Mali Gravelle: Pwysigrwydd 'dathlu'r person' wrth alaru

Mali Gravelle Ffynhonnell y llun, Mali Gravelle
Disgrifiad o’r llun,

Mali Gravelle

GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r actores Mali Gravelle yn wyneb cyfarwydd i nifer ohonom oherwydd ei gwaith ar gyfresi fel Y Gwyll, Un Bore Mercher a Caerdydd.

Ond mae'r actores o Gaerdydd wedi profi newid byd diweddar gan ail-hyfforddi fel dathlwr angladdau annibynnol ac wedi arwain 25 o angladdau erbyn hyn.

Bu'n trafod y golled a'r galar sy' wedi ysbarduno ei newid byd mewn sgwrs ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru:

GanMali Gravelle
Dathlwr Angladdau

Mae'n gyfnod anodd iawn yn amlwg pan mae rhywun yn colli rhywun. A dwi'n teimlo bod cael cyfle i ddathlu'r person yna a chreu gwasanaeth unigryw i'r teulu yn beth pwysig iawn yn ystod cyfnod anodd.

Mae dathlwr angladdau annibynnol yn cwrdd â'r teulu ar ôl iddyn nhw golli rhywun ac yn gwario amser gyda nhw yn trafod bywyd y person a'n gofyn i'r teulu pa fath o wasanaeth angladd maen nhw moyn. Wedyn maen nhw'n sgwennu'r wasanaeth ac yn cymryd yr angladd ar y dydd.

Mae'r term annibynnol yn meddwl bod ni'n gallu gweud gweddi neu gael emyn, dyw e ddim fel gwasanaeth humanist. Mae rhai teuluoedd moyn cael rhyw fath o grefydd yn ystod y wasanaeth.

Dyna beth yw'r swydd - dathlu'r person mae'r teulu wedi'i golli.

Profiad personol

Mae pawb yn colli rhywun yn anffodus. Gollais i'n fam dwy flynedd yn ôl, Mags Harries, ac roedd hynny'n gyfnod anodd iawn i fi yn bersonol. O'n i'n teimlo fel 'sen i o dan ddŵr am tua blwyddyn a hanner achos roedd hi'n fenyw mor unigryw a mor gryf.

Ti ddim yn rili gwybod beth mae e fel i golli rhiant nes bod chi'n colli'r rhiant. Mi oedd e'n gyfnod anodd.

O'n i'n meddwl, sut ydw i'n helpu pobl arall sydd yn mynd trwy'r un peth? Dros yr haf blwyddyn diwethaf, 'nes i gwrs ar-lein. Roedd e'n ffantastig i feddwl am y broses o gofio rhywun, o farwolaeth, o angladd a sut i goffáu rhywun.

Mae'n dod o'r profiad pan gollais i'n fam a dyna beth wnaeth ysbarduno fi ymlaen i edrych mewn i'r peth.

Mae'n fraint cael cwrdd â'r teuluoedd yma a hefyd mae'n hyfryd i gael defnyddio'r iaith Gymraeg. Mae'r iaith Gymraeg yn rhan annatod ohona i, so pan fi'n dathlu neu pan fi'n drist neu pan fi'n siarad efo babanod neu gŵn, yn yr iaith Gymraeg dwi'n gwneud hynna.

O ran rhannu'r iaith Gymraeg yn ystod y gwasanaethau, mae hwnna'n fraint mawr.

'Rhan o'u bywyd nhw'

Mae fe'n gyfnod anodd - ti'n mynd draw i dai'r teuluoedd a ti yw'r person olaf maen nhw moyn gweld achos maen nhw ddim rili moyn mynd trwy'r broses.

Ti'n cael paned a siarad, mae cymaint o bethau gyda'r teulu i ddweud am y person.

A mae fe'n anodd achos dydyn nhw ddim moyn agor lan, ti'n ddiethryn yn eu cartref nhw yn ystod amser anodd. Ond drwy'r broses yna a sgwennu'r gwasanaeth a chysylltu gyda'r teulu, ti'n dod yn rhan o'u bywyd nhw mewn ffordd bach.

Mae yna wahaniaeth mawr rhwng y bobl chi'n cwrdd ar y diwrnod cyntaf yna a'r bobl chi'n ffarwelio gyda ar ôl y gwasanaeth.

Mae yna siwrne wedi dechrau a mae'n fraint cael bod yn rhan o'r siwrne yna.

Y gwasanaeth

Does dim rheolau. Mae fe'n gorfod bod yn union fel mae'r teulu moyn. Wrth gwrs mae angladd ambutu'r person chi wedi colli, ond mae fe i'r teulu ac i'r ffrindiau sydd ar ôl.

Felly mae'n bwysig iawn bod y bobl sydd yn dod i'r angladd yn teimlo falle bod nhw wedi dysgu rhywbeth newydd am y person neu falle bod nhw'n gadael yn cymryd rhyw deimlad positif sydd yn helpu gyda'r galar sydd i ddod.

Mali Harries, fu'n chwarae rhan Mared Rhys yng nghyfres Y GwyllFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mali yn ei gwaith fel actores. Bu'n chwarae rhan Mared Rhys yng nghyfres Y Gwyll

Gwaith fel actores a chyfarwyddwr

Dwi'n 50 mewn cwpl o wythnosau a dwi wrth fy modd dal i actio. Ges i'r cyfle i gyfarwyddo ffilm fer ychydig flynyddoedd yn ôl a dwi wedi cwympo mewn cariad gyda'r broses hynny hefyd ac wedi cyfarwyddo cwbl o bethau, fel Pobol y Cwm a Hafiach.

Dwi'n caru dweud stori a dwi'n caru actorion. Mae fel 'se fe'n mynd law yn llaw gyda bod yn ddathlwr angladdau achos eto mae ambutu storis pobol a theimladau pobol.

Er bod gymaint o blatiau yn troelli mae yna rhyw elfen o gysylltiad rhwng cyfarwyddo, actio a bod yn ddathlwr angladdau annibynnol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb