Pam bod penglog ar grys rygbi newydd Caerdydd?

Liam Belcher a chrys 1876Ffynhonnell y llun, Rygbi Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Liam Belcher, capten Caerdydd y tymor yma yn y crys newydd, a'r crys yn 1876

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n dymor arbennig i Rygbi Caerdydd eleni wrth i'r clwb ddathlu 150 mlynedd.

Er mai ond ers 2003 y mae Rygbi Caerdydd (Y Gleision gynt), sef y rhanbarth broffesiynol presennol yn bodoli, cafodd Clwb Rygbi Caerdydd (Cardiff RFC) ei sefydlu yn 1876. Mae'n chwarae yn haen uchaf Cymru (Super Rygbi Cymru) heddiw.

Yn ddiweddar fe gafodd eisteddle ym Mharc yr Arfau ei hailenwi ar 么l cyn-chwaraewr enwocaf y clwb, Syr Gareth Edwards.

Ond fel teyrnged arall i'r gorffennol mae Rygbi Caerdydd, ar y cyd 芒 Chlwb Rygbi Caerdydd, wedi rhyddhau crys arbennig y tymor yma gan ddefnyddio dyluniad o'r 1870au, sef penglog ac esgyrn.

'Y M么r-ladron'

Crys cyntaf Caerdydd yn 1876 oedd un du plaen 芒 phenglog ac esgyrn arno. Yn 么l y s么n roedd hyn oherwydd cysylltiadau Caerdydd 芒'r m么r, ac hefyd y m么r-ladron o'r ddinas ac yn ehangach yn Ne Cymru.

Yn wir, pan ffurfwyd y clwb eu llysenw oedd The Pirates/Y M么r-ladron.

Agorwyd Parc Yr Arfau fel safle i chwaraeon yn yr 1840au, ac yn y blynyddoedd cynnar criced oedd y gamp a welwyd yno'n bennaf, ac yna athletau. Daeth y maes yn gartref parhaol i Glwb Rygbi Caerdydd yn fuan wedi iddo sefydlu yn 1876.

Crys rygbi Caerdydd 1876Ffynhonnell y llun, Rygbi Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraeodd Caerdydd yn y crys yma yn eu g锚m gyntaf ar 2 Rhagfyr, 1876, yn erbyn Casnewydd

Dim ond am un tymor y parodd y penglog ac esgyrn ar y crys.

Mae'n debyg fod rhieni'r chwaraewyr yn gwrthwynebu'n chwyrn ac yn poeni bod eu meibion yn cael eu cysylltu 芒 thorcyfraith ar y moroedd mawr.

Parc Yr Arfau 1870auFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr olygfa o D诺r y Cloc yng Nghastell Caerdydd yn yr 1870au - Heol y Porth (Westgate Street) yn agos, Parc Yr Arfau yn y canoldir a Temperance Town, sydd bellach wedi diflannu, yn y pelleter

Bydd rhanbarth Rygbi Caerdydd a Chlwb Rygbi Caerdydd yn gwisgo'r crys yma pan fydd y timau'n chwarae ar Barc Yr Arfau ar yr un diwrnod y tymor yma, sef dydd Sadwrn, 5 Rhagfyr.

Bydd Rygbi Caerdydd yn chwarae yn erbyn Ulster yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig. Ac yn dilyn hynny bydd Caerdydd yn wynebu Casnewydd yn Super Rygbi Cymru - y gwrthwynebwyr gwreiddiol o 1876 - bron iawn 150 mlynedd i'r diwrnod ers g锚m gyntaf y clwb.

Crysau Caerdydd 2026/27Ffynhonnell y llun, Rygbi Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Harri Millard, Liam Belcher a Ben Thomas yn gwisgo tri crys eleni - yr un cartref, oddi cartref a'r un 150 mlynedd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.