Cwest: Dyn a fu farw yn Llanuwchllyn wedi cael anafiadau niferus

Chris JohnsonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Chris Johnson, 58, o'r Rhyl, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A494 yn Llanuwchllyn ar 15 Hydref

GanSion Tootill
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae agoriad cwest wedi clywed bod dyn 58 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad ger Y Bala yng Ngwynedd, wedi marw yn y fan a'r lle o anafiadau difrifol yn sgil cael ei wasgu.

Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau o wrthdrawiad ar yr A494 yn Llanuwchllyn rhwng dau gerbyd lliw du - BMW 240i a Mitsubishi L200 - ar 15 Hydref.

Fe aeth y gwasanaethau brys i'r safle, ond bu farw gyrrwr y BMW, Christopher Johnson o'r Rhyl, Sir Ddinbych, yn y fan a'r lle.

Cafodd gyrrwr y Mitsubishi anafiadau difrifol a'i gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor yn Wrecsam.

Fore Mercher clywodd Llys y Crwner yng Nghaernarfon fod car Mr Johnson, oedd yn teithio i gyfeiriad Y Bala, wedi taro'r cerbyd arall, oedd yn teithio i gyfeiriad Dolgellau, benben.

Roedd trydydd car hefyd yn rhan o'r gwrthdrawiad ac fe wnaeth daro rhannau o'r ceir eraill.

Fe ddaeth archwiliad post mortem i'r casgliad fod Mr Johnson, a oedd yn weithiwr cymdeithasol, wedi marw o anafiadau niferus.

Fe wnaeth y dirprwy grwner dros ogledd orllewin Cymru, Sarah Riley, ohirio'r cwest er mwyn galluogi i ymchwiliad pellach gael ei gwblhau.

Mewn teyrnged yn gynharach, dywedodd teulu Mr Johnson ei fod yn "ddyn teulu cariadus, yn anhygoel, doniol a bydd colled fawr ar ei ôl".

"Doedd dim byd roedd Chris yn ei garu mwy na bod allan gyda'i ffrindiau ar ei feic modur, yn teithio ar hyd ffyrdd hardd gogledd Cymru, neu'n treulio amser yn y gampfa," medden nhw.

"Roedd Chris yn ŵr, tad, mab, taid, brawd, ewythr a chefnder, ac yn graig i'n teulu. Roedd yn gallu gwneud i chi wenu hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf anodd, ac roedd yn gweld yr ochr orau mewn cymaint o bethau.

"Ni all geiriau fynegi'r effaith a gafodd ar gynifer o bobl. Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon er mwyn iddynt allu galaru am golli Chris."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig