Y gamdriniaeth o ddyfarnwyr Cymru 'yn gwbl syfrdanol'

- Cyhoeddwyd
Mae pêl-droed ar unrhyw lefel yn gallu bod yn gêm emosiynol, boed hynny'n ffeinal Cwpan y Byd neu'n gêm ar lawr gwlad.
Ond mae adroddiadau bod cam-drin dyfarnwyr yn y gêm amatur yng Nghymru 'ar ei waethaf erioed'.
Ymosodiadau difrifol
Un dyfarnwr sydd wedi dioddef ymosodiad ar gae pêl-droed yw Mark Bowen o'r Barri, sy'n ddyfarnwr ers 25 mlynedd.
Ym mis Hydref 2024, yn dilyn gêm gwpan rhwng Rumney Dragons ac Elite Eleven yn Llaneirwg, Caerdydd, fe wnaeth cefnogwr o'r enw Elliott Bessant ymosod arno.
Dywed Mark yr aeth Mr Bessant ar y cae ar ôl y gêm, cyn ei fygwth, a rhedeg ar ei ôl:
"Yn anffodus, roedd e'n gyflymach na fi. Dwi'n cofio fe'n cico fi ar waelod fy nghoes, wedyn nes i gwympo a glanio ar y llawr. Ar y pwynt hwnnw, ro'n i'n ofn dros ben."

Y dyfarnwr o'r Barri, Mark Bowen
Fe aeth Mark i'r ysbyty wedi'r ymosodiad lle cadarnhaodd y meddyg ei fod wedi torri asen. Yn sgil y boen, fe wnaeth Mark golli tair wythnos o waith, a saith wythnos o ddyfarnu.
Fis Hydref 2026 yn Llys y Goron Caerdydd, fe wnaeth Elliott Bessant bledio'n euog i achosi gwir niwed corfforol (ABH). Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 19 Tachwedd.
Yn sgil yr ymosodiad, cafodd Bessant hefyd ei wahardd rhag cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd yn ymwneud â phêl-droed gan Gymdeithas Bêl-droed De Cymru am gyfnod o ddwy flynedd. Fodd bynnag, mae Mark yn teimlo nad yw hyn yn mynd ddigon pell:
"Yn fy marn i, mae'n haeddu o leiaf pum mlynedd mas o'r gêm. Dylai pawb allu dod i gêm bêl-droed a theimlo'n saff."
Mae Mark yn poeni am yr effaith mae'r gamdriniaeth yn ei gael ar nifer y bobl sy'n penderfynu dyfarnu:
"Mae'n broblem ledled y byd. Mae recriwtio yn un peth, mae cadw dyfarnwyr yn beth arall.
"Mae'n warthus ei fod yn digwydd o gwbl. Does neb yn haeddu beth ddigwyddodd i fi - dim chwaraewr, dim dyfarnwr, dim cefnogwr."

Mark gyda chyflwynydd Y Byd ar Bedwar, Sion Jenkins
Y sefyllfa'n 'waeth nag erioed'
Hefyd yn siarad gyda Y Byd ar Bedwar ar S4C, dywedodd Ceri Williams o adran dyfarnwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru:
"Rydyn ni'n gweld cynnydd enfawr yn nifer yr achosion o gam-drin dyfarnwyr, ac yn gweld effaith enfawr o ran dyfarnwyr yn gadael y gêm.
"Dwi wir yn credu bod cysondeb yr adroddiadau rydyn ni'n eu gweld ar hyn o bryd yn waeth nag erioed."

Sion Jenkins gyda Ceri Williams o Gymdeithas Bêl-droed Cymru
1/4 wedi profi camdriniaeth corfforol
Mae Ceri Williams o Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn cydnabod bod hi ddim yn amgylchedd diogel i ddyfarnwyr bellach, ac mae hi'n sefyllfa bryderus i ddyfarnwyr ifanc yn arbennig.
Meddai: "Mae'r hyn y mae swyddogion dan 18 yn gorfod delio ag ef gan oedolion yn gwbl syfrdanol… dyw e ddim yn amgylchedd diogel [iddyn nhw] ar hyn o bryd."
Mae ffigyrau gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru'n dweud bod un ymhob pedwar dyfarnwr yng Nghymru wedi profi camdriniaeth gorfforol.
Hefyd, mae traean o ddyfarnwyr sy'n penderfynu peidio ailgofrestru ar gyfer y tymor canlynol yn dweud mai camdriniaeth yw'r prif reswm dros roi'r gorau iddi.

Ceri Williams yn siarad ar Y Byd ar Bedwar
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhannu ystadegau newydd gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar sydd heb gael eu cyhoeddi o'r blaen.
Mae'r rhain yn dangos bod adroddiadau o drais ymhlith cefnogwyr a rhieni yn ardal Gwent wedi dyblu dros dri thymor, gydag 80 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi yn yr ardal y llynedd.
Roedd 14 adroddiad o gam-drin geiriol difrifol yn ardal Cymdeithas Bêl-droed Gorllewin Cymru'r tymor diwethaf hefyd.
Daw hyn wrth i ddyfarnwyr yng Nghaerdydd wrthod dyfarnu eu gemau yn ddiweddar, fel protest yn erbyn camdriniaeth, a chynghrair yn Sir Gâr yn tynnu eu dyfarnwyr yn sgil swyddog ifanc yn derbyn camdriniaeth ddifrifol.
Angen bod 'mor llym â phosib'
Mae angen i awdurdodau pêl-droed fynd i'r afael â'r broblem, meddai Mark:
"Dwi'n disgwyl i bob awdurdod fod mor llym â phosib - (ddylai bod) dim goddefgarwch tuag at drais a chamdriniaeth tuag at swyddogion."
Yn ôl Ceri Williams o Gymdeithas Bêl-droed Cymru:
"Dwi'n meddwl bod wastad mwy allwn ni ei wneud. Rydyn ni'n gweithio gyda'r cymdeithasau rhanbarthol oherwydd, yn y pen draw, rydyn ni eisiau gwneud y gêm mor ddiogel â phosib i'n dyfarnwyr ni.
"Os yw rhywun yn ymddwyn yn dreisgar tuag at ddyfarnwr sy'n golygu bod rhaid i'r dyfarnwr hwnnw fynd i'r ysbyty, dydyn ni ddim eisiau'r bobl hynny yn rhan o'n gêm."
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Y Chwiban Olaf? Ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a YouTube S4C.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd21 Hydref

- Cyhoeddwyd30 Hydref 2024
