Dyn o Aberfan yn ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o greu 'bom petrol cartref'

heddlu
GanLlion Higham
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Aberfan wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o greu "sylwedd ffrwydrol".

Ymddangosodd Stefan Dale o flaen llys ynadon ym Merthyr ddydd Iau.

Mae'n wynebu cyhuddiad o greu "bom petrol cartref" gyda'r bwriad o "beryglu bywyd/niweidio eiddo" ar 17 Hydref.

Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ac mi fydd yn ymddangos nesaf yn y llys ar 5 Tachwedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig