Cerddor sy'n creu clocsiau ar restr fer gwobr prentisiaid
- Cyhoeddwyd

Mae cerddor o Wynedd ar restr fer gwobr i brentisiaid am ei waith wrth geisio sicrhau dyfodol yr hen grefft o greu clocsiau.
Mae Gwilym Bowen Rhys, o Fethel ger Caernarfon, wedi cwblhau prentisiaeth gyda'r gwneuthurwr clocsiau o Griccieth, Trefor Owen.
Doedd ganddo ddim profiad yn y maes cyn dechrau'r brentisiaeth, er bod ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth boblogaidd a thraddodiadol Gymraeg. Fo hefyd yw prif leisydd grŵp Y Bandana.
Dywedodd: "Roedd y brentisiaeth yn gam naturiol o gerddoriaeth draddodiadol Gymraeg i mi.
"Pan nes i ddysgu fod yr unig wneuthurwr clocsiau llawn amser yn byw ar stepen fy nrws, roeddwn i am sicrhau fod sgiliau gwneud clocsiau nid yn unig yn parhau, ond yn cael eu trosglwyddo i genhedlaethau'r dyfodol."
Mae Gwilym Bowen Rhys wedi ei enwebu ar gyfer rhestr fer Prentisiaeth Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru, sy'n cael eu cynnal yn Llandudno ar 20 Hydref.

Gwilym Bowen Rhys a Trefor Owen
Gwobrau
Mae'r gwobrau, sy'n cael eu cynnal ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yn dathlu llwyddiant unigolion, cyflogwyr a chyrff sy'n cynnig profiadau dysgu i brentisiaid.
Mae Trefor Owen wedi bod yn cynhyrchu clocsiau ers 39 o flynyddoedd, ac mae wedi dysgu'r technegau traddodiadol i Gwilym Bowen Rhys, gan gynnwys defnyddio cynnyrch lleol fel coed pren sydd wedi ei dyfu yn yr ardal.
Dywedodd Mr Owen: "Mae wedi bod yn hwyl gweithio gyda Gwilym ar y brentisiaeth. Mae'n fachgen galluog gyda gallu fel spwng i lyncu gwybodaeth."
Mae 32 o enwau ar y rhestr fer i gyd. Dywedodd Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru Julie James: "Rydym yn falch i fod yn cynnal un o'r rhagleni prentisiaeth fwyaf llwyddiannus yn Ewrop gyda chyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn bell dros 80%.
"Mae hyfforddi pobl gyda sgiliau'n hanfodol i'n heconomi. Mae ganddo ni brentisiaid gwirioneddol alluog yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaeth Cymru yn cynnig llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a'u llwyddiant."