Ateb y Galw: Lucy Borja

Lucy BorjaFfynhonnell y llun, Chille Noir
GanAlun Gaffey
  • Cyhoeddwyd

Cantores o Gaerdydd yw Lucy Borja sy'n cyfansoddi a recordio caneuon pop amgen gydag elfennau o RnB. Yn dilyn sengl o'r enw Gen Ti a gafodd ei rhydhau y llynedd ar label Maya Music, mae Lucy ar fin rhyddhau sengl newydd ar 2 Mehefin o'r enw 3:30.

Mi fydd Lucy a'i band i'w gweld yn perfformio ar y rhaglen S4C 3 Cân sy'n darlledu yn fuan.

Dyma ddod i adnabod Lucy rhywfaint yn well wrth iddi ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Atgof cyntaf fi yn bach yn morbid. 'Nes i weld cath o'r enw Misty yn ei bedd hi yn yr ardd, oedd hi mor cute ond do'n i ddim yn deall pam oedd Mam yn bod yn dramatic... o'n i'n meddwl ei bod hi'n cysgu!

Lucy yn ferch ifancFfynhonnell y llun, Lucy Borja
Disgrifiad o’r llun,

Lucy yn ferch ifanc

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Worm's Head achos mae 'na geffylau gwyllt yno a dwi'n caru gweld natur pan mae o wedi cael ei adael!

Dwi hefyd yn caru Tryfan ond dim ond achos do'n ni ddim wedi marw. Honestly, best pint dwi erioed wedi cael ar ôl survivo cerdded lan fan'na (not recommended with fake nails & no helmet. Yes dwi'n city girl/idiot).

Lucy gyda'r ceffylau gwyllt ar benrhyn Pen Pyrod yn ardal y GwyrFfynhonnell y llun, Lucy Borja
Disgrifiad o’r llun,

Lucy gyda'r ceffylau gwyllt ar benrhyn Pen Pyrod yn ardal y Gŵyr

Cafodd Lucy brofiad dychrynllyd yn dringo mynydd Tryfan yn y gogleddFfynhonnell y llun, Lucy Borja
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lucy brofiad dychrynllyd yn dringo mynydd Tryfan

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Oedd 'na un noson yn Llundain, oedd e just yn amazing. Aethom ni i Printworks y noson 'naeth e cau! Oeddwn i'n gallu teimlo'r cerddoriaeth... oedd e'n surreal!

Noson arall oedd yn amazing oedd pan es i i Prague. Aethom ni mewn i underground bar ac oedd e fel jungle, crazy!

Un noson arall oedd yn amazing oedd gyrru lan i Tryfan y noson cynt a gweld y Milky Way... do'n ni methu credu faint o glir oedd e!

Lucy'n mwynhau ar noson ola' clwb Printworks, Llundain cyn i'r lle gauFfynhonnell y llun, Lucy Borja
Disgrifiad o’r llun,

Lucy'n mwynhau ar noson olaf clwb Printworks, Llundain, cyn i'r lle gau yn 2023

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Chaotic, joker, fiercely loyal.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Pryd 'naeth Mam dechrau randomly dangos beauty spot a gweud mae'n bwysig cadw llygaid ar pethau fel 'na, ac oedd niece bach ifanc fi wedi rhedeg mewn a pointo syth at y mole a gweud "raisin" ac oedden ni gyd just yn dechrau crio chwerthin!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

Yn ysgol 'nes i gael parti ac o'n i'n gofyn i ffrindiau agosach fi gyd i wisgo gwyrdd ac o'n i'n gwisgo pinc ac oedd pawb arall (y boys) angen gwisgo llwyd... criiiiinge. Another that haunts me is... o'n i wedi pigo blackberries a trio gwerthu nhw tu fas y siop leol...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe - o'n i'n gwylio Guardians of the Galaxy ac, 'na i ddim spoilo fe ond, 'we are grut'... I was gone, haha!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta siocled wedi toddi efo llwy.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Lord of the Flies achos mae o'n dangos herd mentality a chredu a dilyn y person anghywir - yr human condition basically.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Einstein.

Hoffai Lucy gael diod gyda'r gwyddonydd Albert EinsteinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hoffai Lucy gael diod gyda'r gwyddonydd Albert Einstein

Dywedwch rywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

'Nes i achub dwy gath o strydoedd Sbaen (Maya a Luna)... o'n in byw gyda nhw yn Sbaen pan o'n i draw fyna a dod â nhw nol. Mae fe ar TikTok fi, dolen allanol o blynyddoedd yn ôl.

Maya a Luna, y cathod cafodd eu mabwysiadu o SbaenFfynhonnell y llun, Lucy Borja
Disgrifiad o’r llun,

Maya a Luna, y cathod cafodd eu mabwysiadu o Sbaen

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Cael pawb dwi'n 'nabod efo'i gilydd i gael parti gyda loads o gerddoriaeth a bwyd!

Lucy'n cael hwyl yn Las Vegas, Nevada, UDAFfynhonnell y llun, Lucy Borja
Disgrifiad o’r llun,

Lucy'n cael hwyl yn Las Vegas, Nevada, UDA

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Great Grandad o Cape Verde. Mae'n bwysig achos hebddo fe'n gwneud y daith anodd i ddod draw i Gaerdydd... fysa fan hyn ddim yn gartref i mi.

Hen dad-cu Lucy a daeth i Gaerdydd o Cape Verde ym môr yr IweryddFfynhonnell y llun, Lucy Borja
Disgrifiad o’r llun,

Hen dad-cu Lucy a ddaeth i Gaerdydd o Cape Verde ym môr yr Iwerydd

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Rihanna!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: