Arwel 'Bocs' Hughes: 'Torri calon' gorfod gwerthu cwmni goleuo a sain

- Cyhoeddwyd
Ar ôl chwarter canrif mae un o enwau mwyaf cyfarwydd yn y maes goleuo a sain yn y byd adloniant Cymreig am werthu'r busnes.
Dros y blynyddoedd mae MAD, cwmni Arwel 'Bocs' Hughes, wedi bod yn gyfrifol am oleuo a sicrhau systemau sain i ddigwyddiadau ac achlysuron o bwys ar hyd a lled y gogledd.

Mae MAD wedi bod yn gyfrifol am sain a goleuo ar gyfer llu o ddigwyddiadau ar hyd y blynyddoedd
Dywedodd Arwel, sy'n 53, fod y penderfyniad yn 'torri ei galon' ond fod y gwaith o gynnal MAD ynghyd â busnes trefnu angladdau ar ben bod yn dad i deulu ifanc yn ormod o faich.
Dywedodd wrth Cymru Fyw fod nifer yn ei gofio oherwydd ei yrfa hir gyda MAD yn y busnes adloniant, a'r ffaith ei fod cyn hynny wedi bod yn DJ yng nghlwb nos Octagon ym Mangor.

Arwel Hughes: "Dwi'n torri fy nghalon yn gwneud hyn... ond mae'n rhaid."
"Y gwir ydi mod i wedi bod wrthi hyd yn oed yn hirach. Cyn yr Octagon o'n i'n mynd o gwmpas fel mobile DJ.
" I fod yn onest, mae o yn fy ngwaed i, o'n i wedi bod wrthi ers yn 13-14 oed.
"Ond, dwi'n rhedeg busnes trefnu angladdau, a ma' hwnna'n hynod o brysur ac mae'n rhaid i mi fod 'on the ball' gyda busnes fel yma.
"Mae MAD wedi golygu oriau hir ac mae'n amhosib cynnal y ddau," meddai

Mae'r cwmni yn enw cyfarwydd ir rhai sy'n mynychu cyngherddau a digwyddiadau mawr a bach yn y gogledd
Cafodd MAD y sefydlu yn 2000 a gobaith Arwel nawr yw gwerthu'r busnes yn gyflawn.
"Roedd fy nhad yn rhedeg y busnes angladdau ac yn saer coed yr un pryd. Es i weithio efo'n nhad ac oedd roedd o'n gefnogol iawn i mi fel DJ.
"Yna, pan fu o farw , o'n i'n 30 ac am gario mlaen gyda'r busnes angladdau a'r DJio ond rhoi'r gorau i'r ochr saer coed.
"Mae'r busnes angladdau wedi tyfu, 'di treblu os unrhyw beth a 'dw i hefyd am roi mwy o amser i'r plant, John a Nel, wrth iddyn nhw dyfu."

Arwel Hughes: 'Mae'n deimlad rhyfedd gweld yr arwydd i fyny'
Ar lwyfannau a chyngherddau fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Môn, Sesiwn Fawr Dolgellau, Wà Bala a digwyddiadau awyr agored - roedd Arwel yn gweld MAD yn cydweithio a chefnogi artistiaid lu o'r byd cerddorol Cymraeg a thu hwnt.
"'Mae yna ormod [o artistiaid] i'w henwi ond naethon ni lot o waith gyda Bryn Fôn, Candelas, 9Bach, yr rhan fwyaf o'r bandiau Cymraeg a hyd yn oed Boy George a Boney M!"

Dywedodd Arwel fod cynorthwyo artistiaid ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn bleser ond fod yr oriau yn gallu bod yn hir.
Dywedodd ei fod yn gwerthu cwmni pan oedd o mewn safle cryf, gyda'r gobaith ei fod 'yn parhau i lwyddo a diddanu cynulleidfaoedd a bod yn gefn i artistiaid.'
"Ma' 'di bod yn waith caled dros y blynyddoedd ond yn dod a llawer o bleser, a dwi'n gwybod bod ni wedi rhoi gwaith ac hyfforddi pobl a thechnegwyr ifanc. Dwi'n ei adael mewn safle cryf iawn," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Ebrill

- Cyhoeddwyd12 Ebrill
