Andy Burnham wedi ei benodi'n Brif Weinidog newydd y DU
Ein gohebydd Catrin Haf Jones sy'n bwrw golwg ar addewidion cyntaf Andy Burnham
- Cyhoeddwyd
Mae Andy Burnham wedi cael ei benodi'n swyddogol yn Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig.
Mae'n olynu Syr Keir Starmer, a ymddiswyddodd fis diwethaf yn dilyn wythnosau o bwysau arno i fynd yn sgil perfformiad siomedig Llafur yn etholiadau Cymru a'r Alban ac yn etholiadau lleol Lloegr.
Cyn-faer Manceinion oedd yr unig ymgeisydd yn yr ornest i'w olynu fel arweinydd y Blaid Lafur - mae e wedi dychwelyd i San Steffan wedi bwlch o naw mlynedd ar ôl buddugoliaeth swmpus yn is-etholiad Makerfield.
Roedd yn anorfod felly, wedi iddo sicrhau'r arweinyddiaeth yn ddiwrthwynebiad ddydd Gwener gyda chefnogaeth o 379 o Aelodau Seneddol Llafur, mai ef fyddai preswylydd nesaf 10 Downing Street o ddydd Llun ymlaen.
Mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi ei longyfarch, gan obeithio am gyfarfod cynnar i drafod rhoi'r "pwerau angenrheidiol i Gymru i dyfu'r economi ac adeiladu dyfodol tecach, mwy ffyniannus i bawb".

Andy Burnham yn ysgwyd llaw â'r Brenin Charles ym Mhalas Buckingham
Yn ei anerchiad cyntaf fel Prif Weinidog, dywedodd Burnham y bydd yn rhoi help i bobl gyda chostau byw fel rhan o fodel economaidd a gwleidyddol newydd, ac yn mynd ati yn syth i roi diwedd ar gysgu ar y stryd.
Cyfeiriodd at ei awydd i ddatganoli mwy o bwerau o San Steffan "i bob cod post trwy'r wlad, fel eu bod yn gallu gwneud mwy".
Mae'n dweud y bydd yn dychwelyd gwasnaethau hanfodol i reolaeth gyhoeddus i'w gwneud yn fwy fforddiadwy, ac yn cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn gynllun 10-mlynedd ar gyfer Prydain gan amlinellu'r ffordd at roi'r wlad "lle 'dan ni oll am iddi fod".
Dywedodd hefyd y bydd "gofal am bobl wrth galon popeth rwy'n ei wneud".
Gan gyfeirio at y ffaith mae ef yw seithfed prif weinidog y DU ers 2016, dywedodd ei fod yn cydnabod bod gwleidyddiaeth wedi diflasu pobl.
"Rwy'n eich clywed," meddai. "Dydan ni heb fod yn ddigon da ac mae angen i ni fod yn well. Mi fyddan ni."
Andy Burnham yn Rhif 10 - beth mae'n ei olygu i Gymru?
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
'Cyfle am ddechrau newydd' rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
Mewn anerchiad byr yn Downing Street cyn mynd i Balas Buckingham i gyflwyno ei ymddiswyddiad ffurfiol i'r Brenin, dywedodd Syr Keir Starmer ei fod yn gadael ei swydd "gyda gras, gyda gwên ac yn falch o bopeth rydym wedi ei gyflawni".
Disgrifiodd ei gyfnod fel prif weinidog yn "fraint fy mywyd" a dywedodd ei fod yn obeithiol bod y DU "yn gryfach ac yn decach" na phan gyrhaeddodd Downing Street ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd ei fod nawr yn trosglwyddo'r awenau i Andy Burnham.
"Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddo. Rwy'n ei gefnogi'n llwyr."

Fe wnaeth Syr Keir Starmer anerchiad byr yn Downing Street cyn teithio i Balas Buckingham i gyflwyno ei ymddiswyddiad ffurfiol i'r Brenin
Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Dafydd Rees: "Mae'n teimlo fel cyfnod newydd, ond peidiwch anghofio - hwn yw'r cyfle ola' i Lafur.
"Mae'n rhaid i hwn weithio a mae'n rhaid i Andy Burnham 'neud gwahaniaeth yn gloi iawn.
"Dan ni'n clywed gan bob gwleidydd am bwysigrwydd y 100 diwrnod cynta - rwy'n credu bod tamaid bach o amser gan Andy Burnham, ond dim gymaint â hynny.
"Dan ni'n gymdeithas sy'n disgwyl newid - 'dan ni eisie gweld gwahaniaeth."
Hefyd ar Dros Frecwast, dywedodd AS Llafur Llanelli, Nia Griffith y bydd "yn falch iawn" o weld Andy Burnham yn 10 Downing Street er mwyn cael dechrau "canolbwyntio ar be' sy'n mynd i helpu pobol fwyaf".
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd - mae pawb yn cydnabod hyn.... Fi'n gobeithio nawr bydd e'n cael cyfres dda o bobol o bob rhan o'r blaid yn ei gabinet i sicrhau bod ni'n cael y rhaglen orau."
Galw ar Andy Burnham i 'weithredu'n wahanol i'w ragflaenwyr' ar ddatganoli
- Cyhoeddwyd29 Mehefin
Burnham 'ddim yn bwriadu diwygio' fformiwla ariannu Cymru
- Cyhoeddwyd25 Mehefin
Gan longyfarch Andy Burnham, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth bod ei benodiad yn "gyfle i ailddiffinio'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU".
Dywedodd ei fod yn "barod i gychwyn gyda dalen lân efo prif weinidog sydd yn dod o gefndir o ddeall datganoli" gan ddisgrifio amser Keir Starmer mewn grym fel cyfnod o "ddifaterwch".
Ond fe bwysleisiodd Rhun ap Iorwerth nad yw dealltwriaeth o Fanceinion "yn trosi i ddealltwriaeth o Gymru" a bod cwestiynau wedi codi yn ddiweddar ynglŷn ag a ydy Andy Burnham "go iawn yn deall be 'di sefyllfa Cymru".
"Dwi'n gwybod bod Andy Burnham yn rhannu fy nghred yng ngrym datganoli i wella bywydau'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu.
"Yn yr ysbryd hwnnw, dwi'n gobeithio y gallwn ni rannu'r un ymrwymiad o ran datganoli pwerau o San Steffan trwy gryfhau, yn hytrach nag osgoi, senedd genedlaethol Cymru a'i gallu i rymuso pobl a chymunedau.
"Dwi'n edrych ymlaen at gyfarfod cynnar hefo'r Prif Weinidog newydd i gytuno sut y gallwn ni roi'r pwerau angenrheidiol i Gymru i dyfu'r economi ac adeiladu dyfodol tecach, mwy ffyniannus i bawb."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin

- Cyhoeddwyd22 Mehefin
