Pwy oedd y pedwar arall yng 'nghysgodion' Tri Penyberth?

DJ Williams, Saunders Lewis, Lewis ValentineFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'n 90 mlynedd i'r diwrnod ers i Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams gynnau tân bwriadol ar safle ysgol fomio oedd yn cael ei hadeiladu ym Mhenyberth ger Pwllheli.

Roedden nhw'n gwrthwynebu cynlluniau'r Llu Awyr Brenhinol i sefydlu ysgol fomio ym Mhen Llŷn. I nifer, mae'r brotest ym Mhenyberth yn cael ei hystyried yn un o ddigwyddiadau hanesyddol mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif yng Nghymru.

Mewn podlediad newydd mae Aled Hughes a'r hanesydd Dr Mari Wiliam yn olrhain yr hanes gan ddysgu mwy am y safle, cyd-destun y cyfnod a'r hollti barn sylweddol a wnaeth ddilyn y drosedd.

Cofgolofn Penyberth
Disgrifiad o’r llun,

Mae cofgolofn i 'Dri Penyberth' ger y tŷ heb fod ymhell o Benrhos yn Llŷn a thua dwy filltir o Bwllheli ar yr A499

Bwriad sefydlu ysgol fomio ar y safle oedd cyfrannu tuag at baratoadau Prydain ar gyfer rhyfel bosibl.

I nifer o Gymry roedd hwn yn safle o bwys yn hanes llenyddol a diwyllianol Pen-Llŷn.

Er gwaethaf misoedd o brotestiadau a deisebau yn erbyn y datblygiad, parhaodd y llywodraeth â'r cynllun.

Meddai Dr Mari William: "Mi oedd yna gynllunio penodol. Mae'n rhaid i ni gofio, roedd gan Saunders Lewis brofiad milwrol helaeth.

"Mi oedd o'n mynd i ysgol freintiedig iawn yng Nghilgwri, lle oedd o'n rhan o grwpiau milwrol i fechgyn.

"Mi oedd o'n bod yn lieutenant - yn swyddog - yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, lle cafodd ei frifo yn ddrwg. Mi oedd o'n berson milwriaethus," meddai.

Ar ôl cynnau'r tân fe aeth Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams i'r orsaf heddlu ym Mhwllheli a chyfaddef eu trosedd gan gyflwyno llythyr i'r Prif Uwch Arolygydd yno. Ond nid y tri yma oedd yr unig rai a oedd yn rhan o'r cynllun.

Dr Mari Wiliam sy'n egluro pwy oedd yr unigolion eraill:

Robin Richards a Victor Hampson-Jones

Roedd Robin Richards yn ei ugeiniau hwyr neu ei dridegau cynnar ar y pryd, ac roedd yn ffermio tyddyn i lawr ym Mro Morgannwg. Roedd o'n aelod pybyr o Blaid Cymru ac roedd ei dad o'n dod o Ynys Môn yn wreiddiol.

Roedd o wedi cael magwraeth freintiedig, gan dderbyn ei addysg mewn ysgol fonedd.

Roedd o, yn yr un modd ag oedd Saunders Lewis, ar fin dod yn Babydd. Fe fyddai efo'r syniad o Ben Llŷn fel rhywle sanctaidd â gwreiddiau yn yr Oesoedd Canol. Yr Oesoedd Canol oedd yr oes aur i Babyddion; oes y Pab ac oes lle roedd rhyddid i wladwriaethau gwahanol heb ymyrraeth Eglwys Lloegr.

Roedd ganddo'r un credoau â Saunders Lewis na ddylai ysgol fomio fod yn gweithredu na chwaith yn bodoli ym Mhen Llŷn.

Daeth Victor Hampson-Jones a Robin Richards gyda'i gilydd yn y car i Benyberth.

Roedd Victor Hampson-Jones yn Athro ac yn ddiweddarach yn ei fywyd fe oedd un o sylfaenwyr UCAC ac roedd ganddo hefyd ddiddordeb mewn Catholigiaeth.

Roedd y ddau yn aelodau ifanc o Blaid Cymru.

Owen Morris Roberts

O M RobertsFfynhonnell y llun, Lluniau Gareth Pritchard

Owen Morris Roberts neu O.M. Roberts oedd un o'r rhain. Roedd ef hefyd yn athro ifanc ar y pryd ac roedd yn byw yn Llanwnda ar gyrion tref Caernarfon.

Cafodd ei fagu yn Llanrug ac roedd yntau hefyd yn aelod pybyr iawn o Blaid Cymru ers ei ddyddiau yn y Coleg ym Mangor.

Roedd gan O.M. Roberts wybodaeth leol i alluogi'r cynllwyn i fynd yn ei flaen.

Roedd yn cynghori'r prif dri a gafodd eu cyhuddo ynglŷn â'r ardal anghysbell, a oedd yn gwbl ddieithr iddyn nhw mewn gwirionedd.

Er na chafodd ei garcharu am ei rôl yn y weithred, fe gafodd y digwyddiad effaith arno'n gymdeithasol.

John Edward Jones

John Edward JonesFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

Roedd J.E. Jones hefyd yn athro ac roedd yntau wedi treulio amser i ffwrdd yn dysgu yn Lloegr, oedd o bosib wedi rhoi persbectif gwahanol iddo ar Gymru.

Fe sefydlodd gangen o Blaid Cymru yn Llundain ac mae hon yn dod y gangen fwyaf oedd gan Blaid Cymru ar ddiwedd y 20au.

Yn fuan iawn mae J.E. Jones yn cael ei weld fel rhywun oedd â sgiliau trefnu arbennig o dda, ac yn 1930 mae o'n cael ei benodi fel trefnydd neu ysgrifennydd cyntaf Plaid Cymru.

Mae J.E. Jones yn ffigwr arwyddocaol iawn, nid dim ond yn hanes yr ysgol fomio ond wrth gwrs yn hanes Plaid Cymru.

O ran ei sgiliau trefnu, dyma wnaeth ei wneud mor arwyddocaol. Yn aml tydyn ni ddim yn talu digon o sylw i bobl oedd yn trefnu, ac oedd yn gwneud y gwaith caib a rhaw, a dyna be' wnaeth JE Jones.

Mae'n gwestiwn a fyddai Plaid Cymru wedi tyfu fel y gwnaeth heb ei gyfraniad o.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig