Ateb y Galw: Elis Derby

- Cyhoeddwyd
Y cerddor ac aelod o'r band Ciwb, Elis Derby, sy'n Ateb y Galw wythnos yma.
A hithau'n Ddiwrnod Recordiau Cymraeg Radio Cymru, mae Elis yn cyflwyno rhaglen arbennig yn edrych ar apêl cerddoriaeth ar feinyl am 19.00 ar BBC Radio Cymru.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Mae gen i gasgliad o atgofion cynnar iawn, ond dim syniad ym mha drefn ddaethon nhw!
Am wn i mai'r un cynharaf fysa bod yn ystafell fyw ein cartref cyntaf, yn ymestyn fy nghoesa i edrych mewn i pram (oedd wedi ei osod yn rhy uchel i mi ar y pryd) a gweld bod 'na fabi bychan iawn y tu mewn iddo.
Dwi'n cofio meddwl bod ganddo fochau coch iawn, ac wrth feddwl nôl, fy mrawd bach, Meredydd, fysa'r babi hwn siŵr o fod! Mae hynny'n dyddio'r atgof i tua 1999.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Mi oedd Nain Llanuwchllyn yn arfer byw mewn ffermdy yn ardal ( ia…you guessed it… ) Llanuwchllyn! Mae'r tŷ ei hun wedi ei leoli yn y bryniau uwchben y pentref ac yn cynnig golygfa fendigedig o Benllyn a'r Aran.
Symudodd Nain i ganol tref Y Bala yn 2003 gan bod y lleoliad rhy ynysig i ddynes oedd yn heneiddio, ond mae gen i atgofion hyfryd o ymweld tra'n hogyn ifanc; crwydro'r caeau, chwarae ar lannau'r ffosydd, a dwn im faint o oriau o wylio hen dapiau Syr Wynff a Plwmsan.
Mi fydda i wastad yn cysylltu'r lle gyda'r diniweidrwydd o fod yn blentyn.

Cafodd Elis (chwith) a'i ffrindiau "noson o ddathlu gwirion" ar ôl i Gymru guro Gwlad Belg yn Euros 2016
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Noson allan yn Budapest ar ddiwedd fy arddegau yn un sy'n dod i'r meddwl. Adeg Euro 2016 oedd hi, a mi aethon allan fel criw i wylio'r quarter final yn erbyn Gwlad Belg ar sgrîn awyr agored.
Curo wnaethon nhw (spoiler!) a cafwyd noson o ddathlu gwirion i ddilyn.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Uchelgeisiol, hyderus, ffŵl.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Mae gen i atgofion gwych o recordio albym gyntaf Ciwb.
Mi oedd o'n brosiect reit unigryw gan mai fel band rhithiol wnaeth Ciwb gychwyn, yn ystod Covid. Pan ddaethom ni at ein gilydd i recordio albym yn 2021, toeddem ni'm 'di bod yn yr un ystafell ar yr un pryd tan hynny!
Mi ddes i 'nabod Geth, Marged a Carwyn lot gwell dros y pump diwrnod nesa' a cwblhau 10 trac o fewn yr amser. Sesiynau hir, aros dros nos yn y stiwdio, lot o takes byw, lot o yfed a lot o ddyfynnu Cnex.

O'r chwith - Carwyn Williams, Gethin Griffiths, Elis Derby a Marged Gwenllian
Ciwb: O fand rhithiol i ryddhau albwm newydd
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2025
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Gŵyl Y Felinheli, o gwmpas 2002. Ddoth 'na gonsuriwr i wneud sioe i'r plant a mi wnes i roi'n llaw i fyny pan ofynnodd o am rywun i ddod i helpu fo gyda'i dric nesaf.
Dwi'm yn cofio holl fanylion y routine, ond dwi'n cofio fo'n rhoi darn o linyn yn fy mhoced a'i dynnu yn araf bach, gan ddatgelu pâr o drôns Spiderman - "Ta-daaa!"
Wrth gwrs, mi oedd 'na lond tent o blant yn chwerthin, a minnau ar y llwyfan yn taeru mai nid fy rhai i oedden nhw! "Dim trôns fi 'di rheina! SGEN I'M TRÔNS SPIDERMAN!" (dim ond 6 oed o'n i cofiwch!).
Dwn i'm fysa fo'n cael getawê gyda'r math yna o dric heddiw…
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Y tro dwytha i mi wylio'r film Ghost! Pan mae'r prif gymeriad yn cusanu ei gariad am y tro olaf, a'r ffordd mae sgôr hyfryd Maurice Jarre yn chwarae dros y shot olaf ohono yn cerdded i ffwrdd i oleuni'r nefoedd…o na…dwi off eto…
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Llyfr: One, Two, Three, Four: The Beatles In Time. Dwi'n addoli'r band a wedi darllen degau o lyfrau am eu hanes, ond cefais fy llorio hefo'r ffordd roedd hwn wedi ei roi at ei gilydd - mor greadigol, gwreiddiol a gyda ambell bennod wedi ei ysgrifennu ar ffurf alternate timeline sydd yn pwysleisio pa mor wahanol fysa bywyd pob dydd pe tai nhw erioed wedi bodoli - difyr!
Ffilm: Ar hyn o bryd, Goodfellas, Jaws, The Good The Bad and The Ugly, a Pulp Fiction yn ffefrynnau eraill!
Podlediad: Elis James & John Robins. Sna'm lot o bodlediadau sy'n gallu gwneud i mi chwerthin allan yn uchel, ond mae hon yn un.

Elis yn recordio ei raglen arbennig ar gyfer Diwrnod Recordiau Cymraeg ar Radio Cymru
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Rhegi, gadael petha tan y funud olaf, ail-adrodd fy hun a rhegi.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Taid Llanuwchllyn (Taid ochr Dad). Yn anffodus, gesh i 'rioed ei gwrdd gan iddo farw cwpl o flynyddoedd cyn i mi gael fy ngeni, ond yn ôl be' dw i'n glywed gan y bobl oedd yn ei nabod, roedden ni reit debyg o ran ein diddordebau!
Mae Elain fy nghariad wastad yn laff dros bryd o fwyd, nai wahodd hi 'fyd! Geith Elvis weini'r bwrdd.

Mae Elain, cariad Elis "yn laff" ac felly yn cael gwahoddiad i fynd am ddiod gydag Elis, Taid Llanuwchllyn ac Elvis
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fy swydd gyntaf, pan on i tua 13 oedd fel actor llais! Bues i'n lleisio Angelo o'r gyfres Angelo Am Byth a mae o dal yn cael ei ddarlledu bob hyn a hyn - ond diolch i Dduw 'sna neb yn gallu fy adnabod gan bod fy llais wedi newid gymaint.
Ond dwi 'di datgelu mai fi ydi o rwan, felly dyna ni.
'Elis Derbyshire' ydi fy enw yn y credits, sydd yn rywbeth arall 'di ambell berson ddim yn gwybod - mai dyna fy enw iawn i!
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Dwi 'di clywed rhywun yn disgrifio The Great Gig In The Sky gan Pink Floyd fel y gân berffaith i gyd-fynd gyda'r byd yn gorffen, a dwi'n cytuno, felly blastio honna debyg.

Llun i'w drysori: Elis, Shep a Taid Frongaled
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Llawn siarad am Neiniau a Teidiau heddiw, ond cyn i mi ddarganfod John Lennon, Neil Young, Johnny Marr… mae'n debyg mai Taid Frongaled oedd fy arwr cyntaf!
Mi o'n i'n ffodus iawn i gael nabod y dyn yma, a fel 'da chi'n gweld o'r ffordd dwi 'di gwisgo, yn fy nghôt, trwsus glaw a'n gafael ffon bugail bychan; fel Taid on i isho bod!
Dwi'n gwybod hefyd nad oedd Taid yn wirioneddol hoff o gael ei lun wedi ei dynnu chwaith, felly mae cael ei weld yn gwneud ymdrech i gael Shep y ci yn y llun a'n gwenu i'r camera yn neis!
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Unrhyw aelod arall o Ciwb - dwisho gweld os ydw i'n anodd i weithio efo nhw!
Gwrandewch Elis a'i Recordiau am 19.00 ar 31 Awst ar BBC Radio Cymru, neu ar BBC Sounds ar ôl y darllediad
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021

- Cyhoeddwyd10 Awst

- Cyhoeddwyd1 Mehefin
