Burnham i 'wneud cynnig' i Lywodraeth Cymru wrth gwrdd ag ap Iorwerth

Bydd Rhun ap Iorwerth yn cwrdd ag Andy Burnham yng Nglasgow yn ddiweddarach
- Cyhoeddwyd
Mae gan Brif Weinidog y DU "gyfle" ddydd Gwener i ddangos ei fod "o ddifrif ynglŷn â gwrando ar anghenion Cymru", yn ôl Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth.
Bydd ap Iorwerth, ynghyd â Phrif Weinidog yr Alban John Swinney, yn cyfarfod ag Andy Burnham yng Nglasgow yn ddiweddarach.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn "tybio" bod Burnham yn "cadw rhywbeth yn ôl" yn dilyn cyllideb gan Lywodraeth y DU lle'r oedd "cyn lleied o sôn am Gymru".
Dywedodd Burnham y byddai'n "gwneud cynnig" i lywodraeth pob un o'r cenhedloedd yng nghyfarfod dydd Gwener.
Beth nesaf ar ôl y Gyllideb?
Yn y Gyllideb ddydd Mercher, addawyd £450m ychwanegol i Gymru dros y tair blynedd nesaf, yn ogystal â chyllid ar gyfer prosiectau unigol.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn feirniadol iawn o gynlluniau gwario'r Canghellor, gan honni bod yr arian ychwanegol a addawyd yn golygu y bydd toriad yn nhermau real i'w chyllid ei hun.
Mae addewid o £30m ar gyfer gorsaf reilffordd newydd yng Nghaerdydd hefyd wedi'i ddisgrifio fel "sarhad" gan weinidog trafnidiaeth Cymru, ar ôl i Lywodraeth Cymru alw am wario £1bn ar seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Roedd gweinidogion Cymru hefyd wedi galw am newidiadau i'r rheolau benthyca, ac am sicrwydd na fyddai'r taliadau tlodi plant y maent am eu cyflwyno yn effeithio ar dreth na budd-daliadau'r rhai sy'n eu derbyn.
Ni chafodd yr un o'r pethau hyn sylw yn y gyllideb, er bod Ysgrifennydd Cymru Stephen Kinnock wedi dweud bod trafodaethau "cadarnhaol" yn parhau ynghylch y taliadau tlodi plant.
'Cadw rhywbeth yn ôl?'
Wrth siarad â BBC Cymru ar ei daith i Glasgow ddydd Iau, dywedodd ap Iorwerth ei fod "prin yn gallu cofio" cyllideb lle'r oedd "cyn lleied o sôn am Gymru".
"Mae'n rhaid i mi dybio bod y prif weinidog yn cadw rhywbeth yn ôl, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed beth sydd ganddo i'w ddweud [ddydd Gwener].
"Does gen i amheuaeth o gwbl y bydd pobl wedi bod yn siomedig wrth wrando ar gyllideb y DU yr wythnos hon.
"Bydd pobl yn dod i'r casgliad nad yw Llywodraeth y DU yn trin Cymru yn deg.
"Mae gennym gyfle yng Nglasgow yr wythnos hon i Lywodraeth y DU a'r prif weinidog newydd ddangos eu bod o ddifrif ynglŷn â gwrando ar anghenion Cymru."

Mae plaid y DUP wedi rhwystro Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O'Neill, rhag mynychu'r uwchgynhadledd economaidd
Roedd disgwyl i Brif Weinidog y DU a holl arweinwyr y cenhedloedd datganoledig fynychu cyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol ddydd Gwener.
Fodd bynnag, daeth i'r amlwg ddydd Iau na fyddai Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn bresennol, ar ôl i'r Dirprwy Brif Weinidog wrthwynebu hynny.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n codi mater annibyniaeth i Gymru yn y cyfarfod, dywedodd ap Iorwerth: "Mae hyn yn ymwneud â chreu dyfodol llewyrchus i Gymru."
"Mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â'r materion sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd fel llywodraeth – materion yn ymwneud â chyllid teg, a'r pwerau sydd eu hangen arnom i wella bywydau pobl yng Nghymru.
"Dyna'r materion y byddaf yn eu trafod gyda Llywodraeth y DU yn y cyfarfod hwn."
Cyllideb 2026: £100 i helpu gyda biliau ynni aelwydydd ond dadlau am gyllid i Gymru
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
£30m ar gyfer rheilffyrdd yn 'ganran fach iawn o'r hyn sydd ei angen'
- Cyhoeddwyd16 awr yn ôl
Burnham yn 'agored i'r sgwrs' am ddatganoli plismona i Gymru
- Cyhoeddwyd27 Awst
Ers iddo ddod yn Brif Weinidog y DU, mae Andy Burnham wedi siarad yn gyson o blaid datganoli.
Mae wedi dweud ei fod yn "agored i'r sgwrs" am drosglwyddo pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru, ac yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd ei fod yn "barod i wneud cynnig" ynghylch datganoli cymorth cyflogaeth.
Cyn y cyfarfod, dywedodd y bydd yn "gwneud cynnig" i lywodraeth pob un o'r cenhedloedd ddydd Gwener.
"Rhowch wleidyddiaeth o'r neilltu a gweithiwch mewn partneriaeth â llywodraeth y DU i ddatblygu modelau o rymuso rhanbarthol, sy'n sicrhau bod cymunedau yn gallu defnyddio eu cryfderau eu hunain i wireddu eu potensial.
"Dyma gam nesaf datganoli. Gyda'n gilydd, does dim terfyn ar yr hyn y gallwn ei gyflawni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.