

    Y cyntaf oedd £55,000 ar gyfer adeiladu cwch sy'n cael ei bweru gan yr haul ar gyfer y Wampís, cymuned o tua 15,000 sy'n frodorol i Amazon Periw. Dywedodd Llywodraeth Cymru yn 2024 fod y cyllid i gefnogi "nod y Wampís o drawsnewid i ynni adnewyddadwy 100%".

    Yr ail oedd cynllun plannu coed yn Uganda dros 15 mlynedd ar gost o £270,000 y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod y prosiect yn helpu'r "gymuned i wella arferion amaethyddol ac yn cefnogi swyddi i fenywod".

    Er nad oes unrhyw fudd uniongyrchol i economi Cymru, mae'r llywodraeth yn dweud bod y prosiect yn "helpu i liniaru newid hinsawdd i bawb".

    Dywed David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS) fod y prosiectau hyn a phrosiectau eraill Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi mentrau hinsawdd ledled y byd yn cyfateb i £1m y flwyddyn ac yn cynrychioli 0.004% o gyllideb Llywodraeth Cymru.

  11. 'Gwrando ar fwyafrif Cymru' ynghylch mewnfudowedi ei gyhoeddi 21:05 GMT+1

    Dywedodd Dan Thomas nad yw "gwrando ar y rhan fwyaf o bobl Cymru yn gêm beryglus".

    Mae'n cyhuddo pleidiau eraill o golli cefnogaeth oherwydd nad ydyn nhw'n gwrando, ac yn honni bod 49% o bobl Cymru eisiau cael gwared ar bolisi Cenedl Noddfa.

    Cafodd ei herio ar ddyfyniad blaenorol o'i gyfnod fel arweinydd Cyngor Barnet, a bod gan y fwrdeistref honno yn Llundain "hanes balch o ddarparu lloches i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth".

    "Roedd hynny cyn i'r llifddorau gael eu hagor," meddai.

    "Roedd y ffaith i mi groesawu hynny yn dangos nad ydym yn hiliol."

  12. Mewnfudo 'wedi tanio'r ddadl'wedi ei gyhoeddi 21:04 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Er nad yw mewnfudo yn fater sydd wedi'i ddatganoli, mae wedi bod yn bwnc llosg yn yr etholiad yma, ac yn sicr wedi tanio'r ddadl yma heno.

    Mae Reform a'r Ceidwadwyr, sydd am weld mwy o reolaeth ar fewnfudo, yn dadlau na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwario arian y polisi cenedl noddfa.

    Polisi yw hwn sy'n anelu i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi'u lleoli yng Nghymru i integreiddio a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ac sy'n bennaf sydd wedi elwa pobl o Wcráin.

    Mae Plaid Cymru, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd yn cefnogi'r polisi, a heno wedi dadlau bod angen bod yn fwy goddefgar.

  13. Mae Cymru yn 'genedl groesawgar'wedi ei gyhoeddi 21:00 GMT+1

    Dywed Anthony Slaughter y dylai Cymru fod yn "falch iawn" o fod yn genedl noddfa.

    "Swm bach, bach o arian ydyw" i ariannu'r cynllun, meddai. "Mae Cymru yn genedl groesawgar, rydyn ni'n bobl groesawgar."

    Nid yw mewnfudo wedi'i ddatganoli - ond mae cenedl noddfa yn bolisi llywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai sy'n dod i Gymru.

    Dywed Jane Dodds: "Rydym am sicrhau bod gan bobl sy'n ffoi o ddiogelwch le diogel a chroesawgar i ddod iddo."

    Mae hi'n dweud bod 91% o'r arian a gafodd ei wario o dan faner cenedl noddfa wedi mynd i gefnogi ffoaduriaid Wcráin.

  14. Beth yw Cenedl Noddfa?wedi ei gyhoeddi 20:58 GMT+1

    Cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer sut mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cefnogi yng Nghymru yw'r Cynllun Cenedl Noddfa. Cafodd ei gyhoeddi yn 2019.

    Ei nod yw sicrhau bod Cymru yn lle diogel a chefnogol i geiswyr lloches a ffoaduriaid o'r funud maen nhw'n cyrraedd, a'u helpu i ddod yn rhan o gymdeithas Gymreig.

    Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar helpu'r bobl sy'n ffoi rhag erledigaeth (persecution) i feithrin bywyd iddyn nhw eu hunain yng Nghymru a chynnig mynediad at addysg, tai a gofal iechyd.

  15. Cenedl Noddfa – fforddiadwy?wedi ei gyhoeddi 20:57 GMT+1

    Mae Myles Wellington yn rheolwr gofal iechyd o Gaerdydd, ac ef sy'n rhoi'r trydydd cwestiwn ger bron yr arweinwyr heno.

    Cwestiwn 3: Mae ysgolion, ysbytai a thai cymdeithasol eisoes dan bwysau parhaol. Ydy Cymru wir yn gallu fforddio bod yn Genedl Noddfa?
  16. Holi Eluned Morgan am y berthynas â San Steffanwedi ei gyhoeddi 20:56 GMT+1

    Oscar Edwards
    BBC Cymru

    Mae rhai aelodau o'r gynulleidfa'n chwerthin wrth i Eluned Morgan gael ei holi am ymdrechion Syr Keir Starmer i fynd i'r afael ag argyfwng costau byw.

    Mae hi'n dweud bod polisïau fel codi'r isafswm cyflog, helpu pensiynwyr i "gael gwell bargen" a darparu cefnogaeth ynni yn dangos fod y Prif Weinidog wedi bod yn dda i bobl Cymru.

    Mae'r cyflwynydd Bethan Rhys Roberts yn gofyn a yw'r bartneriaeth rhwng llywodraeth San Steffan a Llafur Cymru wedi bod mor ffrwythlon ag yr oedd hi'n ei ddisgwyl.

    "Mae yna bethau y mae o wedi dod i Gymru na fyddem ni wedi'u cael o dan y Ceidwadwyr," mae hi'n ymateb.

    Eluned Morgan
  17. Llafur wedi gollwng targedau tlodi plantwedi ei gyhoeddi 20:53 GMT+1

    Roedd llywodraeth Llafur Cymru wedi gollwng ei thargedau ar dlodi plant.

    Ai rhoi'r gorau iddi wnaeth y llywodraeth? Dywedodd Eluned Morgan mai'r rheswm oedd "nad oedd rhai o'r dulliau gweithredu o fewn eu cyrraedd".

    Mae'n ymddangos ei bod hi'n beio'n rhannol y cap dau blentyn ar fudd-dal a gafodd ei gyflwyno gan lywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU, ac a barhaodd nes iddo gael ei ddiddymu'n ddiweddar gan lywodraeth Lafur Syr Keir Starmer.

  18. 'Does yr un blaid eisiau trafod eu costau'wedi ei gyhoeddi 20:52 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r drafodaeth ynglŷn â chostau yn ddiddorol iawn, achos y gwirionedd yw nad oes yna'r un blaid eisiau trafod eu costau.

    Mae yna lot o wariant ym mhob un o'r maniffestos, ond beth sydd ddim yn glir gan unrhyw un yw ohonyn nhw yw ble yn union y daw'r arian yma.

    Maen nhw'n gwerthu gobaith i etholwyr ond y gwirionedd yw fydd yna ddim arian mawr yn llifo i goffrau Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd nesaf.

    Felly os yw unrhyw un o'r pleidiau yma eisiau gwario mwy mewn un maes penodol - boed hynny yn ofal plant, y gwasanaeth iechyd neu dorri trethi - yna mae'n anochel y bydd angen torri mewn maes arall.

    A does neb yn bod yn hollol onest ynglŷn â ble yn union y bydden nhw'n cyfaddawdu.

  19. 'Bydd annibyniaeth yn drychineb'wedi ei gyhoeddi 20:47 GMT+1

    Dywed Darren Millar y byddai torri trethi yn helpu Cymru i ddod yn "genedl fwy llewyrchus".

    "Bydd annibyniaeth yn drychineb i'n cyllid cyhoeddus," meddai.

    "Dydw i ddim yn barod i roi'r baich yna ar bobl ar adeg fel hon."

  20. Yr etholiad yma 'ddim am annibyniaeth'wedi ei gyhoeddi 20:47 GMT+1

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth nad yw'r etholiad hwn "ynghylch annibyniaeth".

    "Mae'n ymwneud ag iechyd, ac addysg a chreu swyddi," meddai.

    Pan ofynnwyd iddo am ei gynlluniau ar annibyniaeth yn y dyfodol, ni atebodd, gan ddweud mai "mater i'r bobl yma yn y gynulleidfa yw hynny".

    Mae Slaughter yn dweud mai annibyniaeth yw'r dyfodol gorau i Gymru, "ond dydyn ni ddim yno eto".

    Arweinwyr y pleidiau yn y ddadl