Brwydr bywyd Ant Evans yn ysbrydoli ei hunangofiant

Ant EvansFfynhonnell y llun, Ant Evans
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Doedd arbenigwyr ddim yn disgwyl i mi gyflawni rhyw lawer ac roedd mam yn benderfynol o'u profi nhw'n anghywir."

Dyna grisialu plentyndod yr ieithydd a'r awdur Ant Evans, sy'n wreiddiol o Harlech ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Mae Ant wedi rhyddhau ei hunangofiant yn ddiweddar dan y teitl 'Llyfr Agored'.

Mae Ant yn byw gyda'r cyflwr niwrolegol hydroseffalws, ac mi gafodd lawdriniaeth ar yr ymennydd yn bum wythnos oed.

Er gwaetha'r heriau, aeth ymlaen drwy fyd addysg a choleg, ond bu'n frwydr.

Mae'r llyfr yn gyfuniad o hanes bywyd Ant ac yn edrych hefyd ar fywyd ei fam yn magu plentyn anabl.

Manon Steffan Ros oedd yn holi Ant Evans ar ei rhaglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru.

Teimlo rhyddhad

Er nad oedd Ant erioed wedi ystyried sgwennu hunangofiant, pan wnaeth y penderfyniad roedd yn rhaid iddo gofnodi'r "da a'r drwg gyda'i gilydd."

Sgwrs dros ddiod gyda'r awdur John Gower mewn tafarn yng Nghaernarfon wnaeth ysgogi Ant i fynd amdani, ac yn sydyn fe drodd yr adolygydd llyfrau fewn i awdur ei hun.

"Nes i benderfynu os dwi am sgwennu hunangofiant, does dim pwynt i gadw pethau yn ôl, does dim pwynt i mi guddio pethau. Dwi'n mynd i sgwennu pob dim lawr felly. Roedd 'na rannau o'r gyfrol oedd yn anoddach i sgwennu nag eraill," meddai.

Wrth ysgrifennu, roedd Ant yn teimlo rhyddhad a gweld y broses yn un "theraputic" o ran cael popeth "allan o'i system."

"Unwaith yr oedd o allan mewn du a gwyn ro'n i'n teimlo'n brafiach ac yn meddwl, 'reit, dwi wedi cael y teimladau 'ma allan rŵan er bod yr atgofion dal yno'."

Mae llawer iawn o gariad a gobaith yn y gyfrol pan mae'n trafod ei fam, ond mae rhannau hefyd sy'n disgrifio'r berthynas anodd oedd gan Ant gyda'i dad.

Mae Ant yn disgrifio ei berthynas gyda'i dad fel un 'rhwystredig'. Fe newidiodd Ant ei enw er mwyn sicrhau nad oedd yn rhannu'r un enw a'i dad, ond mae'n pwysleisio nad yw yn ei gasáu.

"Pan mae'n dod at drafod fy nhad, roedd hynny yn anodd achos mae o dal yn fyw. Dwi ddim yn ei gasáu o gwbl a hynny'n bennaf oherwydd roedd Mam yn ei garu. Felly oedd Mam yn caru rhywun, fedrwn i ddim eu casáu nhw," meddai.

Ant a'i FamFfynhonnell y llun, Ant Evans
Disgrifiad o’r llun,

Ant yng nghwmni ei ddiweddar fam

Mae brwydr yn elfen bwysig o'r gyfrol hefyd. Nid yn unig y frwydr yn erbyn heriau iechyd Ant, ond y frwydr yn erbyn yr awdurdodau i sicrhau hawliau teg i Ant yn y byd addysg pan oedd o'n blentyn.

Roedd ei fam yn allweddol yn y frywdr hon, ac yn un sy'n cael ei chynnwys yn helaeth yn yr hunangofiant.

Dechreuodd Ant Evans yn yr ysgol gynradd yn 1994 pan oedd yn chwech oed – flwyddyn yn hwyr, oherwydd ei anableddau.

"Oherwydd yr hydroseffalws, y nam golwg, a'r gwendid i lawr ochr dde'r corff doedd yna'r un ysgol yn y dalgylch yn fodlon fy nerbyn i.

"Roedd yna dipyn o ddadlau, rhwng Mam a'r awdurdodau addysg yn mynnu bod gen i'r un hawl ag unrhyw blentyn arall i gael addysg a'r ysgolion lleol yn dadlau i'r gwrthwyneb."

Fe gafodd y Ddeddfwriaeth Gwahaniaethau ar sail Anabledd ei phasio yn 1995, flwyddyn ar ôl iddo ddechrau yn yr ysgol.

"Roedd Mam mor bendant, ac mor awyddus i mi dderbyn addysg. Doedd hi ddim yn fodlon i mi beidio â mynd i'r ysgol.

"Yr awdurdod wnaeth ildio yn y diwedd ac fe gafodd un ysgol, Ysgol Tanycastell, eu gorfodi i bob pwrpas i fy nerbyn fel disgybl," meddai Ant.

Digartrefedd

Daeth rhagor o galedi i fywyd Ant pan gydag ysgariad ei rieni yn 2009, a bu farw ei fam o ganser.

Wedi i rieni Ant Evans ysgaru fe benderfynodd y llys teulu mai'r peth gorau oedd gwerthu'r cartref a rhannu pris yr eiddo rhwng ei fam a'i dad, dyma ddechrau ar gyfnod anodd iawn.

Oherwydd y dirwasgiad ariannol, doedd ddim llawer o ddiddordeb yn y byngalo. Aeth Ant i'r coleg heb iddo ef a'i fam orfod symud cartref. Yna, bu'n gofalu amdani ar ôl iddi gael diagnosis o ganser.

Ar ôl marwolaeth ei fam, roedd rhaid i'r bachgen 24 geisio chwilio am gartref iddo ei hun ac ei frawd iau.

"Yn anffodus, ro'n i'n profi cymaint o rwystrau fel rhywun sy'n ddi-waith ac yn fyfyriwr, oedd yn chwilio am dŷ," meddai Ant.

Doedd neb eisiau tenantiaid ar fudd-daliadau, efo anifeiliaid anwes, ac roedd ei dad yn pwyso arno i gael gwared ar y tŷ er mwyn cael y pres.

"Yn anffodus, mi wnaeth 22 Rhagfyr 2013 gyrraedd a doedden ni heb ddod o hyd i unlle i fyw, a'r tŷ wedi gwerthu, a dyma'r cwpwl oedd wedi prynu'r lle yn glanio ar stepen drws yn barod i symud fewn."

Aeth ei frawd iau i aros gyda pherthnasau yn Harlech, ond doedd gan neb le i Ant am fod ganddo'r ci a'r gath. Mi aeth at hanner brawd a chwaer-yng-nghyfraith yn Lerpwl am chwe mis, a chysgu ar soffa.

"Yn amlwg ro'n i yn wynebu'r un rhwystrau o ran dod o hyd i rywle i fyw."

Oedd posib troi at ei dad am gymorth, felly? "Na," meddai.

"Fo oedd wedi bod yn cwffio am werthiant y tŷ, ac mi wnaeth o briodi ei feistres ryw saith mis wedi marwolaeth Mam.

"Doedd 'na fawr o Gymraeg rhyngon ni ar y pryd. Yn dilyn cyfarwyddiadau gan Mam, 'dw i'n gwrtais efo fo bob tro 'dw i'n ei weld o, ond 'dw i ddim yn meddwl byddai neb yn dweud bod gynnon ni berthynas tad a mab gonfensiynol."

Manon Steffan Ros ac Ant

Erbyn hyn mae Ant Evans yn Swyddog Iaith Cynorthwyol gyda Chyngor Gwynedd. Yn 2024 mi gafodd ei benodi yn adolygydd llyfrau Cymraeg i wefan Nation.cymru. Mae'n ddarllenwr brwd ers ei fod tua phedair oed.

Nawr fod Ant wedi cael "blas ar sgwennu" mae'n gobeithio cyhoeddi rhagor o lyfrau yn y dyfodol.

"Mae gen i syniadau ar gyfer llyfrau ffeithiol. Dwi ddim eisiau i bobl fy ngosod i mewn blwch straeon ffeithiol, dwi hefyd eisiau arbrofi mwy efo sgwennu ffuglen yn benodol - straeon byr neu hyd yn oed nofelau, felly dwi'n edrych ymlaen yn fawr at arbrofi gyda hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig