Ymgais cyn blismon i gadw straeon ysbryd yn fyw

- Cyhoeddwyd
Does dim yn well 'na stori ysbryd o flaen tanllwyth o dân ar ddiwrnod stormus.
Dyna'n union ddigwyddodd pan gafodd Cymru Fyw wahoddiad i gwt paned Pysgotwyr Seiont, Gwyrfai a Llyfni ar gyrion pentref Llanrug gan y Cadeirydd Huw Hughes.
Roedd Huw yno yn y cwt yn disgwyl â llond stôf o goed yn llosgi wrth i'r glaw arllwys y tu allan.
Ond nid pysgota oedd y pwnc dan sylw, ond diléit arall Huw, sef straeon ysbryd.
Diffyg cymdeithasu
Mae Huw wastad wedi bod yn chwilfrydig am straeon, ond ers yn ifanc mae wedi ymddiddori yn y byd goruwch naturiol.
Poendod mawr i Huw yw'r ffaith fod straeon ysbryd o ardaloedd lleol yn dechrau mynd yn angof, ac mi fase hynny'n "biti mawr", meddai.
"Y broblem fwyaf ydi fod pobl wedi stopio mynd allan am beint neu i gwrdd yn gymdeithasol fel oedden nhw ers talwm," meddai.
"Mae'r rhan fwyaf o'r tafarndai lleol o gwmpas fan hyn wedi cau, a dyna le oedd pobl yn adrodd y straeon 'ma wrth ei gilydd."
Plismon oedd Huw wrth ei waith, ac fe wnaeth ymddeol yn 1996.
Drwy siarad â hwn a'r llall ac wrth sôn am ambell i stori tra oedd yn blismon ar y bît, mae wedi casglu degau o straeon ysbryd gan bobl a'u cofnodi mewn llyfryn sydd heb ei gyhoeddi'n ffurfiol o'r enw Tu Hwnt.
"Efallai ei bod hi'n bwysig cadw'r straeon ma'n fyw, fel petai. Dwi'n lwcus fod y bobl 'ma, rhai wedi marw erbyn hyn wedi ymddiried ynddo i i wrando ar eu straeon nhw.
"Dwi'n meddwl mai'r rheswm mae pobl yn fodlon dod ata i hefo'u straeon ydi achos dwi ddim yn eu cymryd nhw yn ysgafn. Dwi'n hoffi gwrando arnyn nhw, ac mae rhai yn straeon personol iawn, felly dwi'n lwcus fod y bobl yma'n ymddiried ynddo i," meddai.
Gwyliwch Huw Hughes yn adrodd stori ysbryd
Un o'r rhesymau pam nad yw Huw yn cymryd y pwnc yma'n ysgafn yw oherwydd ei fod yn honni ei fod wedi gweld ysbryd ar bedwar achlysur gwahanol.
"Roedd y profiad cyntaf ges i, pan o'n i'n tua 15 oed. Ond y profiad mwyaf ges i, a does dim amheuaeth gen i mai ysbryd oedd hwn oedd pan o'n i ar wyliau sgïo yn Montgenevre, Ffrainc tua 10 mlynedd yn ôl.
"Ro'n i'n gorwedd yn y gwely a golau'r lleuad yn adlewyrchu fewn i'r ystafell. Nes i ddeffro tua thri yn y bore a theimlo fod rhywun yn yr ystafell hefo ni.
"Dyma fi'n edrych tuag at waelod y gwely a beth oedd yn sefyll yno oedd dyn yn gwisgo rhyw siaced ddu hen ffasiwn. Bûm yn syllu arno am gryn amser ond roedd yn edrych drwy'r ffenestr lawr y dyffryn.
"Yn raddol dechreuodd droi ei ben ac edrych tuag ata i cyn diflannu," meddai.
Roedd Huw yn gwbl sicr nad oedd yn breuddwydio a daeth i wybod wedyn wrth siarad gyda pherchennog y gwesty yn y bore bod ysbryd yn y lle.
Ysbryd milwr oedd o mae'n debyg gan fod cysylltiad gyda'r adeilad a chyfnod yr ail ryfel byd.

Dyma'r ardal ble'r oedd Huw yn aros yn Ffrainc pan welodd yr ysbryd
Mae Huw wedi cofnodi'r stori honno ac mae'n agored iawn wrth drafod ei brofiadau.
Mae Huw yn sôn iddo gael profiad arall mewn gwesty ger Caernarfon pan oedd yn defnyddio'r gampfa. Mae sawl achlysur arall hefyd lle mae Huw yn dweud ei fod wedi teimlo "rhywbeth rhyfedd" o'i gwmpas heb allu esbonio beth oedd o'i le.
Nawr fod Huw wedi ymddeol a'i fod yn mwynhau cymdeithasu, mae'n benderfynol o gadw'r straeon yma'n fyw.
"Mae'r rhain yn rhan o'n hanes ni ac ein diwylliant ni. Mae'r straeon yma hefyd yn rhywbeth personol iawn i sawl person sy'n penderfynu eu rhannu nhw.
"Dwi wrth fy modd yn gwrando ar y straeon 'ma ac mae'n bwysig i fod dal i'w deud nhw, cyn iddyn nhw fynd yn angof," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd31 Hydref 2021
