Seiclo 800km i helpu teulu ffrind gorau ei fab frwydro cyflwr prin

Dean a Huw
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro sy'n byw yn Iwerddon yn ceisio helpu teulu ffrind gorau ei fab wrth iddyn nhw ddygymod â chael dau blentyn gyda chyflwr angheuol prin iawn.
Mae Huw a Dean yn ffrindiau pennaf yn Gaelscoil Naomh Padraig, ysgol gynradd gyfrwng Gwyddeleg ar gyrion Dulyn.
"Maen nhw'n cael lot o hwyl – jest hogia normal yn cael belly laughs a hwyl go iawn ac ma'n rili neis gweld nhw," meddai Ieuan Green, tad Huw, sy'n wreiddiol o ardal Llanrug.
"Mae 'na lot ohonyn nhw'n ffrindiau ond mae Huw, Dean a Bobby efo'i gilydd lot.
"Maen nhw'n galw eu hunain yn The Three Amigos – ac mae Dean efo sense of humour anhygoel."

Dau o'r Amigos - Dean a Huw
Ac mae hyn er gwaetha'r ffaith bod Dean yn byw gyda Duchenne Muscular Dystrophy, cyflwr angheuol sy'n gwanhau'r cyhyrau dros amser ac sydd bron yn ddieithriad yn effeithio bechgyn.
Mae'n gyflwr prin, ac yn Ewrop a Gogledd America mae'n effeithio tua chwech ymhob 100,000 – ond mae Dean, sy'n naw, a'i frawd Conor, 11, efo'r cyflwr.
"Mae'n gyflwr prin iawn ac mae'n brin os ydi un plentyn mewn teulu efo fo, ond i gael dau mae'n ofnadwy," meddai Ieuan, sy'n yn byw yn Nulyn efo'i wraig Michelle ers 2008, lle maen nhw'n magu tri o blant.
"Maen nhw'n deulu normal ac mae hwn jest wedi disgyn arnyn nhw ac maen nhw wedi gorfod cwffio am bob dim."

Jamie a Karen gyda tri o'u pedwar o blant (o'r chwith) Sam, Dean a Conor
Eglurodd Ieuan: "Os ti'n mynd i redeg neu i'r gym mae'r corff efo protein i greu cyhyr newydd ond efo'r cyflwr yma dydi'r corff methu creu'r protein, mae'n troi i fat ac felly mae'r cyhyrau yn gwisgo i ffwrdd dros amser."
Gyda'u cyflwr yn dirywio mae'r ddau frawd yn defnyddio cadair olwyn – gyda'r brawd hŷn yn ddibynnol arno erbyn hyn – ac mae angen tŷ pwrpasol ar gyfer y teulu.
Felly fe wnaeth rhieni'r bechgyn a'u nain a taid werthu eu cartrefi a phrynu un oedd yn fwy addas. Maen nhw nawr yn paratoi i wneud gwelliannau angenrheidiol er mwyn gwneud y mwyaf o'u hamser gyda'u bechgyn.

Conor a Dean
"Fel mae'r teulu yn deud 'time is muscle'," meddai Ieuan. "Fel arfer efo plant, mewn 10 munud neu mewn wythnos, 'dan ni'n disgwyl iddyn nhw dyfu a chryfhau ond efo'r cyflwr yma fyddan nhw byth mor gryf ac maen nhw rŵan."
Ac felly i geisio helpu'r teulu i godi arian a chodi ymwybyddiaeth o'r cyflwr, fe benderfynodd Ieuan drio helpu.

Ieuan Green, ar y dde, gyda'i ffrind Darren Garner ar eu taith seiclo 800km. Mae cronfa Build for the Boys wedi ei sefydlu i gasglu arian i'r teulu ac i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr
Mae'n hoffi seiclo a dwy flynedd yn ôl aeth o a'i ffrind ar daith beic drwy fynyddoedd y Pyrenees o Fôr yr Iwerydd yr holl ffordd i Fôr y Canoldir.
Yn ddiweddar fe benderfynodd y ddau wneud taith debyg - ond y tro yma casglu arian. Fe wnaethon nhw seiclo 800km mewn chwe diwrnod yng ngogledd ddwyrain Sbaen a chodi dros €5,000 i gronfa Build for the Boys.

Ieuan Green
Meddai Ieuan: "Yn aml mae Dean yn dod draw i tŷ ni ac yn gwario amser efo Huw, ac maen nhw'n cael mynd i'r sinema ac ati. Maen nhw'n ffrindiau da felly roedd hwn yn gyfle i 'neud rhywbeth i godi arian – a chodi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.
"Mae codi pres yn bwysig iawn ond mae codi ymwybyddiaeth hefyd yn rili pwysig i'r teulu achos does 'na'm lot o blant sydd efo fo.
"'Da ni yn edmygu Karen a Jamie gymaint, gobeithio fod hwn yn rhyw deyrnged fach iddyn nhw a braf medru dangos rhywfaint o gefnogaeth iddynt mewn cyfnodau eithriadol o galed."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd18 Hydref

- Cyhoeddwyd10 Hydref
