Ateb y Galw: Maryam Khan

Cyflwynydd newydd Newyddion Ni - Maryam KhanFfynhonnell y llun, Maryam Khan
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynydd newydd 'Newyddion Ni' ar S4C - Maryam Khan

  • Cyhoeddwyd

Dydd Mercher diwethaf fe gychwynnodd gyfres newydd o'r rhaglen newyddion i bobl ifanc 'Newyddion Ni' ar S4C, a hynny gyda chyflwynydd newydd.

Bydd Maryam Khan o Gaerdydd yn cyflwyno'r rhaglen bob nos Lun, Fercher a Gwener am 17:45.

Beth am i ni ddysgu ychydig mwy amdani wrth iddi Ateb y Galw yr wythnos hon?

Beth yw dy atgof cyntaf?

Colli fy nannedd! Ro'n i'n ffodus iawn bod y Tylwyth Teg wedi galw heibio nid yn unig i adael arian i fi, ond ges i nodyn wedi'i ysgrifennu ac ambell anrheg hefyd. Felly mae'n debyg mai dyna pryd dechreuodd fy nghariad at anrhegion!

Ble yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caerdydd. Ges i fy magu yma, es i i'r brifysgol yng Nghaerdydd ac mae'r rhan fwyaf o'm teulu yma hefyd. Felly, er fy mod i wrth fy modd yn teithio a gweld llefydd newydd, Caerdydd fydd wastad gartref i mi.

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Noson gêm Cwpan y Byd yn Qatar - Moroco yn erbyn Portiwgal. Roedd yr awyrgylch yn anhygoel, ac roedd bod yno i weld Moroco yn cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn brofiad fyddai byth yn anghofio. Roedd pawb o gwmpas yn llawn cyffro ac egni. Hefyd, taith mewn hofrennydd heb ddrysau dros Efrog Newydd. Roedd y golygfeydd yn anhygoel.

Roedd gwylio Moroco'n curo Portiwgal yng Nghwpan y Byd 2022 yn brofiad bythgofiadwy i Maryam...Ffynhonnell y llun, Maryam Khan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwylio Moroco'n curo Portiwgal yng Nghwpan y Byd 2022 yn brofiad bythgofiadwy i Maryam...

hofrennydd manhattanFfynhonnell y llun, Maryam Khan
Disgrifiad o’r llun,

...fel oedd hedfan mewn hofrennydd uwchben Manhattan, Efrog Newydd. Dyma'r olygfa wrth i draed Maryam hongian allan drwy'r drws!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Tal, hwylus a brwdfrydig.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Cwympo ar iâ wrth gerdded i mewn i fwyty. Roedd hi'n un o'r eiliadau hynny lle ti'n gwybod yn syth bod rhaid chwerthin yn enwedig pan mae pobl eraill wedi gweld.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

Cerdded yn syth i mewn i ddrws gwydr mewn gorsaf gwasanaethau a thorri fy nant yn ei hanner. Dwi'n meddwl bod hynny'n ddigon i ennill y teitl am y digwyddiad mwyaf embarrassing.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dau ddiwrnod yn ôl.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta gormod o fwyd sothach.

byrgyr a sglodionFfynhonnell y llun, Maryam Khan
Disgrifiad o’r llun,

Blasus!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Un o fy hoff ffilmiau yw Monster House. Roeddwn i arfer ei gwylio pan o'n i'n iau ac, er fy mod i bellach yn hŷn, dwi dal wrth fy modd efo fe. Mae 'na rywbeth am ffilmiau o'ch plentyndod sy'n eich hudo.

Dyweda rhywbeth am dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi wedi sgïo lawr un o'r rhediadau du hiraf yn Ewrop. Dwi ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn disgwyl hynny gen i ond dwi wrth fy modd efo ychydig bach o antur!

Maryam yn sgïoFfynhonnell y llun, Maryam Khan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maryam yn hoff iawn o sgïo!

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Llun o ddiwrnod fy ngraddio. Roedd yna adegau pan o'n i ddim yn meddwl y byddwn i'n cyrraedd yno, ac roedd y cyfnod wedi effeithio'n fawr ar fy iechyd meddwl. Felly mae'r llun yn golygu llawer mwy i mi na dim ond llun o ddiwrnod graddio, mae'n atgof o rywbeth wnes i weithio'n galed iawn i'w gyflawni.

Maryam yn dathlu ar ôl derbyn ei graddFfynhonnell y llun, Maryam Khan
Disgrifiad o’r llun,

Maryam yn dathlu ar ôl derbyn ei gradd

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Peilot. Dwi wastad wedi meddwl ei bod hi'n anhygoel gallu hedfan awyren a theithio i wahanol rannau o'r byd.

golygfa allan o awyrenFfynhonnell y llun, Maryam Khan

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Treulio'r diwrnod cyfan gyda fy nheulu a ffrindiau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: