Ateb y Galw: Aled Emyr

- Cyhoeddwyd
Aled Emyr o'r band Achlysurol sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.
Mae'r band o'r Felinheli, sy'n cynnwys y brodyr Aled ac Ifan Emyr, yn ogystal ag Ifan Williams wedi bod yn brysur yn gigio dros yr haf, mewn gwyliau fel Tafwyl a'r Sesiwn Fawr - ac yn perfformio yn Sioe Môn wythnos yma.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Does gen i ddim un atgof penodol, ond roedden ni fel teulu'n cael cinio dydd Sul efo Nain, ein cyfneitherod a'n cefndryd bob dydd Sul pan yn blant. Dyna rai o fy atgofion cyntaf. Dyddiau hapus iawn.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Ateb amlwg ond Y Felinheli, yn enwedig yn yr ha' yn isda o flaen Garddfon efo peint. Am ryw reswm mae pawb sydd wedi magu yn y Felinheli'n caru'r lle ac mae hynny'n gallu mynd ar nerfau rhai o fy ffrindiau o Gaernarfon!

Y Felinheli - hoff le Aled
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Swil, gwirion, breuddwydiwr.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Mynd ar goll ar y subway pan oeddwn i'n 12 oed.
Aethon ni fel teulu i Efrog Newydd a dyma fi'n rhedeg ar y subway a'r drysau'n cau cyn i weddill y teulu gael y cyfle i ddod 'mlaen.
Roedd hyn cyn y dyddiau lle roedd gan bob plentyn ffôn symudol. Mi oedd o reit frawychus ar y pryd ond mi wnes i lwyddo i aros yn cŵl a mynd oddi ar y trên ar y platfform nesa' a phawb arall yn cyrraedd ryw 10 munud wedyn!
Mae cofio gweld y panig ar wyneb fy mam ar ôl i'r drysau gau yn gwneud i mi chwerthin, erbyn hyn!
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Gan bod hi'n 10 mlynedd ers Ewro 2016 mae cofio noson gêm Rwsia'n sbeshal.
Roedd hi'n ddiwrnod boeth yn Toulouse, a Chymry ym mhob man. Mi oedd hi'n fraint cael bod yn dyst i un o berfformiadau gorau tim pêl-droed Cymru erioed, a'n fraint cael teithio Ffrainc am dros bythefnos efo ffrindiau oes yn dilyn y tîm.

Y Wal Goch yn llifo i stadiwm Toulouse ar gyfer y gêm fythgofiadwy yn erbyn Rwsia ar 20 Mehefin 2016
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Mi es i open mic yn Glôb flynyddoedd yn ôl a ges i fy mherswadio i ganu cân o'n i wedi ei chyfansoddi, ond doeddwn i heb ymarfer a ddim yn cofio'r geiriau, felly 'nes i ganu geiriau hollol gibberish.
Mi o'n i jesd isio gadael yn syth ar ôl y 'perfformiad'! Dwi'n mwynhau cyfansoddi lot mwy na pherfformio, ella dyna pam!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Dwi'n crïo reit aml pan dwi'n gwylio ffilm neu gyfres deledu. Mi wnes i grïo tra'n gwylio pennod o Shrinking ar Apple TV noson o'r blaen!
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Lot ma' siŵr. Gadael pethau ym mhob man ac anghofio lle dwi 'di rhoi nhw. Dwi'n berson anghofus, dwi nôl a 'mlaen o'r tŷ i'r car o leia' dwywaith cyn cychwyn am y gwaith fel arfer!
Mae 'na fwy, ella 'sa 'ngwraig i'n well yn ateb y cwestiwn yma!

Aled (canol) gyda'r ddau Ifan, ei gyd-aelodau yn y band Achlysurol
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Hoff lyfr – The Dice Man gan Luke Rhinehart. Tro cynta nes i ddarllen y llyfr mi wnes i roi give up cyn gorffen achos ei fod o'n mynd yn hollol boncyrs erbyn y diwedd. Neshi ail-ddarllen hi flynyddoedd wedyn a mwynhau'r llyfr yn fwy nag unrhyw lyfr arall.
Hoff ffilm – Cinema Paradiso. Y stori, y perfformiadau, y gerddoriaeth. Bendant ffilm sy'n gwneud i mi grio!
Podlediad – Elis James and John Robins, achos mae o'n gwneud i mi chwerthin.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Brian Wilson o'r Beach Boys neu Paul McCartney. Dau genius oedd yn sêr byd enwog ar adeg mwya' cyffrous cerddoriaeth gyfoes.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Doeddwn i prin yn gallu clywed pan o'n i'n fach. Roedd yr athrawon yn meddwl fy mod i'n hogyn drwg yn yr ysgol achos mi o'n i'n sefyll wrth y giât pob amser cinio a byth yn mynd mewn pan oedd y gloch yn canu.
Dim hogyn drwg o'n i, jesd methu clywed y gloch. Roedd rhaid i mi gael llawdriniaeth i allu clywed yn iawn.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Llun o Elsi ar ddiwrnod priodas Anna a fi.
Mae Elsi'n edrych mor hapus er ma' poeth oedd hi go iawn! Mi oedd hi'n ddiwrnod braf llawn llawenydd, ac hyfryd oedd cael Elsi'n rhan o'r diwrnod.

Elsi falch, boeth ar ddiwrnod priodas Aled ac Anna
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Gweld teulu, ffrindiau, mynd ag Elsi am dro efo fy ngwraig, Anna. Ella mynd am beint bach o flaen Garddfon yn edrych ar y Fenai a gwrando ar rai o fy hoff ganeuon.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Paul Rideout ar 20 Mai 1995; y tro diwethaf i Everton ennill cwpan.
Mi o'n i'n ddwy oed, felly dwi ddim yn cofio dim o'r diwrnod! Ond dwi'n siwr bysa sgorio'r winnar i Everton mewn ffeinal yr FA Cup yn un o'r teimladau gorau erioed!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2020

- Cyhoeddwyd9 Chwefror

- Cyhoeddwyd29 Mehefin
