Dathlu 80 mlynedd o gefnogi Wrecsam

Elwyn gyda'i fab, Iwan
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi gweld cryn dipyn o newid dros y blynyddoedd diweddar, gyda llwyddiannau ar y cae a pherchnogion enwog oddi ar y cae.
Ond rhywun sydd wedi gweld y cyfan ar y Cae Ras dros gyfnod o 80 tymor yw Elwyn Roberts o'r Wyddgrug.
Mae Elwyn wedi bod yn dilyn y cochion ers 1946, ac fe roedd yn trafod ei gariad at y clwb ar raglen Ar y Marc ar BBC Radio Cymru.

Elwyn gyda'i fab, Iwan, a'i ffrindiau
"Dwi ddim yn cofio yn erbyn pwy oedd y gêm gyntaf i mi weld," meddai Elwyn, "ond mynd yno efo brawd hynaf fy mam 'nes i, Yncl George.
"Ffermwr oedd fy nhad a doedd ganddo fo ddim lot o ddiddordeb mewn pêl-droed, bocsio oedd o'n ei hoffi.
"Felly oedd Yncl George yn mynd â fi, a dwi'n cofio mynd i'r Cae Ras pan oedd o'n costio naw ceiniog i fynd i mewn i'r cae.
"A'th Yncl George â fi i'r boys pen (man yn y stadiwm i hogiau a phlant iau) yng nghornel y stadiwm, ac yn fanno oedd yr hen ystafelloedd newid.
"Dwi'n cofio'n glir - doedd y chwaraewyr ddim yn dod allan cyn y gêm i gynhesu fyny, ond pan oedden nhw'n rhedeg dwi'n cofio'r hogla' o embrocation (hylif i ryddhau'r cyhyrau), ac mi alla i ogleuo hwnna hyd heddiw!"
Tîm o fechgyn lleol
Felly, sut dîm oedd gan Wrecsam yn y cyfnod cynnar 'na?
"O'dd genna nhw dîm eithaf da, efo lot o fois lleol yn chwarae iddyn nhw. O'dd 'na foi o'r Wyddgrug o'r enw Gib Bellis oedd yn trafeilio 'nôl a 'mlaen i Wrecsam ar y bws Crosville.
"Roedd 'na rai o'r chwaraewyr yn gweithio yn y pyllau glo o gwmpas Wrecsam, fel yn Hafod neu Llai."
Aeth Elwyn i astudio yn y coleg ond roedd yn parhau'n driw i Wrecsam.
"Pan o'n i'n dod adra ar wyliau o'r coleg byddwn i, wrth gwrs, yn mynd i weld Wrecsam yn chwarae.
"Mae Jane y wraig yn argyhoeddedig ei fod yn rhan o fy nghyfansoddiad i, a dwi 'di pasio hyn ymlaen i Iwan a Lowri y plant – y mab a'r ferch, er bod nhw'n byw yng Nghaerdydd, maen nhw'n gefnogwyr brwd."

Y Cae Ras yn 1976, cyn codi adeiladau'r brifysgol wrth ei ochr
Wrth drafod y timau gorau a welodd Wrecsam dros y blynyddoedd, mae un tymor yn amlygu ei hun i Elwyn.
"Dwi'n meddwl mai'r tîm 'nes i fwynhau fwya' oedd tîm 1977/78, pan aethon ni fyny i'r Ail Adran (y Bencampwriaeth heddiw) – tîm Arfon Griffiths.
"'Nath Arfon Griffiths arwyddo tri chwaraewr ar ôl i ni fethu y tymor cynt - Dixie McNeil, Les Cartwright a Dai Davies, ac aethon ni fyny.
"Dwi'n cofio'r gêm yn glir pan nathon ni guro Rotherham 7-1 ar y Cae Ras i sicrhau dyrchafiad i'r Ail Adran."
Hoff chwaraewyr Wrecsam
Pwy yw hoff chwaraewr Elwyn i erioed wisgo crys coch Wrecsam?
"Mae gen i ddau i fod yn onest. Arfon Griffiths a oedd yn chwaraewr arbennig iawn – fe aeth i Arsenal am flwyddyn ac yna dod 'nôl i Wrecsam, a hefyd chwarae dros Gymru wrth gwrs.
"A'r ail un wrth gwrs ydy'r anfarwol Joey Jones."

Arfon Griffiths a Joey Jones - dau o arwyr Elwyn ar y Cae Ras
Ac eithrio'r fuddugoliaeth 7-1 yn erbyn Rotherham, un o'r gemau mwyaf cofiadwy i Elwyn oedd gweld tîm Manchester United yn ennill yno yng Nghwpan FA Lloegr yn 1957.
"Roedd y tîm yna, y 'Busby Babes', yn cynnwys Tommy Taylor, Roger Byrne a'r anfarwol Duncan Edwards – roedd o'n gawr o chwaraewr.
"Roedd hwnna'n brofiad arbennig, ac wrth gwrs blwyddyn yn ddiweddarach roedd trychineb Munich."

Y Cae Ras eleni, sy'n ganol cael ei thrawsnewid gyda eisteddle Kop newydd yn cael ei hadeiladu
Wrth gwrs, yn gymharol ddiweddar fe roedd 'na ddyddiau tywyll iawn i Wrecsam, gyda phroblemau ariannol mawr a 15 tymor yn chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol.
"O'n i'n dod adra o'r gemau a Jane yn wraig yn gofyn 'wyt ti am fynd eto?', gyda fi'n deud 'na'. Ond wedyn daeth un o'r gloch y prynhawn dydd Sadwrn canlynol a dyna ble o'n i'n mynd drwy'r drws i fynd eto.
"Ar un adeg oedd 'na 10 ohonan ni'n mynd yn gyson o'r Wyddgrug, ond 'dan ni lawr i bedwar rŵan."
Cyfnod Rob a Ryan
Ond yn 2021 wrth gwrs daeth un o straeon mwya'r byd pêl-droed, gyda'r sêr Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn prynu'r clwb.
"Dwi yn gofyn y cwestiwn o hyd ac o hyd – pam dewis Wrecsam?" meddai Elwyn.
"Mae'n anhygoel be sydd 'di digwydd i'r clwb dros y bum mlynedd diwethaf.
"Nid yn unig bo' nhw ynghlwm a'r clwb, ond maen nhw 'di cyfrannu gymaint i'r ardal a oedd angen gymaint o hwb – y dref ei hun yn enwedig.
"Dwi'n gallu gweld ni'n mynd ymlaen dros y bum mlynedd diwethaf a chyrraedd y Premiership."

Elwyn gyda chrys wedi ei harwyddo gan y garfan gyfan i gydnabod ei gefnogaeth dros 80 tymor
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Chwefror

- Cyhoeddwyd25 Mehefin

- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2025
