Beth sydd yng nghyllideb atodol Llywodraeth newydd Cymru?

Elin Jones yn 2024Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Jones eisoes wedi rhybuddio am benderfyniadau "anodd iawn" i allu ariannu addewidion maniffesto

GanRhodri LewisGohebydd gwleidyddol BBC Cymru aDaniel DaviesGohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae llywodraeth newydd Cymru wedi cyhoeddi eu cyllideb atodol ddydd Mawrth, sy'n cynnwys £40m i atgyweirio ysgolion.

Dywedodd y byddai'n talu am "ôl-groniad cynnal a chadw cynyddol" ac yn "atal dirywiad pellach" mewn adeiladau ysgolion.

Mae £10m ar gyfer ffreuturau ysgolion uwchradd er mwyn cynnig prydau am ddim i fwy o ddisgyblion.

Dyma'r newidiadau cyntaf i gyllideb Llywodraeth Cymru ers i Blaid Cymru ennill etholiad y Senedd ym mis Mai.

£100m ar y gwasanaeth iechyd

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Elin Jones, gynlluniau i wario £294m ar gyflawni polisïau ei phlaid.

Bydd yn rhaid iddi ennill caniatâd y Senedd cyn dechrau gwario'r arian. Fe fydd pleidlais yn cael ei chynnal ar 14 Gorffennaf.

Daw'r arian o gyfuniad o arian ychwanegol gan lywodraeth Prydain a chyllid gwnaeth llywodraeth flaenorol Llafur Cymru ddal yn ôl.

Yr eitem unigol fwyaf yw £100m i'r gwasanaeth iechyd ostwng amseroedd aros.

Dywedodd Jones fod y Blaid wedi "etifeddu pwysau sylweddol" mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Ychwanegodd: "Mae'r Gyllideb Atodol hon yn canolbwyntio adnoddau ar ein blaenoriaethau mwyaf amlwg: lleihau amseroedd aros yr NHS, ehangu gofal plant, ymestyn prydau ysgol am ddim, a lleddfu pwysau costau byw i deuluoedd.."

Mae'r gyllideb yn cynnwys £55m ar gyfer gofal plant, ond bydd £25m o hynny'n cwrdd â'r "galw presennol" am blant tair a phedair oed.

Bydd £20m arall yn mynd tuag at ehangu gofal i fwy o blant dwy oed.

Dyma'r prawf mawr cyntaf i Blaid Cymru ers yr etholiad fis Mai, gan y bydd angen iddyn nhw daro bargen gyda phlaid arall o fewn tair wythnos i gael y cynlluniau drwy'r Senedd.

Yn ôl y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth mae'r gyllideb atodol yn broses sy'n "dechra' dangos lle ydan ni'n blaenoriaethu'r hyn roddon ni ger bron pobol Cymru" yn yr ymgyrch etholiadol.

"Proses dechnegol i raddau ydi hon o sicrhau bod y dyrannu yna'n gallu mynd i alinio rŵan cyllideb llywodraeth efo blaenoriaetha' llywodraeth newydd," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast.

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru chwe sedd yn brin o fwyafrif, felly bydd angen iddyn nhw daro cytundeb er mwyn i'w cynlluniau basio'r Senedd

Mae cyllideb atodol yn cael ei defnyddio gan lywodraeth i wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i'r cynlluniau gwariant presennol.

Tra'n un o'r gwrthbleidiau, roedd Plaid wedi dweud y bydden nhw yn cyflwyno un o fewn eu 100 diwrnod cyntaf pe bawn nhw'n ennill etholiad y Senedd.

Pasiwyd y gyllideb gyfredol ar gyfer 2026-27 ym mis Ionawr, ar ôl i Blaid wneud cytundeb â Llywodraeth Cymru - oedd o dan reolaeth Llafur ar y pryd.

Ond mae'r IFS wedi rhybuddio y gallai'r gwasanaeth iechyd wynebu toriadau real (real-term cuts), oni bai bod yr holl gyllid ychwanegol sydd ar gael o ddydd i ddydd yn cael ei ddyrannu i'r sector.

Mae Plaid chwe sedd yn brin o fwyafrif, felly bydd angen iddyn nhw daro cytundeb er mwyn i'w cynlluniau basio'r Senedd.

Bydd angen i'r llywodraeth ennill cymeradwyaeth y Senedd cyn gwario'r arian, gyda phleidlais wedi'i threfnu ar gyfer 14 Gorffennaf.

Cyn y cyhoeddiad yngyhylch y gyllideb, dywed llefarydd cyllid Llafur, Huw Thomas fod y blaid yn "bryderus" sut y bydd y llywodraeth yn gwario'r £322m o arian canlyniadol yn sgil cynlluniau gwariant llywodraeth San Steffan ar addysg anghenion arbennig.

Mae Llafur, meddai, yn cefnogi galwadau cynghorau sir ac undebau athrawon i ysgolion dderbyn yr arian.

Awgrymodd llefarydd cyllid Reform Cymru, Cai Parry-Jones hefyd bod disgwyl i'r llywodraeth "gymryd arian wedi ei glustnodi ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol tra'n parhau i anfod arian trethdalwyr dramor".

Mae Reform wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gefnogi mentrau tramor gan gynnwys cynlluniau plannu coed yn Affrica.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fore Mawrth fod yr "arian penodol yma'n ymwneud â dyled hanesyddol yn Lloegr nad oes ganddon ni yma yng Nghymru".

Ychwanegodd na fyddai'r taliad "one-off" yma yn rhoi'r "atebion hir dymor" y mae'r maes ei angen, a bod ei lywodraeth "yn benderfynol" o wneud hynny maes o law.

Pwysleisiodd hefyd nad yw torri gwariant ar feysydd eraill yn rhan o'r broses wrth ddyrannu arian ar gyfer prosiectau arbennig o fewn y flwyddyn ariannol, a bydd materion felly'n rhan o'r gyllideb lawn tua diwedd y flwyddyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.