'Profiad emosiynol' dysgu am artist sydd wedi cael ei hanghofio

Lisa Eurgain TaylorFfynhonnell y llun, Lisa Eurgain Taylor
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Sut beth fasai dod o hyd i fersiwn hanesyddol o dy hun? Rhywun sy'n debyg i ti mewn nifer o ffyrdd, ond oedd yn byw flynyddoedd cyn i ti gael dy eni hyd yn oed?

Dyna ddigwyddodd i'r artist Lisa Eurgain Taylor, pan y clywodd am yr artist Margaret Lindsay Williams am y tro cyntaf.

Mae'r rhaglen BBC Radio Cymru, Ei Hanes Hi, yn olrhain stori rhai o ferched amryddawn Cymru mewn hanes, ac yn eu paru â merch debyg heddiw.

Margaret Lindsay WilliamsFfynhonnell y llun, National Portrait Gallery
Disgrifiad o’r llun,

Margaret Lindsay Williams

Cafodd Lisa ddysgu am Margaret Lindsey Williams, artist o'r Barri oedd yn gweithio yn hanner cynta'r 20fed ganrif ac a baentiodd bortreadau o'r teulu brenhinol ac Arlywydd UDA, ond sydd bellach wedi cael ei hanghofio.

"O'n i'n mynd i fewn yn ddall," eglurodd Lisa, "ac roedd Elin (Tomos, y cyflwynydd) yn datgelu mwy wrth i'r stori fynd 'mlaen.

"O'dd o mor ddiddorol achos do'n i erioed wedi clywed am Margaret, ac o'n i wedi cael fy llorio gan ei gwaith hi, ei bywyd hi. Roedd hi wedi cael gyrfa mor llwyddiannus, ac wedi cael y cydnabyddiaeth 'ma tra roedd hi'n fyw, yn enwedig pan oedd hi'n artist ifanc.

"Ond o'n i'n teimlo bechod mawr ei bod hi ddim wedi cael ei chofio fel y dylsa hi heddiw.

"O'dd o'n brofiad cŵl, trafod bywyd a gwaith Margaret, a chael dysgu am ei gyrfa hollol anhygoel hi, a sylwi bod 'na 'chydig o gysylltiadau rhyngthi hi a finnau."

Paentiad o'r WyddfaFfynhonnell y llun, Lisa Eurgain Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Eira'r Wyddfa - tirluniau ydy arbenigedd Lisa

Angerdd dwy tuag at baentio

Yn wir, mae Lisa a Margaret yn debyg mewn sawl ffordd, ond gyda Margaret yn rwbio ysgwyddau gyda rhai o enwau mawr y cyfnod - gan gael ei dewis i baentio portreadau o Brenhines Elizabeth II, Arlywydd William G Harding, y perchennog cwmni ceir Henry Ford, a mwy - mae Lisa yn cydnabod fod Margaret wedi cael bywyd "lot mwy flash" na hi!

"O'dd hi'n hongian allan efo'r A Listers 'ma i gyd, a'r profiadau anhygoel roedd hi'n eu cael, yn cael mynd i ffwrdd i baentio a ballu.

Brenhines Elizabeth IIFfynhonnell y llun, Manchester Town Hall
Disgrifiad o’r llun,

Portread Margaret o'r Frenhines Elizabeth yn 1953 - un o bum darlun a baentiodd ohoni dros y blynyddoedd

"Ond o'dd o yn rili cŵl, cael gweld y cysylltiadau, fel mynd i'r coleg, wedi tyfu fyny yng Nghymru, lot o gariad tuag at baentio.

"O'n i hefyd yn gweld lot sut oedd hi isho blaenoriaethu ei gyrfa dros bob dim, a fedra i uniaethu efo hynny hefyd – bod gen ti'r passion mwya', bo' ti isho paentio. Celf ydy fy nghariad cynta', ac i Margaret mae'n siŵr achos dwi'm yn meddwl ei bod hi erioed wedi priodi.

"O'n i'n teimlo mod i wedi dod i'w 'nabod hi, ac yn ein gweld ni reit debyg fel'na."

Margaret a Lisa

Margaret gyda'i phortread o Arlywydd William G HardingFfynhonnell y llun, Library of Congress
Disgrifiad o’r llun,

Margaret gyda'i phortread o Arlywydd William G Harding

Margaret Lindsay Williams

Dyddiad geni: 18 Mehefin 1888

Man geni:Caerdydd ond wedi ei magu yn Y Barri

Arbenigedd: Portreadau – gan gynnwys aelodau o'r teulu brenhinol, gwleidyddion ac enwogion y cyfnod

Dyddiau cynnar: Cael y cyfle i arlunio gyntaf yn 12 oed mewn ffair yn yr eglwys leol, a chael cefnogaeth gan ei rhieni

Addysg: Symud i Lundain yn 18 oed ac astudio celf yn yr Academi Frenhinol

Athro dylanwadol: John Singer Sargent

Llwyddiannau: Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Technegol Caerdydd yn 1902. Yn 1911, enillodd fedal aur yr Academi Frenhinol – yr artist ieuengaf erioed ar y pryd, a'r cyntaf o Gymru. Cafodd ei harddangosfa unigol gyntaf yn 1914 yng Nghaerdydd.

Ffaith ddiddorol: Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gofynnodd i'r Gweinidog Rhyfel, David Lloyd George, os y câi ei phenodi yn artist rhyfel er mwyn mynd i Ffrainc i baentio'r hyn oedd yn digwydd yn y ffosydd. Cafodd ei chais ei wrthod.

Mae Lisa yn gwneud tirluniau o fynyddoedd Eryri mewn lliwiau trawiadolFfynhonnell y llun, Lisa Eurgain Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa yn gwneud tirluniau o fynyddoedd Eryri mewn lliwiau trawiadol

Lisa Eurgain Taylor

Dyddiad geni: 23 Hydref 1990

Man geni: Bangor ond wedi ei magu yn Rhosmeirch, Ynys Môn

Arbenigedd: Tirluniau haniaethol wedi eu hysbrydoli gan fynyddoedd Eryri

Dyddiau cynnar: Gwneud lluniau ar fwrdd y gegin yn ifanc a chael ei hannog gan ei rhieni, ond wedi magu hyder ar y Cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai yn 18 oed

Addysg: Symud i Lundain yn 19 oed i astudio yng Ngholeg Celf Wimbledon

Athro dylanwadol: Iwan Gwyn Parry

Llwyddiannau: Ennill y cyfle i gael arddangosfa unigol am y tro cyntaf yn 2013 yn Bocs yng Nghaernarfon, ac ennill gwobr Dewis y Bobl gan gwmni cyfreithwyr Clyde & Co yn eu swyddfeydd yn Llundain yr un flwyddyn. Mae'n ystyried ei harddangosfa unigol yn Oriel Môn yn 2020 yn un o'i huchafbwyntiau.

Ffaith ddiddorol: Y paentiad wnaeth Lisa o Trystan Ellis-Morris ar gyfer y gyfres Cymry ar Gynfas oedd y portread cyntaf iddi ei wneud ers rhyw 10 mlynedd. "O'n i'n sâl o nerfus achos o'n i isho iddo fo licio fo," meddai. "Profiad anhygoel."

'Margaret druan'

Ar un adeg, roedd Margaret yn un o sêr mawr y byd celf, gyda'i gwaith yn crogi ar waliau orielau, portffolio o ryw 150 o bortreadau a chomisiynau lu. Ond dydy hi bellach ddim yn enw cyfarwydd, er gwaethaf ei holl lwyddiannau.

Ddechrau'r ganrif ddiwethaf, hobi dydd Sul oedd paentio i ferched, dim gyrfa i'w gymryd o ddifri. Roedd Margaret wedi brwydo am y llwyddiant a brofodd, ond hyd yn oed ar ôl ei holl ymdrechion, mae hi dal wedi mynd yn angof.

Y rheswm am hynny mae'n siŵr, tybia Lisa, yw am ei bod yn ddynes.

"Yn amlwg, 'da ni 'di dod mor bell, a 'da ni angen dathlu hynny, ond mae 'na dal ffordd i fynd. O fy mhrofiad personol i, dwi ddim yn teimlo mod i 'di cael cam achos mod i'n ddynes – mae hynny'n rhywbeth dwi'n ofnadwy o lwcus amdano fo.

"Ond bendant, dwi'n meddwl mai dyna un o'r rhesymau pam bod ni wedi anghofio amdani. Mae lot o'r hen artistiaid 'da ni'n sôn amdanyn nhw, maen nhw i gyd bron yn ddynion. Mae'n siŵr mai Gwen John ydy'r unig un mae pobl yn gwybod amdani, sy'n rili trist. Margaret druan."

Welsh service in Westminster Abbey. Coronation Day, 1918Ffynhonnell y llun, Library of Congress
Disgrifiad o’r llun,

Un o weithiau mwyaf Margaret - Welsh service in Westminster Abbey. Coronation Day, 1918 - oedd yn mesur 20x16 troedfedd. Treuliodd ddwy flynedd yn ei gwblhau. Mae'r Prif Weinidog, David Lloyd George a'i deulu i'w gweld tua canol y llun

Felly sut beth oedd hi i Lisa gael dysgu am artist benywaidd arall o Gymru, oedd yn byw dros ganrif yn ôl, a hynny am y tro cyntaf?

"O'dd o'n brofiad emosiynol, yn enwedig gweld y dyfyniad o erthygl pan oedd hi 'di marw. Mae lot o artistiaid oedd yr un mor dda â Margaret, 'dan ni dal yn eu cofio nhw, felly maen nhw dal i fyw, mewn ffordd.

"Dwi jyst yn meddwl mod i mor lwcus yn cael gwneud be' dwi'n ei 'neud. O'dd hi 'di gweithio mor galed i gyrraedd lle'r oedd hi wedi cyrraedd.

"O'n i wedi cael fy ysbrydoli jyst i gario 'mlaen i fynd amdani."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.