Andy Burnham yn Rhif 10 - beth mae'n ei olygu i Gymru?

Mae disgwyl i Andy Burnham gael ei benodi'n brif weinidog y DU ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae Andy Burnham wedi cael ei gadarnhau fel arweinydd newydd y Blaid Lafur.
Bydd yn dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ddydd Llun, sy'n codi'r cwestiwn: beth allai hynny ei olygu i Gymru?
Efallai bod cliwiau mewn llyfr ysgrifennodd Burnham yn 2024 - cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf ag yntau'n faer ar ardal Manceinion ar y pryd.
Ar dudalennau 'Head North' mae Burnham yn gofyn i'r darllenwr ddychmygu hen blasty ble mae'r system drydanol wedi gweld dyddiau gwell.
Mae'r goleuadau'n gweithio'n dda yn y parlwr, meddai, gan ofyn i'r darllenwr feddwl am y gofod hwn fel Llundain.
Yn y brif ystafell wely - sy'n cynrychioli'r Alban - mae nam ar y goleuadau ond maen nhw'n gweithio.
Ac yna mae dwy stafell wely llai ble mae'r golau'n "llawer gwannach". Dyma Gymru a Gogledd Iwerddon.
'Ailwefru'r wlad'
Yn y llyfr mae Burnham, ynghyd â maer ardal Lerpwl Steve Rotheram, yn amlinellu cynllun ar gyfer "ailwefru'r wlad" drwy dynnu pŵer allan o San Steffan a'i osod yn nwylo pobl ar draws y Deyrnas Unedig.
Allwn ni ddisgwyl felly i weld mwy o rymoedd yn dod i Gymru, a newid agwedd o gymharu â llywodraeth Syr Keir Starmer?
Mae'r aelod Llafur o Senedd Cymru, Huw Thomas "yn sicr yn disgwyl hynny".
Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, mae Syr Keir wedi wynebu cyhuddiadau o danseilio datganoli ac anwybyddu galwadau am fwy o bwerau i gael eu trosglwyddo i Gymru, gyda hynny'n arwain at densiynau amlwg ar adegau o fewn Llafur.
Ysgrifennodd sawl AS Llafur ym Mae Caerdydd at Syr Keir y llynedd i fynegi eu rhwystredigaeth.
"Mae Andy wedi deall datganoli ac mae e wedi profi ei hun rhai o'r rhwystredigaethau o ddelio gyda'r system yn San Steffan ac yn Whitehall," medd Thomas.
"Dwi'n gobeithio fydd e ddim just yn fater o ddatganoli grymoedd a phwerau ariannol lawr i Gymru, ond hefyd pweru rhanbarthau Cymru."
Yn ei araith gyntaf fel arweinydd y Blaid Lafur, dywedodd Burnham y byddai'n arweinydd "i'r gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin, yn ogystal â'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon", gan addo rhoi llais i bob rhan o'r Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd fod ei lywodraeth yn bwriadu datganoli mwy o bŵer o San Steffan a Whitehall i gymunedau lleol ledled y DU.
Mewn araith ym Manceinion yn ddiweddar dywedodd Burnham hefyd y byddai ei lywodraeth yn datganoli mwy i Gymru, ond hefyd o fewn i Gymru gyda "phobl ym Mangor... yn teimlo yr un mor bell o'r Senedd ac y maen nhw o San Steffan".

Daeth Andy Burnham i ymgyrchu gyda Huw Thomas cyn etholiad y Senedd
Yn ei swydd fel gweinidog y cyfansoddiad, bydd yn rhaid i Dafydd Trystan Davies ymwneud â llywodraeth Andy Burnham yn rheolaidd.
Mae'r newid arweinydd yn San Steffan yn "gyfle am ddechrau newydd", meddai.
"Mae Andy Burnham gyda phrofiad clir o ddatganoli ym Manceinion.
"Mae e wedi ymrwymo i ddatganoli a felly byddwn ni'n gobeithio yn fawr iawn bydd e'n parchu Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru."
Pan ddaw hi at ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru am weld grymoedd dros faterion megis plismona a chyfiawnder, ystâd y goron a darlledu yn dod i Gymru, yn ogystal â newidiadau i'r modd caiff Cymru ei hariannu gan San Steffan.
Yn 'Head North' mae Burnham yn dadlau bod angen diwygio fformiwla Barnett - y dull o benderfynu ar lefelau gwariant ar draws y DU.
Ac eto wrth iddo baratoi i symud i Rif 10 mae ei dîm yn dweud nad oes cynlluniau i wneud hynny.
Galw ar Andy Burnham i 'weithredu'n wahanol i'w ragflaenwyr' ar ddatganoli
- Cyhoeddwyd29 Mehefin
Rhun ap Iorwerth yn galw ar Andy Burnham i rymuso'r Senedd
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Fformiwla Barnett - y dull dadleuol o ariannu Cymru sy'n 'amhosib' cael gwared arno
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Yn ôl Cathy Owens, oedd yn ymgynghorydd arbennig i Brif Weinidog Cymru ar y pryd, Rhodri Morgan, nid diwygio fformiwla Barnett sy'n bwysig ond yn hytrach "ble mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am sut mae arian yn cael ei wario'n lleol".
Mae Owens, sydd nawr yn gyfarwyddwr gyda chwmni materion cyhoeddus Cavendish, yn credu bydd gweledigaeth Burnham "yn gyfarwydd" i bobl Cymru.
"Mae'n debyg iawn i beth mae Llafur Cymru wedi bod yn ei drafod ers chwarter canrif a'i droi i fewn i bolisi fan hyn.
"Roedd Rhodri Morgan a Mark Drakeford a Carwyn Jones yn trafod yr un peth - ffocysu ar gael cymunedau cryf a gwasanaethau lleol cryf iawn... wastad tamaid bach i'r chwith o beth oedd yn digwydd yn Llundain gyda'r Blaid Lafur a lot mwy i'r chwith o gymharu â'r Torïaid wrth gwrs.
"Mae hwn yn adlewyrchu 100 mlynedd o draddodiad Llafur Cymru," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.