Lluniau: Bywyd gwyllt yr hydref yn ne Cymru

Wedi'i olchi yng ngolau euraidd y wawr, mae carw coch mawreddog yn aros am eiliad i archwilio ei amgylchedd ym Mharc Margam
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddiwedd tymor yr hydref a'r gaeaf ar gychwyn.
Y ffotograffydd Gildas Griffiths o'r Barri sydd wedi dogfennu bywyd gwyllt a byd natur yn ystod tymor yr hydref yn ne Cymru.

Mae llwynog bach, a gafodd sylw mewn oriel flaenorol pan oedd yn llawer iau, yn chwilio am ei bryd nesaf wrth i'r haul fachlud dros Radur, Caerdydd

Aelod arall o'r teulu llwynogod yr wyf wedi cael y fraint o'i ddogfennu drwy gydol yr hydref

Un o uchafbwyntiau fy hydref oedd dal y ddelwedd hon o las y dorlan uwchben Afon Taf, wedi'i fframio gan gyfuniad trawiadol o liw a golau

Mae oriau di-ri o amynedd ac arsylwi wedi fy ngalluogi i ddogfennu ysblander tymor y rhuthro ym Mharc Margam yr hydref hwn

Tymor blynyddol y rhuthro ym Mharc Margam, un o olygfeydd mwyaf trawiadol byd natur

Carw gwryw nerthol yn bloeddio ar draws Parc Margam wrth amddiffyn ei diriogaeth yn ystod tymor y rhuthro

Storm Austen ym Mhorthcawl...

ac yn taro'r morglawdd...

nes bod y goleudy bron â bod dan y don

Tapestri bywiog o liwiau'r hydref ar hyd llwybr Salmon Leaps ym Mro Morgannwg

Goleuadau'r gogledd yn creu cefndir syfrdanol i Gastell Ogwr mewn arddangosfa brin ac anghofiadwy

Crëyr yn sefyll yn llonydd ymhlith lliwiau cyfoethog yr hydref yn Llyn y Rhath, Caerdydd

Robin goch yn oedi am eiliad yn ystod ei chwiliad am fwyd - golygfa gyfarwydd ond bob amser yn un groesawgar
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd18 Awst

- Cyhoeddwyd10 Mai
