Rhun ap Iorwerth yn annog Burnham i 'weithredu' ar fwy o ddatganoli

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth ac Andy Burnham siarad â'i gilydd fore Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidog Cymru wedi annog Andy Burnham i "droi ei ymrwymiad i ddatganoli yn weithredu" ac wedi mynegi gobaith o feithrin "berthynas bositif ac adeiladol" gyda llywodraeth newydd y DU.
Yn ei alwad gyntaf gyda phrif weinidog newydd y DU, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth ei annog i roi pwerau dros blismona, cyfiawnder, rheilffyrdd ac Ystâd y Goron i Gymru.
Dywedodd Downing Street fod prif weinidog y DU wedi siarad ag arweinwyr Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, a'i fod eisiau perthynas "gydweithredol, ymarferol a phragmataidd" gyda'r gweinyddiaethau datganoledig.
Dywedodd llefarydd y gallai cydweithio agosach helpu i gyflawni "datganoli dyfnach" a hybu twf economaidd.
Mae prif weinidog y DU yn canolbwyntio ar "fesurau ymarferol, nid newidiadau cyfansoddiadol fel refferenda pellach", ychwanegodd y llefarydd, ac yn edrych ymlaen at gyfarfod â'r arweinwyr datganoledig ac ymweld â Chymru yn fuan.

Mae Ystâd y Goron yn berchen ar 65% o wely'r môr o amgylch yr arfordir
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Rwy'n falch o longyfarch y prif weinidog mewn sgwrs bore 'ma ac i nodi fy ngobaith y gallwn feithrin perthynas bositif ac adeiladol.
"Mi wnes ei annog i droi ei ymrwymiad i ddatganoli yn weithredu, a grymuso Cymru hefo'r pwerau i gryfhau ein cymunedau ym meysydd plismona a chyfiawnder, Ystadau'r Goron, rheilffyrdd a chyllido.
"Nodais hefyd fy awydd i gydweithio er mwyn taclo'r argyfwng costau byw.
"Edrychaf ymlaen at gyfarfod yn fuan iawn fel y gallaf ddechrau trafodaethau o ddifri' ar ran pobl Cymru."
Y Brenin sy'n berchen ar Ystâd y Goron, ac mae'n helpu ariannu'r Teulu Brenhinol.
Mae gan yr ystâd dir sydd gwerth dros £603m yng Nghymru, gan gynnwys 65% o wely'r môr o amgylch yr arfordir.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2025
