Lluniau: Bywyd gwyllt y gwanwyn yng Nghaerdydd a'r Fro

Eiliad anghygoel wrth fod yn dyst i dylluan frech ifanc yn syllu allan o'i gartref, tra fod pobl yn pasio heb ymwybyddiaeth o'r olygfa yn y goeden uwchben
- Cyhoeddwyd
Nid dim ond yng nghefn gwlad Cymru mae bywyd gwyllt yn ffynnu, ond yn ei dinasoedd a'i hardaloedd trefol hefyd.
Y ffotograffydd Gildas Griffiths o'r Barri sydd wedi dal bywyd gwyllt o gwmpas Caerdydd a'r Fro yn ystod tymor y gwanwyn 2026.
Meddai Gildas: "Drwy gysylltu fy niddordeb mewn ffotograffiaeth gyda bywyd gwyllt lleol, rwyf wedi cael y cyfle i ddeall ymddygiad anifeiliaid ac ystyried ein cyfrifoldeb i sicrhau nad ydynt yn cael eu tarfu arnynt.
"Rwy'n credu bod fy nelweddau yn dal prydferthwch, yr heriau maent yn wynebu gan godi ymwybyddiaeth o'r hyn sydd yn byw o'n cwmpas, sydd yn aml yn mynd yn ddisylw.
"Mae'n cymryd amser, amynedd ac ymdrech i ddal y delweddau yma, gan ystyried cyfnod bregus ac heriol iddynt. Dydw i byth yn datgelu lleoliadau'r anifeiliaid yma."

Telor y Cnau yn chwilota am bryd o fwyd ar ddiwrnod oer o'r gwanwyn, yn enwog am ei allu i ddringo lawr coeden

Robin ifanc yn dangos ei frest brown. Mae ei frest brown yn ei ddiogelu rhag ymosodiadau gan adar eraill sy'n ymateb yn ymosodol i'r lliw coch

Cadnawes goch yn hela gyda chodiad yr haul er mwyn bwydo'r cenau bach

Llwynog coch yn hela wrth godiad yr haul

Dau Robin goch yn bwydo ei gilydd yn ystod y cyfnod nythu

Crëyr glas yn prowlan drwy'r brwyn yn chwilio am bryd o fwyd

Hwyaden fach yn darganfod ei ffordd ar hyd y gamlas

Titw tomos las yn mwynhau'r haul wrth chwilio am fwyd

Portread o'r Mulfran

Y wiwer lwyd

Robin goch yng ngolau'r haul

Glas y dorlan yn hela am ysglyfaeth ar hyd y gamlas

Cnocell y coed yn edrych am fwyd yng ngolau'r gwanwyn

Mulfran yn llyncu picell wrth lyn lleol
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2025
