Agor hen glo yn datrys dirgelwch ar ôl 400 mlynedd

Y clo pres a cheiniogau aurFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y clo ei ddarganfod oddi ar arfordir de Cymru yn 1999

GanMeleri Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr wedi datrys cod pedair llythyren i agor clo hynafol o longddrylliad oddi ar arfordir Cymru, gan ddefnyddio technoleg sganio fodern.

Cafodd y clo pres, sy'n fwy na 400 mlwydd oed, ei ddarganfod yn y tywod ger Margam, Port Talbot, yn 1999 gan ddyn lleol a'i ddatgelwr metel.

Mae'n rhan o gasgliad o drysor eang o weddillion llong Ann Francis a gafodd ei dinistrio mewn storm ar 28 Rhagfyr 1583 wrth iddi ddychwelyd o Sbaen.

Erbyn hyn, mae arbenigwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi defnyddio sgan CT i archwilio mecanwaith mewnol y clo, nodi'r cyfuniad cywir o lythrennau, a datrys y dirgelwch.

Peter Hughes yn sefyll o flaen ei gasgliad o arteffactau yn Amgueddfa'r Glannau, Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Peter Hughes yw'r dyn lleol a ddaeth o hyd i'r clo, ynghyd â cheiniogau aur ac arteffactau eraill

Dywedodd Peter Hughes, o Faesteg, fod y clo crog yn un o gannoedd o arteffactau a ddaeth i'r amlwg ar ôl degawdau o chwilio ar draeth Morfa.

Cafodd ei ddarganfod ger casgliad o ddarnau arian o Sbaen ac mae'n debyg y gallai'r clo fod wedi cael ei ddefnyddio ar gist i warchod eitemau gwerthfawr.

"Trwy lwc oedd hyn. Ro'n i'n cerdded ar hyd y traeth gyda fy synhwyrydd metel ar ddiwrnod i ffwrdd, a des i ar draws darn arian," meddai.

"Dyna ddechrau taith wnaeth bara am 21 mlynedd."

Llun o'r clo ar agor
Disgrifiad o’r llun,

'ANCE' yw'r cod wnaeth agor y clo

Dywedodd ei fod "wrth ei fodd" bod y tîm o arbenigwyr wedi llwyddo i ddatrys cod y clo, ar ôl iddo dreulio blynyddoedd yn ceisio datrys y dirgelwch ei hun.

"Fe wnes i drio ei ddatgloi am tua 20 mlynedd, trwy symud y deialau a dod o hyd i'r cyfuniadau cywir, ond fe wnes i fethu," dywedodd.

"Ond gyda chymorth technoleg fodern, ry'n wedi llwyddo i ddatrys rhywbeth sydd, mewn gwirionedd, yn debyg i god Da Vinci.

"Rwy'n hynod falch – wrth fy modd yn wir."

'Wedi fy syfrdanu'

Dywedodd Dr David Williams, cydymaith ymchwil yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, ei fod yn "amheus" pan ofynnwyd iddo ddefnyddio dyfais sganio i geisio datrys y dirgelwch.

"Roedd hi'n her, dyw'r ddyfais sydd gennym ni ddim wedi'i dylunio ar gyfer y diben penodol hwn," meddai.

"Sganio micro-CT yw hyn – rhywbeth y byddech chi'n ei gael yn yr ysbyty, ond ar gyfer eitemau llai."

Dywedodd Dr Williams ei fod "bob amser yn barod am her" ac yn mwynhau ceisio "datrys pos".

"Fe wnaethon ni sgan cyntaf i weld a allen ni weld unrhyw beth, ac roedden ni wedi synnu braidd o weld llythrennau," meddai.

"Aeth yr ail sgan yn ofnadwy, ond gyda'r trydydd sgan, fe wnaethon ni roi cynnig ar ddull gwahanol, a llwyddo i ddeall y cod.

"Ro'n i wedi fy syfrdanu ein bod ni wedi llwyddo i'w ddatrys."

Alastair Willis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr uwch-guradur Alastair Willis ei fod yn brosiect cymhleth

Fe wnaeth Peter Hughes drosglwyddo'r casgliad o arteffactau i Amgueddfa Cymru yn 2017, a chafodd y casgliad – gyda'r clo yn y canol – ei arddangos yn Amgueddfa Glannau Abertawe eleni.

Dywedodd yr uwch-guradur Alastair Willis fod darganfod y cod, sy'n sillafu'r gair ANCE, yn "anhygoel".

"Mae'n gymhleth iawn oherwydd bod cymaint o gyfuniadau," meddai.

"Mae pedwar cylch gwahanol, a gan fod chwe llythyren wahanol ar bob un o'r cylchoedd, mae 1,296 o gyfuniadau gwahanol."

Siân Iles
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Siân Iles fod y tîm wedi eu cyffroi o fod wedi datrys y dirgelwch

Dywedodd ei gydweithiwr yn Amgueddfa Cymru, yr uwch-guradur Siân Iles, fod y clo mewn "cyflwr rhagorol" ac yn rhoi darlun o'r cyfnod.

"Mae hon yn enghraifft wych o un sy'n dal i weithio fel y byddai wedi gwneud cannoedd o flynyddoedd yn ôl," meddai.

"Gan iddo gael ei ddarganfod mor agos at longddrylliad yr Ann Francis, ynghyd â'r holl ddeunydd sy'n rhan o'r casgliad hwnnw, mae'n cynnig cyd-destun da iawn, ac yn ein galluogi i bennu ei ddyddiad yn fanwl gywir."

Leisa Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leisa Williams yn dweud bod y casgliad wedi "agor ffenest" ar hanes Tuduraidd Cymru

Dywedodd Leisa Williams, sy'n uwch-swyddog addysg yn Amgueddfa Cymru, fod y casgliad cyfan yn "hynod".

"Mae e'n taflu goleuni ar gyfnod o hanes hynod ddiddorol y Tuduriaid," dywedodd.

"Mae e'n agor ffenest ar beth oedd Cymru fel yn ystod y cyfnod, o'r 800 o ddarnau arian ac aur, i'r eitemau personol sy'n berchen i'r morwyr oedd yn llywio'r llong 'ma a wnaeth suddo ar draeth Margam yn 1583.

"Mae'r ceiniogau'n rhoi cipolwg i ni ar fasnach, wedyn sbeisys a defnydd, ond hefyd y clo bach pres sydd wedi ei ddarganfod oedd yn rhan o gist, y'n ni'n meddwl, oedd falle yn dal dogfennau pwysig ar y siwrnai yma oedd y llong 'ma'n gwneud o Sbaen ac yn ôl cyn iddi suddo."

Mae'r casgliad cyfan ar gael i'w weld yn Abertawe tan haf y flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig