Galw ar Andy Burnham i 'weithredu'n wahanol i'w ragflaenwyr' ar ddatganoli

Andy BurnhamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mewn araith ym Manceinion fe ddywedodd Andy Burnham y byddai'n "sicrhau twf da ym mhob cod post"

GanElliw Gwawr
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i Andy Burnham "weithredu'n wahanol i'w ragflaenwyr yn Rhif 10, a gwrando ar alwadau Cymru am fwy o bwerau", yn ôl arweinydd seneddol Plaid Cymru.

Mewn araith ym Manceinion fe ddywedodd Andy Burnham y byddai'n "sicrhau twf da ym mhob cod post" gan "dynnu grym o'r canol a'i roi yn nwylo'r bobl a'r llefydd sydd yn gallu ei ddefnyddio orau".

Mae cyn-faer Manceinion yn gobeithio dod yn brif weinidog o fewn wythnosau, ac yn ei araith gyntaf ers herio Syr Keir Starmer, fe gyhoeddodd ei fod eisiau symud rhan o swyddfa'r prif weinidog i Fanceinion a chreu "Rhif 10 yn y Gogledd".

Ond mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts yn dweud bod angen iddo drin Cymru fel cenedl nid rhanbarth a "gweithio gyda'r Senedd i alluogi twf yn ardaloedd cod post Cymru".

Liz Saville RobertsFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod angen i Andy Burnham drin Cymru fel cenedl nid rhanbarth

Tra bod y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn dadlau mai "ychydig iawn fydd 'Rhif 10 y Gogledd' yn ei olygu i bobl Cymru".

Dywedodd Andy Burnham ei fod eisiau gwneud pethau'n wahanol, ac y bydd o'n "gwneud i wleidyddiaeth weithio i chi a'r lle da chi'n byw".

"Mae'r anghydbwysedd llwyr mewn adnoddau rhwng llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol yn atal twf", meddai.

"Fyddwn ni byth yn cael twf i fyny at y lefel sydd ei hangen ar Brydain, os nad yw pob cod post yn y wlad mewn sefyllfa i gyfrannu ato."

Carwyn JonesFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid gweithredu nawr, achos mae pobl yn dechrau dweud 'pryd mae'n mynd i wella'", meddai Carwyn Jones

Mae'r cyn-brif weinidog Llafur, Carwyn Jones yn "croesawu'n fawr iawn" y syniad o symud pŵer ac arian allan o Lundain.

Yn siarad ar Dros Frecwast ar Radio Cymru dywedodd bod "sawl rhan o'r Deyrnas Unedig sy'n dal i ddioddef, yn enwedig ar ôl beth ddigwyddodd yn 2008 i'n bancs ni gyd bryd hynny, ac mae'n rhaid gweithredu nawr, achos mae pobl yn dechrau dweud 'pryd mae'n mynd i wella'.

"A dyna beth yw her Andy wrth gwrs, yn gyntaf i roi'r argraff i bobl bod pethau'n mynd i wella ac wedyn wrth gwrs, gwneud hynny."

Yn yr araith dywedodd Andy Burnham ei fod eisiau "cynnig cyfleoedd newydd i ehangu datganoli yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon gan symud grym yn ddyfnach i lawr".

Ond mae cwestiynau yn parhau ynglŷn â beth yn union fyddai hynny'n golygu i Gymru.

Yn y gorffennol mae Andy Burnham wedi dweud bod angen diwygio'r ffordd y mae llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu.

Ond mae'r BBC ar ddeall na fyddai'n mynd ati i newid fformiwla Barnett ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon petai'n dod yn brif weinidog.

Er mi fyddai Carwyn Jones yn dymuno gweld datganoli pellach nid yn unig o fewn Lloegr ond i Gymru hefyd, ac mae'n galw ar Andy Burnham i weithredu rhai o'r argymhellion ddaeth allan o gomisiwn gan y cyn-brif weinidog Gordon Brown i ddatganoli.

"Roedd nifer o awgrymiadau - ynglŷn â chyllido, ynglŷn â strwythur San Steffan er enghraifft, ynglŷn â pha bwerau ddylai ddod i Gymru ac i'r Alban," meddai.

"Byddwn i eisiau gweld o leiaf rhai o'r argymhellion yn cael eu gweithredu nawr, achos does dim byd wedi digwydd dros y ddwy flynedd diwethaf."

'Dylai ddychwelyd at y bobl a cheisio mandad newydd'

Mae'r blaid Reform yng Nghymru yn galw am etholiad Cyffredinol, gyda'u harweinydd Dan Thomas yn dadlau nad oedd "pobl wedi pleidleisio am newid cyfansoddiadol.

"Ni chafodd pobl Prydain y cyfle i ddewis Andy Burnham yn Brif Weinidog," meddai.

"Os yw'n bwriadu dilyn agenda hollol wahanol, gan gynnwys datganoli pellach, dylai ddychwelyd at y bobl a cheisio mandad newydd."

Er bod hon yn araith oedd yn bennaf ynglŷn â grymuso cymunedau, mae Liz Saville Roberts o'r farn bod "ei ffocws yn fawr ar 'y rhanbarthau', sy'n golygu Lloegr".

"Am yn rhy hir o lawer, mae un Llywodraeth y DU ar ôl y llall wedi methu â rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar Gymru i ffynnu ac felly rhaid i 'Frenin y Gogledd' fod yn glir mai cenedl yw Cymru, nid rhanbarth, a gweithio gyda'r Senedd i alluogi twf yn ardaloedd cod post Cymru."

'Cymru yng nghefn y ciw unwaith eto'

Mae llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan, David Chadwick hefyd yn galw am fwy o rymoedd i Gymru.

"Mae Andy Burnham yn dweud ei fod eisiau cymryd grym allan o San Steffan, ond mae'n ymddangos bod y cynlluniau yma heddiw yn gadael Cymru yng nghefn y ciw unwaith eto o'i gymharu â rhanbarthau Lloegr," meddai.

"Os ydi Llafur yn gallu dod o hyd i'r uchelgais i ddatganoli grymoedd ledled Lloegr, dylen nhw gael yr uchelgais i roi'r un grymoedd i Gymru â'r Alban."

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd Darren Millar wedi cyhuddo Andy Burnham o beidio â chael cynllun ar gyfer arwain.

"Heb gynllun ni all wneud y penderfyniadau anodd i dorri trethi, lleihau lles, tyfu ein heconomi, darparu diogelwch ynni a buddsoddi mewn amddiffyn," meddai.

"Yn lle tyfu ein heconomi, mae'n ymddangos mai prif ymrwymiad Andy Burnham yw symud grymoedd o gwmpas rhwng gwleidyddion."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.