Ateb y Galw: Keila

KeilaFfynhonnell y llun, Recordiau Côsh
  • Cyhoeddwyd

Ar ôl dod i sylw'r cyhoedd gyda'i hymddangosiad ar Y Llais 2026, mae Keila newydd ryddhau ei sengl gyntaf.

Fe gafodd Gweithio Allan ei dewis yn drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru a'r artist 19 oed o Gaernarfon sydd nawr yn Ateb y Galw.

Beth yw dy atgof cyntaf?

O'n i'n byw yn hen dŷ fi, tua dwy oed, ac roedd Love Story gan Taylor Swift newydd ddod allan.

Roedd gan Dad hwnna ar ei playlist on repeat achos roedd o'n lyfio'r gân a'r peth cynta' dwi'n cofio erioed ydi bod ar y gwely efo fo jyst yn bownsio fyny a lawr yn gwrando ar y gân drosodd a drosodd a drosodd.

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi 'di trio meddwl am ateb mwy interesting na hyn, ond ma' be' dwi'n mynd i ddeud yn rili Cofi rŵan - ond hoff le ydi Caernarfon.

Ella dydi o ddim lle gorau fi o ran pethau i neud neu views gorau – ond mae o am y gymuned a'r teimlad o adra. Mae'n deimlad cynnes i feddwl am Gaernarfon. Dwi'n lyfio bod fi'n dod o 'na – bod fi'n Cofi.

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Cyngerdd Taylor SwiftFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Profiad Keila o wylio Taylor Swift yn ystod ei thaith Eras

Cant y cant - y noson neshi fynd i weld Taylor Swift am y tro cynta', yn Lerpwl, yn yr Eras Tour, yn 2024.

Dwi ddim rili'n cofio llawer ohono fo achos o'n i fatha blacked out yn gweld rhywun dwi 'di edrych i fyny ati drwy holl fywyd fi, a rhywun sydd wedi ysbrydoli fi i neud be' dwi'n gwneud rŵan, fan yna o flaen fi.

Roedd o jyst yn hollol surreal. Wnai byth deimlo fel yna eto - roedd o'n amazing.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Canu trwy'r adeg.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Ma' gen i ddau.

Un ydy pan oedda ni yn Llyn Llanberis un tro a ni gyd yn cael twrn i jympio fewn. Ond doedd hi ddim hynna braf ar y diwrnod yma ac wedi bod yn bwrw yn y bora. Dyma ffrind fi'n trio jympio fewn ond roedd y gwair i gyd wedi troi'n fwd.

Yr unig ffordd i ddisgrifio fo ydi bod hi fel y cartoons yna lle maen nhw'n rhedeg mor sydyn maen nhw'n aros yn yr un lle. A nath hi jyst disgyn i mewn ac roedd hi jyst yn covered hefo mwd.

Dwi 'rioed wedi chwerthin fel yna yn bywyd fi - a nai byth chwerthin fel yna eto – roedd o'n hilarious.

A'r ail ateb ydi jest unrhyw amser dwi 'di canu ar lwyfan, so pethau fel Y Llais, neu pan neshi neud Only Kids Allowed a hyd yn oed pethau fel gigs coleg. Dwi'n lyfio canu, mae o'n neud fi deimlo'n hapus - y teimlad o fod ar lwyfan yn canu a bod pobl yn enjoio be' dwi'n neud – mae hynna'n awesome.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnat ti erioed?

Neshi neud miwsig yn Coleg Menai, Bangor, ac un tro roeddan ni efo project o'r enw Live Lounge. O'n i 'di bod yn sâl yr wythnos cynt ac o'n i'n canu Locked Out of Heaven gan Bruno Mars, ond am bod fi 'di bod yn sâl doedd y llais ddim yn lle oedd o fod.

Neshi gyrraedd y nodyn uchel yma a dyma fi'n cael voice crack huge. Wnaeth pawb ddechra' chwerthin - rili embarrassing!

Neshi ddisgyn lawr grisiau yn Cube (clwb nos) un tro hefyd. Roedd hynna'n embarrassing hefyd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe ma'n siŵr. Dwi'n emosiynol fel person a wnai grio dros ddim byd. Dwi'n un o'r bobl yna sy'n gweld hen berson yn eistedd ar ben ei hun mewn caffi a wnai grio. Dydi o ddim yn cymryd llawer i setio fi off.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, rili drwg - dwi'n vapio. Dwi ddim i fod achos dwi'n canu - a dwi isio stopio ond gosh mae'n anodd!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Album Folklore gan Taylor Swift. Un – achos songwriting gorau hi, mae o'n hollol briliant. A dau, nath o ddod allan pan o'n i'n mynd trwy'r amser rili drwg, a nath o bwsio fi allan ohona fo.

Nesh i gael tatŵ gyntaf fi o un o'r caneuon ar yr albym, mae o'n rili meddwl lot i fi.

Tatŵ KeilaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Tatŵ Keila

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Mae hwnna'n gwestiwn rili anodd. Dwi ddim isio deud Taylor Swift achos maen nhw'n dweud wrtha chdi i beidio cyfarfod idols chdi.

Nain fi. Nathon ni golli Nain mis Mawrth flwyddyn diwetha' a fasa gweld Nain eto yn rili neis achos dwi'n methu hi, ac roedd hi'n laff bod efo hi.

Dyweda rywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n chronic over-sharer, felly dwi'm yn meddwl bod 'na bethau dydy pobl ddim yn gwybod.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Bod rownd pobl dwi'n caru, gwrando ar fiwsig dwi'n caru, jesd neud be' dwi'n lyfio neud yn ddyddiol. Faswn i ddim yn trio neud dim byd extravagant, jesd trio socian i mewn be' ti fel arfer yn cymryd for granted.

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Keila gyda chi, a llun o Nain KeilaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Keila yn ifanc gyda'i 'ffrind gorau' Lisi, a'i Nain

Llun ohono fi efo ci cynta' fi – Lisi. O'n i'n ddwy oed pan geshi hi.

Roedd Nain yn gwarchod fi ar y diwrnod yma ac roedd ci ei chwaer hi wedi cael pyps. Dyma ni'n mynd i weld nhw a dyma fi'n gweld y ci bach yma. Chihuahua oedd hi, runt o'r litter, a mor ciwt a nath hi gymryd ata i syth bin hefyd.

Tua awr wedyn roedd Nain yn ffonio Mam yn deud 'mae hi di gwirioni efo'r ci yma dwi jest a mynd â hi adra'.

Ffrind gorau fi.

Os fyddet ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Rhywun sy'n byw yn Awstralia, neu Groeg neu rhywle sy'n boeth drwy'r adeg.

Dwi'n rili licio llefydd poeth a faswn i'n symud i Awstralia fory ond fel yma faswn i'n cael trial run ohono fo trwy rhywun arall i weld os dwi'n licio fo.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: