'Siawns am beint?': Atgofion o fagwraeth yn nhafarn C'mon Midffîld

Seren pêl-droed Cymru Mark Hughes efo Tony 'Penbont' a'i fab Michael
- Cyhoeddwyd
Mark Hughes, Wali Tomos ac Arthur Picton yn cerdded fewn i'r bar… naci, nid dechrau jôc wael ond bywyd bob dydd i ferch a fagwyd mewn tafarn gafodd ei hanfarwoli gan C'mon Midffîld.
Ac wrth i gymuned Llanrug ddod at ei gilydd i geisio prynu'r Penbont, mae'r atgofion wedi bod yn llifo'n ôl i Donna Roberts-Jones.
A doedd gweld enwogion Cymru wrth y bar yn ei chartref ddim ond yn rhan o'i stori. Roedd ei thad hefyd yn extra mewn sawl golygfa o'r gyfres eiconig, gan gynnwys rhai ffilmiwyd yn y dafarn ac yn tywys camel drwy'r pentref.
Meddai Donna, sydd ar bwyllgor Menter Gymunedol Penbont: "Mae'r lle yma'n bwysig i gymuned Llanrug ond mae o'n bwysig hefyd fel rhan o hanes Cymru - C'mon Midffîld ydi un o'r prif raglenni teledu Cymraeg mae pawb yn adnabod."

Donna Roberts-Jones o flaen ei chartref pan oedd hi'n blentyn
Rhwng 1984 a 1994, fe gafodd Donna Penbont ei magu yn y dafarn, oedd yn cael ei rhedeg gan ei thad Tony Roberts - neu Tony Penbont wrth gwrs.
Yn ystod y cyfnod roedd cyfres S4C C'mon Midffîld yn ei hanterth a nifer fawr o'r golygfeydd yn cael eu ffilmio yn Llanrug. Y pentref yn Nyffryn Peris oedd lleoliad cartrefi Tecwyn Parry, George Hughes, Wali Tomos, y Pictons, y siop bapur, cae pêl-droed Brynaber, y capel a'r cigydd Timothy Owen Wallis.
Does ryfedd felly bod y dafarn ger y bont wedi cael ei defnyddio fel canolfan i'r criw ffilmio er mwyn paratoi ac i gael seibiant.

Yn y sgwâr coch ar y chwith i'r Penbont oedd tŷ Walter a Lydia Tomos (roedd Tecwyn a Jean Parry gyferbyn), yn y sgwâr coch canol mae'r capel ble gafodd Gymanfa Ganu gyda Mark Hughes a phriodas George a Sandra eu ffilmio, ac ar y dde oedd lleoliad siop bapur Bryncoch
"Fama oedda nhw'n dod i newid a chael colur," meddai Donna, sydd yn dal i fwynhau'r gyfres hyd heddiw. "Roedd o'n adeilad mawr gwag yn ystod y dydd achos doedd tafarndai ddim yn agored drwy dydd adeg yna.
"Dwi'n cofio bod Mr Picton yn cymryd dros awr i gael gwneud ei golur o, o'n i'n mynd yna i weld nhw'n gwneud o.
"Ma' gen i gof bod nhw efo smoke machine wrth ffilmio hefyd - mashwr i wneud o edrych fel mwg sigaréts.
"Dwi'n cofio bod wrth y lle tân yn gwatchad nhw'n ffilmio a Wali yn sefyll yna."

Donna'n eistedd wrth y bar yn y dafarn, a gyda'i brawd iau Michael - sy'n gwisgo jacet ledr enwog George Hughes
Erbyn yr ail gyfres, roedd y dafarn ei hun wedi dod yn lleoliad ffilmio hefyd.
Y Bull ydi'r dafarn ym mhentref dychmygol Bryncoch. Fe gafodd y golygfeydd tu mewn eu saethu mewn adeilad oedd tu cefn i westy'r Royal - neu'r Celt erbyn hyn - yng Nghaernarfon, ond sydd bellach wedi ei dymchwel. Y Newborough Arms ym Montnewydd ydi'r lleoliad ffilmio tu allan.
Y Penbont ydi lleoliad tu fewn i dafarn gelynion Bryncoch - Brynaber, ac mae ambell i glasur o olygfa wedi ei ffilmio yno.
Fan yma mae Arthur Picton yn cael ei berswadio i gymryd rhan mewn cwis yn erbyn rheolwr Brynaber, Reg Clarke.

"Mae gwybodaeth Mr Picton yn gyffredinol iawn, iawn, iawn, i ti gael dallt Reg Clarke!" Wali yn 'amddiffyn' Arthur Picton yn rhaglen Bryn o Briten, o'r ail gyfres, yn 1990
Mewn rhaglen arall mae Arthur yno yn dathlu ei ben-blwydd - diwrnod yn gynnar - cyn i Tecs daro dafad wrth yrru'n ôl i Fryncoch.
Mae'r ddau - a Wali a George - yn cael eu harestio drannoeth gan ddechrau ar helbulon Meibion Bryncoch.

Arthur yn dathlu ei benblwydd ddiwrnod yn gynnar yn Meibion Bryncoch, o'r drydedd gyfres, yn 1991
Ond er cymaint o 'selebs' oedd sêr C'mon Midffild ar y pryd, mae'n debyg mai'r enw enwocaf i fynd i'r dafarn wrth ffilmio oedd Mark Hughes.
Roedd ymosodwr Man U a Chymru wedi cytuno i fod yn rhan o raglen Gweld Sêr yn 1990, fel rhan o dîm o 'enwogion' oedd yn chwarae yn erbyn Bryncoch i gasglu arian i'r clwb. Golygfa ola'r rhaglen ydi Mark Hughes yn canu mewn Cymanfa Ganu i gasglu arian i'r capel.

Tony, fu farw yn 2022, gyda Mark Hughes
Ffilmiwyd yr olygfa honno yng Nghapel y Rhos, rownd y gornel i'r dafarn ac felly'n naturiol aeth Mark Hughes draw yno i gael peint a chael tynnu lluniau gyda thad a brawd Donna.
"Roedd Mark Hughes yn chwarae efo Man U ar y pryd - ac o'n i a Dad yn cefnogi Man U," meddai Donna. "Man U ydi tîm Michael, y mrawd i hefyd, ond roedd o weithia'n newid timau
"Mewn un llun mae Michael yna yn gwisgo crys Everton - mae hwnna'n neud i fi chwerthin. Ond aeth Mark Hughes i chwarae Everton wedyn!"
Gwyliwch Donna Penbont a ffans eraill o'r gyfres yn dweud eu hoff ddyfyniadau C'mon Midffîld yn y fideo yma o 2018
Roedd nifer o drigolion y pentref yn cael eu defnyddio fel actorion cefndir yn y rhaglenni - gan gynnwys Tony Penbont.
Mae o i'w weld yn tynnu peint yn ei dafarn, mewn tîm pêl-droed ac yn yr olygfa enwog pan mae George Hughes, sydd ar fin dod yn dad, yn breuddwydio am Stori'r Geni - lle mae pawb yn siarad yn debyg iddo fo.
Mae Donna yn cofio cael mynd i wylio, meddai: "Roedd hi'n nos a dwi'n cofio nhw'n ffilmio tu allan i'r Co-op - lle oedd tŷ Mr Picton.
"Doedd y camel ddim yn bihafio ac roedd rhaid iddyn nhw llnau fyny ar ei ôl wrth ffilmio. Roedd o'n trio byta dillad yr actorion ac oedd gan Dad fwyd iddo fo oedd o'n rhoi iddo fo efo'i law.
"Dyna'r tro cynta i gamel fod yn Llanrug - a'r ola' mashwr."

Tony Penbont yn cadw trefn ar y camel er mwyn i'r tri gŵr doeth "arogli Brenin yr Iwerddon ai" yn Yr Alffa a'r Omega, o 1992
Mae C'mon Midffîld yn rhan o hanes y pentref, a dyna o bosib fydd tynged y Penbont hefyd. Ers Rhagfyr 2025 mae drysau'r dafarn wedi cau ond mae'r fenter gymunedol wedi ei sefydlu i geisio ei phrynu.
Ar ddechrau Medi 2026 roedden nhw dros draean y ffordd i'w targed o £200,000 er mwyn ei hailagor fel hwb cymunedol, fydd yn cynnwys tafarn, caffi a llety.
Ac yn ystod yr ymgyrch i werthu cyfranddaliadau mae'r cysylltiad efo pêl-droed wedi dod i'r amlwg. Mae'r actor Llion Williams, fu'n chwarae George Hughes, a John Pierce Jones - Mr Picton - wedi cefnogi'r fenter.
Ac mae ymosodwr Cymru Kieffer Moore hefyd wedi rhoi ei gefnogaeth, dolen allanol gan ei fod yn gymwys i chwarae yn y crys coch oherwydd bod ei daid yn dod o Lanrug.
Mae Donna ar bwyllgor y fenter gymunedol ac eisiau achub y lle oherwydd y gorffennol a'r dyfodol.
"Plentyndod fi ydi fan yma. Fy nghartref i ydi o," meddai.
"Mae gen i atgofion da o'r gymuned a sut oedd pobl yn dod at ei gilydd a dwi'n meddwl bod o'n bwysig dod a fo yn ôl a dod â'r gymuned a phawb at ei gilydd - dim jest yn Llanrug ond bob man.
"Tydi pobl ddim yn 'nabod eu cymdogion - a da'n ni ddim yn byw mewn dinas."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2020

- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2025
