Burnham i alw uwchgynhadledd prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Andy BurnhamFfynhonnell y llun, Reuters
  • Cyhoeddwyd

Bydd prif weinidog y DU yn dod â phrif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ynghyd yn yr hydref ar gyfer uwchgynhadledd.

Gwnaeth Andy Burnham y cyhoeddiad cyn ymweliad â de Cymru ddydd Iau - ei ymweliad swyddogol cyntaf â'r wlad ers iddo gymryd yr awenau yn Llywodraeth y DU.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur ei fod eisiau i "bob arweinydd yn y wlad hon ymrwymo" i gael "swyddi da ym mhob cymuned".

Dywedodd Downing Street y byddai'r prif weinidog yn defnyddio cyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol ym mis Hydref i drafod yr economi gyda phrif weinidogion Cymru a'r Alban, a phrif weinidog a dirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon.

Cymerodd cyn-faer Manceinion, Burnham, yr awenau oddi wrth Syr Keir Starmer ym mis Gorffennaf, ar ôl ennill isetholiad Makerfield.

Mae Burnham yn ymweld â lleoliad yn ne Cymru fel rhan o daith wrando.

Dywedodd ei lefarydd y bydd yn siarad â gweithwyr a phrentisiaid Cymru am "ail-ddiwydiannu, swyddi a chostau byw".

Bydd Burnham yn dweud ei fod yn ne Cymru "oherwydd na fydd yr atebion i heriau'r DU yn dod o siambr adlais [echo chamber]".

"Byddant yn dod o'r lleoedd sy'n gwybod eu cryfderau eu hunain, a gan lywodraeth sy'n barod i wrando a gweithredu.

"Swyddi da ym mhob cymuned, ym mhob rhan o'r DU. Dyna beth dwi am i bob arweinydd yn y wlad hon gytuno arno."

'Annhegwch' taliadau sefydlog ynni

Bydd Burnham yn cwrdd â dirprwy brif weinidog Llywodraeth Cymru, Sioned Williams, yn ystod yr ymweliad ddydd Iau.

Dywedodd Williams ei bod yn "enghraifft gadarnhaol o lywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd i wella bywydau pobl".

Bydd hi'n galw am "gyfran deg o gronfa ddur Llywodraeth y DU i gefnogi gweithwyr a chymunedau", "tariff ynni cymdeithasol i gefnogi'r rhai sy'n wynebu tlodi tanwydd ac sy'n cael trafferth gyda biliau ynni uchel" ac am "fynd i'r afael â'r annhegwch hirsefydlog" o ran taliadau sefydlog ar gyfer ynni.

Ychwanegodd: "Mae Cymru yn genedl sy'n gyfoethog o ran ynni. Dylai pobl weld hynny'n cael ei adlewyrchu mewn swyddi da, cymunedau cryfach a biliau is."

Crëwyd y Cyngor Economaidd Cenedlaethol gan weinyddiaeth Gordon Brown yn 2008, ac mae wedi cael ei adfywio gan Burnham.

Daeth cyfarfod blaenorol â gweinidogion y llywodraeth a meiri awdurdodau lleol Lloegr ynghyd.

Mae Plaid Cymru wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i gynnal trafodaethau ynghylch mwy o bwerau a chyllid i Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cafodd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth ei gyfarfod cyntaf â Burnham ar ymylon Gemau'r Gymanwlad Glasgow ym mis Gorffennaf.

Ar y pryd, dywedodd ap Iorwerth ei fod yn "rhy gynnar" i wybod a fyddai prif weinidog newydd y Blaid Lafur yn cytuno i'w alwadau.

Dywedodd llefarydd Burnham ar y pryd ei fod "eisiau trafodaeth agored a pharhaus gyda'r prif weinidog ar y materion sydd bwysicaf ar draws Cymru".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.